Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Meini prawf a dewisiadau cyhoeddi Hwb

Cyn datblygu neu gyflwyno eich adnodd, darllenwch y dudalen 'Beth sy'n gwneud adnodd yn addas ar gyfer Hwb' er mwyn deall pwrpas Hwb, y mathau o gynnwys sy’n cael eu cyhoeddi fel adnoddau Hwb, a’r gofynion ar gyfer cyhoeddi. Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu a yw eich cynnwys yn addas i’w gyhoeddi ar Hwb.

Os yw eich cynnwys yn addas, rhaid i chi wedyn sicrhau ei fod yn bodloni meini prawf cyhoeddi Hwb. Amlinellir y gofynion hyn yn yr adrannau canlynol, a rhaid eu bodloni cyn y gellir cyflwyno eich adnodd i’w adolygu.

Meini prawf cyhoeddi Hwb

Rhaid i adnoddau:

Ni ddylai adnoddau:

  • gynnwys dolenni at wefannau y mae angen i ddefnyddwyr fewngofnodi eto neu ddarparu manylion er mwyn eu defnyddio

  • hyrwyddo unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu sefydliad lle y mae unrhyw weithgarwch masnachol

  • gorfodi defnyddiwr i brynu unrhyw beth er mwyn cael mynediad at yr adnodd neu ei ddefnyddio

Dewisiadau cyhoeddi

Dim ond mewn un lle y dylid cyhoeddi adnodd. Mae dau opsiwn ar gyfer cyhoeddi ar Hwb.

Lletya

Os nad yw eich adnodd ar gael ar-lein rywle arall, mae’n gallu cael ei storio’n uniongyrchol (lletya) ar blatfform Hwb. Mae hynny’n golygu bod defnyddwyr yn gallu mynd at yr adnodd a’i ddefnyddio heb orfod ymweld â gwefan arall.

Rhaid i’r adnoddau sydd ar Hwb gydymffurfio â gofynion hygyrchedd a safonau'r Gymraeg.

Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw ddolenni ar eich gwefan yn cyfeirio defnyddwyr i'r adnodd sydd ar Hwb. Mae Meic Cymru yn rhoi enghreifftiau o sut i wneud hyn.

Cyfeirio

Mae hyn yn golygu nad yw'r adnodd yn cael ei storio ar Hwb. Bydd Hwb yn cynnig i ddefnyddwyr ddolen i gyfeiriad HTTPS diogel dwyieithog allanol. Bydd angen i ddefnyddwyr ymweld â'r wefan allanol i weld yr adnodd. Er enghraifft os yw eich adnoddau eisoes ar eich gwefan, gallwch gysylltu â nhw’n uniongyrchol o Hwb, fel BBC Bitesize.