Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Ymunwch â'r Rhwydwaith Ymarferwyr Llythrennedd

Gwnewch gais i ymuno â’r Rhwydwaith Ymarferwyr Llythrennedd newydd sy’n cefnogi’r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol, a helpwch lunio polisi ac ymarfer llythrennedd yng Nghymru.
14 Medi 2026

Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd mynegiadau o ddiddordeb gan ymarferwyr i ymuno â’r Rhwydwaith Ymarferwyr Llythrennedd Cenedlaethol newydd.

Bydd y Rhwydwaith yn cefnogi’r gwaith o gyflawni elfennau llythrennedd y Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol drwy sicrhau bod safbwyntiau ymarferwyr yn helpu i lywio canllawiau, deunyddiau ategol a datblygiadau yn y dyfodol ym maes addysg llythrennedd ledled Cymru.

Rydym yn croesawu mynegiadau o ddiddordeb gan ymarferwyr sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau, lleoliadau a chategorïau ieithyddol.

Mynegiadau o ddiddordeb

I ddatgan diddordeb, anfonwch e-bost at ILlC.gohebiaeth@llyw.cymru gan gynnwys crynodeb byr o’ch profiad a’ch arbenigedd perthnasol ym maes addysg llythrennedd, datganiad byr yn amlinellu pam yr hoffech ymuno â’r Rhwydwaith a’r cyfraniad y gallech ei wneud, ynghyd â chadarnhad bod eich pennaeth, rheolwr neu uwch dîm arwain wedi cymeradwyo eich cyfranogiad.

Mae mynegiadau o ddiddordeb ar agor o 15 Medi 2026 tan 13 Hydref 2026.

Mwy o wybodaeth

Bydd rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cylch gorchwyl a disgwyliadau aelodaeth y Rhwydwaith, yn cael ei rhannu gydag ymgeiswyr ar ôl derbyn eu mynegiant o ddiddordeb.

Tagiau:
cwricwlwm addysgu
Rhannu:

Y newyddion diweddaraf