Y rhaglen Addysgu Digidol gyda Hyder
Wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod, bydd cael y cymorth cywir ar waith yn gwneud eich addysgu’n fwy ystyrlon a hylaw.
Mae’r rhaglen Addysgu Digidol gyda Hyder yn cefnogi ymarferwyr gydag amrywiaeth o gyfleoedd dysgu proffesiynol, gan gynnwys strategaethau ymarferol, magu hyder, a’r defnydd moesegol o dechnolegau digidol.
Mae’r rhaglen hon yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chyflwyno gan STEM Learning, ac yn rhoi arweiniad arbenigol i chi ffynnu eleni.
Dysgwch fwy gan Hayley Cheney, Cynghorydd Addysg, sy’n ystyried sut i ddatblygu sylfaen addysg ddigidol gref ar ddechrau’r tymor newydd yn ei blog diweddaraf ar wefan dysgu STEM.