Mae platfform Hwb newydd yn dod ar 27 Hydref
Bydd y platfform newydd yn ei gwneud hi'n haws dod o hyd i ganllawiau, offer, newyddion ac adnoddau, yn ogystal â darparu sylfaen gryfach ar gyfer gwelliannau a nodweddion newydd yn y dyfodol.
Beth sy'n newid
Mae'r platfform wedi'i gynllunio i wella sut mae defnyddwyr yn dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt. Bydd yn cynnig:
dyluniad mwy modern a hygyrch
gwell trefniadau llywio ac arwyddion cliriach
mynediad haws at ganllawiau, offer, adnoddau a chymorth
profiad symlach a mwy greddfol i’r defnyddiwr
sylfaen gryfach ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol
Bydd y platfform yn teimlo'n gyfarwydd i ddefnyddwyr presennol, ond hefyd yn ei gwneud hi'n haws iddynt dod o hyd i'r wybodaeth, yr offer a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Rydym yn annog holl ddefnyddwyr Hwb i sicrhau eu bod yn cael y newyddion diweddaraf wrth i ni symud yn agosach at lansio.
Rhagolwg o blatfform newydd Hwb
Mae rhagolwg o blatfform newydd Hwb bellach ar gael:
Gwybodaeth bwysig cyn lansio
Mae'r dogfennau canlynol yn esbonio:
beth sy'n newid
beth sydd angen i chi ei wneud
terfynau amser ac amserlenni allweddol y mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt
Rhwydweithiau Hwb
Diweddariad am Rwydweithiau Hwb
Rhestrau Chwarae Hwb
Diweddariad am Restrau Chwarae Hwb
Gallwch hefyd ddysgu sut i ail-greu rhestrau chwarae gan ddefnyddio Adobe Express:
Ail-greu Rhestrau Chwarae Hwb yn Adobe Express
Helpu i siapio dyfodol Hwb
Rydym yn parhau i ddatblygu a gwella'r platfform newydd. Os hoffech gymryd rhan mewn ymchwil defnyddwyr a helpu i gyfrannu at ddatblygiadau’r dyfodol, e-bostiwch: ymchwiliddefnyddwyr@hwbcymru.net
Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â: Hwb.Datblygiadau@llyw.cymru