Dylai adnoddau a gyhoeddir ar Hwb fod yn gywir, yn hygyrch ac wedi’u cynllunio ar gyfer y defnyddiwr. Cyn cyflwyno adnodd, gwnewch yn siŵr ei fod wedi mynd drwy’r broses sicrhau ansawdd briodol a bod unrhyw gynnwys sydd dan hawlfraint wedi’i ddefnyddio yn unol â gofynion trwyddedu a chaniatâd.
Cyn cyflwyno deunyddiau i Hwb, dylai fod gennych brosesau sicrhau ansawdd priodol ar waith.
Fel rhan o’r broses adolygu, efallai y gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am sut y cafodd yr adnodd ei ddatblygu, ei adolygu a’i sicrhau o ran ansawdd.
Pwy ysgrifennodd y cynnwys? Ydyn nhw'n arbenigo yn y pwnc?
Oes mwy nag un person wedi gwirio ffeithiau’r cynnwys?
Oes rhywun heblaw’r awdur wedi golygu’r cynnwys?
Sut cafodd y fersiwn Gymraeg ei chreu? A ddefnyddiwyd cyfieithydd proffesiynol?
Pryd cafodd yr adnodd ei ysgrifennu a'i greu?
Ydych chi wedi defnyddio'r arddull tŷ cywir wrth ysgrifennu'r deunyddiau? (Yn achos deunyddiau sy'n cael eu cynhyrchu ar gyfer Llywodraeth Cymru, gweler Canllaw arddull LLYW.CYMRU.)
Ydy lluniau, fideos, cerddoriaeth ac unrhyw ddeunyddiau eraill â hawlfraint wedi cael eu clirio i’w cynnwys? Yn achos adnoddau sydd wedi'u creu ar gyfer Llywodraeth Cymru neu gan Lywodraeth Cymru, ydych chi wedi llenwi'r ffurflen ryddhau i gael caniatâd?
Ydy’r deunyddiau’n ystyried materion cynrychiolaeth (fel enghreifftiau Cymraeg a Saesneg o waith dysgwyr, cymysgedd rhywedd, lleiafrifoedd ethnig) ac unrhyw ystyriaethau hygyrchedd?
Pan fydd adnoddau’n cael eu datblygu ar ran Llywodraeth Cymru, mae’n bosibl y bydd Tîm Cynnwys Hwb yn rhan o’r broses ddatblygu er mwyn helpu i sicrhau bod yr adnodd yn bodloni gofynion cyhoeddi Hwb. Gall y tîm roi cyngor ar:
wella fformat, strwythur, dyluniad ac iaith cynnwys i’w wneud yn glir, yn hygyrch ac yn canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr
defnyddio’r arddull gywir a chymhwyso safonau cynnwys Llywodraeth Cymru
bodloni gofynion dwyieithrwydd a defnyddio gwasanaethau cyfieithu cymeradwy
cyrchu a defnyddio deunyddiau a gomisiynwyd, megis delweddau, fideos a cherddoriaeth, gan gynnwys y caniatâd a’r ffurflenni cydsynio sy’n ofynnol i’w defnyddio
defnyddio deunyddiau hawlfraint bresennol a sicrhau’r caniatâd angenrheidiol gan ddeiliaid hawlfraint
mynd i’r afael ag ystyriaethau cynrychiolaeth a hygyrchedd, gan gynnwys defnyddio enghreifftiau Cymraeg a Saesneg o waith dysgwyr
Os nad ydych yn siŵr a yw eich adnodd yn cael ei ddatblygu ar ran Llywodraeth Cymru, neu os oes gennych gwestiynau am gynnwys sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru ac sydd wedi’i fwriadu i’w gyhoeddi ar Hwb, cysylltwch â blwch post Cynnwys Addysg: CynnwysAddysg@llyw.cymru.
Lle bynnag y bo modd dylech greu a defnyddio eich testun eich hun mewn adnodd ar gyfer Hwb.
Os ydych yn defnyddio testun rhywun arall mewn adnodd, at ddiben dyfynnu yn unig y dylech wneud hynny. Mae angen i unrhyw ddyfyniad fod:
â chyfeiriad priodol
wedi’i gyfyngu i’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn pwysleisio’r pwynt a wneir
Peidiwch â sganio gwerslyfrau, papurau newydd, cylchgronau nac unrhyw ddeunydd printiedig arall i’w defnyddio mewn adnodd ar gyfer Hwb.
Copïo â llaw neu deipio testun heblaw am at ddibenion dyfynnu.
Mae ffotograffau a darluniau, gan gynnwys rhai a geir ar beiriannau chwilio fel Google Images a Bing Images, wedi'u diogelu gan hawlfraint ac ni chewch eu defnyddio heb ganiatâd y perchennog.
Mae rhai gwefannau, fel Wikimedia Commons, yn cynnig delweddau i'w hailddefnyddio dan drwyddedau Creative Commons. Mae rhai yn ddelweddau ‘parth cyhoeddus’ y gellir eu defnyddio am ddim. Fodd bynnag mae eraill yn destun trwyddedau ‘priodoli’ sy’n ei gwneud yn ofynnol i chi gydnabod perchennog yr hawlfraint.
Defnyddiwch wefannau fel Pixabay, Pexels ac Unsplash sydd â nifer o ddelweddau di-hawlfraint a di-briodoledd ar gael i’w lawrlwytho. Chwiliwch am luniau ar Flickr gan ddefnyddio’r hidlydd ‘No known copyright restrictions’.
Mae clipiau sain a fideo wedi'u diogelu gan hawlfraint. Peidiwch â’u defnyddio mewn adnodd oni bai eich bod:
wedi’u creu nhw eich hun
wedi cael caniatâd gan y sawl wnaeth eu creu
Nid yw prynu CD, DVD, Blu-ray neu ffeil ddigidol yn rhoi'r hawl i chi ddefnyddio'r cynnwys heb gyfyngiadau. Dim ond prynu'r cyfryngau corfforol a'r hawl i wrando ar y gerddoriaeth neu wylio'r ffilm at ddefnydd personol ydych chi.
Fel gyda delweddau, nid yw’r ffaith bod clip eisoes ar-lein yn golygu ei fod yn y parth cyhoeddus ac felly ar gael i'w ddefnyddio’n rhad ac am ddim.
Yn hytrach na mewnblannu fideo ar-lein yn eich adnodd, rhowch ddolen i’r fideo ar blatfform lletya dibynadwy.
Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio clipiau sain rydych chi wedi’u ‘prynu’ ar-lein, fel effeithiau sain, gan y gall telerau'r drwydded olygu eu bod wedi'u cyfyngu at ddefnydd personol yn unig.
Am ragor o wybodaeth am hawlfraint, ewch i’r Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint neu’r Swyddfa Eiddo Deallusol.