Rhaid i’ch adnodd, gan gynnwys fideos, clipiau sain a phob elfen arall:
fodloni safonau’r Gymraeg
cael ei ddatblygu yn Gymraeg a Saesneg, gan sicrhau bod y ddwy iaith o ansawdd cyfartal ac ar gael ar yr un pryd
defnyddio'r derminoleg gywir sy'n cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru a BydTermCymru
Er mwyn cydymffurfio â safonau'r Gymraeg, rhaid i gynnwys fideo a sain drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Fel arfer, bydd hyn yn golygu darparu fersiynau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rhaid i bob fideo gynnwys capsiynau caeedig yn iaith y fideo, a rhaid darparu trawsgrifiad ar gyfer pob ffeil sain.
Darllenwch yr adran 'Gofynion hygyrchedd' am ganllawiau llawn ar greu cynnwys fideo a sain sy’n cydymffurfio â safonau’r Gymraeg a gofynion hygyrchedd.
Rhaid darparu unrhyw ddogfen sydd ar Hwb yn Gymraeg a Saesneg ar wahân. Mae hyn yn cynnwys dogfennau Word, PowerPoint, Excel a PDF. Derbynnir dogfennau dwyieithog dim ond os ydyn nhw’n benodol ar gyfer datblygu sgiliau amlieithog.
Rhaid i adnoddau a gynhelir ar wefannau, apiau neu lwyfannau allanol fod ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, oni bai bod eithriad wedi’i gytuno â Hwb ymlaen llaw.
Cysylltwch â Safonau.Standards@llyw.cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am safonau’r Gymraeg.