Wythnos Gwrth-fwlio: Gwobr Staff Ysgolion Cymru ar agor ar gyfer enwebiadau
Mae’r wobr yn cydnabod aelodau o staff sy’n mynd yr ail filltir i greu amgylcheddau dysgu diogel, parchus a chynhwysol.
Mae'r wobr, wedi’i chynnal fel rhan o bartneriaeth rhwng Bullies Out a’r Anti-Bullying Alliance, yn dathlu staff sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymuned ysgol. Bydd pob unigolyn a enwebir yn derbyn tystysgrif, a bydd panel o blant a phobl ifanc yn dewis yr enillwyr terfynol o ysgolion cynradd ac uwchradd yn ystod Wythnos Gwrth-fwlio, rhwng 16 a 20 Tachwedd.
Mae’r wobr eleni’n cael ei chefnogi gan Radnor Fam, a fydd yn darparu gwobrau i’r aelodau o staff sy’n ennill. Bydd yr enillwyr terfynol yn cael eu gwahodd i’r digwyddiad gwrth-fwlio yng Nghaerdydd, lle bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 17 Tachwedd.
Cyflwyno enwebiad
Gall staff ysgol helpu disgyblion i gwblhau’r ffurflen ar-lein ar wefan y National Children’s Bureau i gyflwyno enwebiad.