Techosorws yn cael ei lansio i helpu dysgwyr ifanc i fod yn ddiogel ar-lein
Mae Techosorws yn achub yr ysgol! yn llyfr lluniau rhyngweithiol sydd wedi'i anelu at blant rhwng 4 a 7 oed er mwyn eu helpu i ddatblygu'r wybodaeth, yr hyder a'r arferion cadarnhaol sydd eu hangen arnynt gadw'n ddiogel ar-lein. Trwy anturiaethau Techosorws a grŵp o ddeinobotiaid ar-lein drygionus, mae pedair neges allweddol o ran diogelwch ar-lein yn cael eu cyflwyno i'r dysgwyr: Chwarae, Diogelu, Gofyn a Dweud.
Lansiwyd yr adnodd yn swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth 4 Awst, gyda'r gantores, a chyflwynydd teledu a radio Lisa Angharad yn darllen stori arbennig i blant a theuluoedd. Roedd Anna Brychan, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, a'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth yn y digwyddiad, ac aethant i stondin NSPCC Cymru i ddysgu mwy am yr adnodd a'i rôl wrth helpu plant i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder i ymdrin â'r byd digidol yn ddiogel.
Mae'r adnodd dwyieithog, sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cefnogi ysgolion i ddatblygu gwytnwch digidol mewn plant o oedran cynnar. Mae'n annog ymddygiadau cadarnhaol ar-lein ac yn helpu plant i ddeall sut i fod yn garedig ar-lein, sut i ddiogelu gwybodaeth bersonol, i ofyn cyn rhoi cynnig ar rywbeth newydd ar-lein ac i siarad ag oedolyn y gellir ymddiried ynddynt os oes rhywbeth yn peri gofid neu'n achosi pryder iddynt. Bydd copïau o'r llyfr yn cael eu dosbarthu i ysgolion cynradd a llyfrgelloedd ledled Cymru o fis Medi ymlaen.
Cyn y lansiad, dywedodd Anna Brychan, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg:
Mae technoleg yn chwarae rhan bwysig ym mywydau plant, gan ddod â chyfleoedd i ddysgu, creu a chysylltu. Mae'r un mor bwysig bod plant yn datblygu'r sgiliau a'r hyder i ymdrin â'r byd ar-lein yn ddiogel.
Mae Techosorws yn achub yr ysgol! yn cyflwyno negeseuon diogelwch ar-lein allweddol mewn ffordd hwyliog, ddifyr ac sy'n briodol i'w hoedran. Rydym yn falch o gefnogi'r adnodd hwn a'r gwaith gwerthfawr sy'n cael ei wneud gan NSPCC Cymru i helpu plant ledled Cymru i gadw'n ddiogel ar-lein.
Dywedodd Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus NSPCC Cymru, Cecile Gwilym:
Mae hwn yn gyfle pwysig i gefnogi dealltwriaeth plant o ddiogelwch ar-lein ac i fynd i'r afael â bwlch mewn adnoddau diogelwch ar-lein ar gyfer dysgwyr oedran ysgol gynradd.
Mae darparu adnoddau yn Gymraeg ac yn Saesneg yn sicrhau eu bod yn hygyrch i blant ledled Cymru ac yn adlewyrchu'r cwricwlwm yng Nghymru ac ymrwymiad NSPCC Cymru i gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg.
Mae'r llyfr wedi'i gynllunio ar gyfer plant ifanc sy'n dechrau defnyddio technoleg a'r rhyngrwyd. Mae'n cyflwyno diogelwch ar-lein mewn ffordd gadarnhaol, gan helpu plant i ddatblygu arferion ac ymddygiadau digidol iach o oedran cynnar, wrth feithrin gwybodaeth a sgiliau diogelwch ar-lein sylfaenol.
Gellir defnyddio'r llyfr mewn ystafelloedd dosbarth, llyfrgelloedd ysgolion a gweithgareddau lles a dysgu digidol ehangach, gyda gweithgareddau dysgu ychwanegol a deunyddiau ategol ar gael trwy'r NSPCC. Mae Gwasanaeth Ysgolion yr NSPCC hefyd yn darparu ystod eang o adnoddau diogelu dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer addysgwyr a'r plant y maent yn gweithio gyda nhw.
Gall ysgolion, rhieni a gofalwyr hefyd gael mynediad at ystod o ganllawiau, adnoddau a chymorth diogelwch ar-lein yn adran Cadw'n Ddiogel ar-lein Hwb.