Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Paratowch ar gyfer platfform newydd Hwb

Mae angen gweithredu nawr i sicrhau bod eich ysgol, lleoliad neu sefydliad yn barod cyn i'r platfform newydd lansio.
11 Medi 2026

Bydd y platfform Hwb newydd yn rhoi profiad mwy modern a symlach sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan ei gwneud hi'n haws dod o hyd i'r arweiniad, yr offer a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch. Fel rhan o'r trawsnewidiad hwn, mae rhai o’r offer a’r ffyrdd o weithio presennol yn newid.

Os nad ydych wedi dechrau paratoi eto, rydym yn eich annog yn gryf i wneud hynny nawr. Mae'r amser sy'n weddill i adolygu eich cynnwys, archwilio offer amgen a chwblhau unrhyw gamau angenrheidiol yn brin.

Gweithredwch nawr

Edrychwch ar y dogfennau isod a chwblhewch y camau sy'n berthnasol i'ch ysgol, lleoliad neu rôl cyn gynted â phosibl.

Mae'r dogfennau'n esbonio:

  • beth sy'n newid

  • beth sydd angen i chi ei wneud

  • terfynau amser ac amserlenni allweddol y mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt

Gallai oedi cyn gweithredu ei gwneud hi'n anoddach i chi gwblhau unrhyw newidiadau angenrheidiol cyn i'r platfform newydd lansio. Bydd cymryd camau nawr yn helpu i sicrhau pontio llyfn a lleihau’r tarfu ar staff a dysgwyr.

Dogfennau

Ail-greu rhestri chwarae Hwb gydag Adobe Express

Dysgwch sut i ail-greu rhestrau chwarae Hwb yn Adobe Express.

Cymryd rhan

Os hoffech helpu i lunio'r platfform newydd, e-bostiwch: mailto:userresearch@hwbcymru.net.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â: Hwb.Development@gov.wales.

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf