Defnyddiwch y rhestr wirio hon i wneud yn siŵr bod eich adnodd yn barod i'w gyflwyno.
Unwaith y bydd eich adnodd yn barod i'w gyflwyno, rhaid i chi lenwi'r ffurflen uwchlwytho berthnasol.
Ar gyfer adnoddau dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys dylunio cwricwlwm a dysgu sylfaen, cwblhewch ffurflen gais cyhoeddi Adnodd.
Ceir rhagor o wybodaeth yn adran ‘Dewis y maes pwnc cywir ar gyfer eich adnodd’ y canllaw hwn.
Ar gyfer ymholiadau am adnoddau dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru, cysylltwch â comisiynu@adnodd.llyw.cymru.
Ar gyfer adnoddau na fwriedir iddyn nhw gael eu defnyddio’n uniongyrchol gyda dysgwyr neu sy'n fwy addas i feysydd pwnc Hwb eraill, cwblhewch ffurflen gais cyhoeddi Hwb. Mae'r meysydd pwnc hyn yn cynnwys:
dysgu proffesiynol
anghenion dysgu ychwanegol
galwedigaethol ac ôl-16
cadw'n ddiogel ar-lein
Ceir rhagor o wybodaeth yn adran ‘Dewis y maes pwnc cywir ar gyfer eich adnodd’ y canllaw hwn.
Ar ôl derbyn eich adnodd bydd yn cael ei adolygu i sicrhau ei fod yn bodloni gofynion Hwb. Byddwch yn cael gwybod o fewn 15 diwrnod gwaith p’un ai yw eich adnodd wedi’i gymeradwyo ai peidio, a byddwn yn trafod y camau nesaf.
Cysylltwch ag cynnwysaddysg@llyw.cymru os oes gennych chi gwestiynau am y broses uwchlwytho.
Dylech hyrwyddo eich adnodd a rhoi gwybod i ymarferwyr amdano. I'ch helpu gyda hyn, gallwch gyflwyno erthygl i'w chyhoeddi ar Hwb neu yn Dysg gan ddefnyddio ffurflen gyflwyno erthyglau newyddion Hwb.
Dylech hefyd adolygu a gwerthuso eich adnodd yn rheolaidd (argymhellir o leiaf unwaith y flwyddyn) er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gywir, yn berthnasol ac yn addas i'r diben.