Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Ynglŷn â'r canllaw hwn

Mae’r canllaw hwn ar gyfer unrhyw un sy’n creu adnoddau addysgol i’w cyhoeddi ar Hwb.

Yn y canllaw hwn, mae’r term ‘adnodd’ yn cyfeirio at ddeunyddiau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi:

  • dysgu ac addysgu

  • cynllunio cwricwlwm

  • dysgu proffesiynol

Mae'n nodi 7 egwyddor allweddol sydd â’r nod o'ch helpu i gynhyrchu adnoddau addysg o ansawdd uchel sy'n berthnasol yng Nghymru. Cefnogir pob egwyddor gan ganllawiau ar bethau i'w hystyried, yn ogystal â phethau i'w hosgoi wrth ddatblygu adnoddau.

Mae’r canllaw hefyd yn darparu gwybodaeth am feini prawf cyhoeddi a manylebau technegol Hwb, gan amlinellu’r gofynion a’r rhwymedigaethau cyfreithiol y mae’n rhaid eu bodloni cyn y gellir cyhoeddi adnodd ar Hwb.

Sut i ddefnyddio'r canllaw hwn

Defnyddiwch y canllaw hwn wrth gynllunio, datblygu ac adolygu eich adnodd.

Wrth fynd drwy’r canllaw, gwnewch yn siŵr eich bod yn:

  • deall gofynion adnoddau Hwb a ph’un a yw eich cynnwys yn addas i’w gyhoeddi

  • ystyried ar gyfer pwy y mae eich adnodd a ble y dylai gael ei gyhoeddi ar Hwb

  • bodloni’r holl ofynion, gan gynnwys:

    • meini prawf cyhoeddi Hwb

    • gofynion hygyrchedd

    • safonau’r Gymraeg

  • gwirio bod eich adnodd yn barod cyn ei gyflwyno

Mae pob adran yn cefnogi un neu ragor o’r camau hyn, gan eich helpu i adolygu eich gwaith wrth fynd ymlaen.

Y broses gyflwyno

Pan fydd eich adnodd yn barod, defnyddiwch y rhestr wirio ar dudalen ‘Gwirio a chyflwyno eich adnodd’ i gadarnhau ei fod yn bodloni’r holl ofynion perthnasol. Os yw’n gwneud hynny, cyflwynwch ef i’w adolygu gan ddefnyddio’r ffurflen gais berthnasol.

Cysylltwch â ni

Os hoffech drafod eich adnodd cyn ei gyflwyno, cysylltwch â ni.