Mae adnoddau Hwb wedi’u trefnu’n feysydd pwnc yn ôl eu pwrpas. Cyn datblygu neu gyflwyno adnodd, byddwch yn glir am ei bwrpas, ei gynulleidfa darged a’r canlyniad y bwriedir iddo ei gyflawni. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod yr adnodd wedi’i gynllunio gan ystyried anghenion defnyddwyr a’i fod yn cyrraedd y bobl y bwriedir iddo eu cefnogi.
Mae adnoddau Cwricwlwm i Gymru fel arfer wedi’u cynllunio i’w defnyddio gan ymarferwyr, dysgwyr, rhieni a gofalwyr mewn ystafelloedd dosbarth neu leoliadau addysgol eraill.
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei lywio gan ddibenion clir ac yn canolbwyntio ar helpu dysgwyr i wneud cynnydd. Mae’n cwmpasu popeth y mae dysgwr yn ei brofi wrth geisio cyflawni pedwar diben y cwricwlwm, gan gynnwys:
beth sy’n cael ei addysgu
sut mae’n cael ei addysgu
pam mae’n cael ei addysgu
Mae adnoddau Cwricwlwm i Gymru wedi’u categoreiddio o dan y meysydd pwnc a’r meysydd dysgu a phrofiad canlynol:
Caiff adnoddau sy’n cefnogi dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru eu hadolygu a’u sicrhau o ran ansawdd gan Adnodd cyn cael eu cyhoeddi ar Hwb.
Corff hyd braich Llywodraeth Cymru yw Adnodd, sy’n goruchwylio ac yn cydlynu’r ddarpariaeth o adnoddau addysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg i gefnogi dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru.
Nod Adnodd yw sicrhau bod pob dysgwr ac ymarferydd, beth bynnag fo’u cefndir, yn cael mynediad at adnoddau o ansawdd uchel sy’n ysbrydoli ac yn cefnogi dysgu.
Ar gyfer ymholiadau am adnoddau dysgu ac addysgu neu am waith Adnodd, cysylltwch â comisiynu@adnodd.llyw.cymru.
Mae dysgu proffesiynol yn cefnogi:
cyflawni safonau a dyheadau uchel i bob dysgwr
sut mae ysgolion yn datblygu fel sefydliadau dysgu
yr hawl i ymarferwyr gael mynediad at ddysgu proffesiynol o safon
Mae adnoddau dysgu proffesiynol yn cynnwys astudiaethau achos a dysgu hunangyfeiriedig i gefnogi'r categorïau canlynol:
cwricwlwm, addysgeg ac asesu
datblygu fel gweithiwr proffesiynol
arweinyddiaeth a llywodraethiant
lles, tegwch a chynhwysiant
Caiff adnoddau sy’n cefnogi dysgu proffesiynol eu hadolygu a’u sicrhau o ran ansawdd gan Dysgu cyn cael eu cyhoeddi ar Hwb.
Dysgu yw sefydliad dysgu proffesiynol cenedlaethol Cymru, sy'n cefnogi addysgwyr mewn ysgolion a lleoliadau addysgol gyda rhaglenni, adnoddau ac arweiniad datblygu dwyieithog rhagorol ar draws pob cam gyrfa.
Ar gyfer ymholiadau am adnoddau dysgu proffesiynol neu am waith Dysgu, cysylltwch â post@dysgu.llyw.cymru.
Mae'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn sicrhau bod dysgwyr yn cael cymorth wedi'i deilwra i gael mynediad at addysg ystyrlon a chynhwysol. Mae'n hyrwyddo dulliau sy'n canolbwyntio ar unigolion, gan alluogi pob dysgwr i symud ymlaen ar ei gyflymder ei hun a chyrraedd ei botensial.
Mae amrywiaeth o adnoddau ADY ar gael er mwyn cefnogi dysgwyr ag ADY a chryfhau darpariaeth ADY ar draws ysgolion a lleoliadau. Yn eu plith mae offer ymarferol, astudiaethau achos, a deunyddiau dysgu proffesiynol.
Caiff adnoddau a gyhoeddir yn y maes pwnc ADY eu hadolygu gan dimau polisi perthnasol Llywodraeth Cymru cyn eu cyhoeddi ar Hwb. Mae'r broses adolygu yn helpu i sicrhau bod adnoddau'n gywir, yn gyfredol ac yn cyd-fynd â'r polisi a'r canllawiau cyfredol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyhoeddi adnoddau yn y maes pwnc hwn, cysylltwch â blwch post Cynnwys Addysg: CynnwysAddysg@llyw.cymru.
Gall darparwyr dysgu, ymarferwyr addysgu a gweithwyr addysg proffesiynol gael mynediad at amrywiaeth o adnoddau y tu allan i’r cwricwlwm sy’n cefnogi addysg ôl-16 a’r sector addysg drydyddol ehangach, gan gynnwys:
dysgu digidol (Digidol 2030)
cydraddoldeb (gan gynnwys gwrth-hiliaeth)
llais y dysgwr ac ymgysylltu â'r dysgwr
iechyd meddwl a lles meddyliol
mesurau perfformiad ôl-16
partneriaeth gymdeithasol
Gall y deunydd hwn gynnwys allbynnau o weithgareddau a phrosiectau sydd wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru neu gan Medr: y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Caiff adnoddau a gyhoeddir yn y maes pwnc galwedigaethol ac ôl-16 eu hadolygu gan Medr neu dimau polisi perthnasol Llywodraeth Cymru cyn eu cyhoeddi ar Hwb. Mae'r broses adolygu yn helpu i sicrhau bod adnoddau'n gywir, yn gyfredol ac yn cyd-fynd â'r polisi a'r canllawiau cyfredol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyhoeddi adnoddau yn y maes pwnc hwn, cysylltwch â blwch post Cynnwys Addysg: CynnwysAddysg@llyw.cymru.
Mae Cadw'n ddiogel ar-lein yn cynnig cyfres gynhwysfawr o adnoddau, hyfforddiant a chanllawiau i gefnogi dysgwyr, ymarferwyr a theuluoedd i lywio'r byd digidol yn ddiogel ac yn hyderus.
Mae adnoddau Cadw’n ddiogel ar-lein yn cefnogi ymddygiadau ar-lein diogel, cyfrifol a gwybodus, gan ymdrin â phynciau fel:
cadernid digidol
diogelu a diogelwch ar-lein
hylendid seiber
camwybodaeth
deallusrwydd artiffisial (AI)
Caiff adnoddau a gyhoeddir yn y maes pwnc Cadw'n ddiogel ar-lein eu hadolygu gan dimau polisi perthnasol Llywodraeth Cymru cyn eu cyhoeddi ar Hwb. Mae'r broses adolygu yn helpu i sicrhau bod adnoddau'n gywir, yn gyfredol ac yn cyd-fynd â'r polisi a'r canllawiau cyfredol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyhoeddi adnoddau yn y maes pwnc hwn, cysylltwch â blwch post Cynnwys Addysg: CynnwysAddysg@llyw.cymru.