Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Beth sy’n gwneud adnodd yn addas ar gyfer Hwb

Mae adnodd Hwb yn offeryn addysgol ymarferol y gellir ei ddefnyddio sy’n helpu dysgwr neu ymarferydd i gyflawni deilliant dysgu, addysgu neu ddysgu proffesiynol clir.

Rhaid i adnodd Hwb:

  • fod â diben addysgol clir sy’n cefnogi dysgu, addysgu, cynllunio’r cwricwlwm, cefnogi dysgwyr neu ddysgu proffesiynol

  • fod yn offeryn dysgu neu addysgu ymarferol, megis gweithgaredd rhyngweithiol, fideo, offeryn digidol neu ddeunydd y gellir ei lawrlwytho

  • bodloni meini prawf cyhoeddi Hwb, gan gynnwys bod yn rhad ac am ddim, yn anfasnachol, heb fod angen mewngofnodi ychwanegol, ac yn cydymffurfio â safonau’r Gymraeg a gofynion hygyrchedd

  • bod yn gywir, yn berthnasol, o ansawdd uchel, yn canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn hygyrch

Nid yw adnodd Hwb yn:

  • ganllawiau, polisi na chynnwys gwybodaeth gyffredinol megis erthyglau newyddion neu ymgyngoriadau, heb ddefnydd ymarferol uniongyrchol

  • gynnwys heb weithred defnyddiwr ddiffiniedig na defnydd ymarferol

  • ddeunyddiau masnachol neu ddeunyddiau mynediad cyfyngedig sy’n gofyn am fewngofnodi neu daliad

  • gynnwys nad yw’n bodloni gofynion hygyrchedd neu gydymffurfiaeth â’r Gymraeg

Os nad yw eich cynnwys yn addas fel adnodd Hwb, efallai y bydd yn fwy addas ar lwyfan arall, er enghraifft ar LLYW.CYMRU ar gyfer cynnwys polisi neu ganllawiau, fel blog neu erthygl newyddion, neu ar dudalen gwasanaeth arall gan Lywodraeth Cymru. Os nad ydych yn siŵr ble y dylid cyhoeddi cynnwys, cysylltwch â blwch post Cynnwys Addysg am gyngor: CynnwysAddysg@llyw.cymru.

Dysgwch fwy am Hwb a'r gwasanaethau y mae'n ei gynnig ar y dudalen Amdanom ni.