Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Diwrnod Shwmae Su’mae 2026

Mae Diwrnod Shwmae Su’mae yn digwydd bob blwyddyn ar 15 Hydref i annog pawb i ddechrau sgyrsiau yn Gymraeg, gydag adnoddau i helpu ysgolion, busnesau a chymunedau i ddathlu’r diwrnod.
7 Hydref 2026

Pecyn hyrwyddo

Mae pecyn hyrwyddo ar gael i helpu chi ddathlu’r diwrnod, sy’n cynnwys:

  • gwybodaeth am thema eleni, “Pwy Sy’n Dweud Shwmae?”

  • syniadau ac ysbrydoliaeth ar gyfer ffyrdd o ddathlu’r diwrnod mewn ysgolion, gweithleoedd, sefydliadau a chymunedau

  • syniadau ar gyfer creu cynnwys a chymryd rhan yn ymgyrch eleni

  • adnoddau y gallwch eu defnyddio i helpu i hyrwyddo a dathlu Diwrnod Shwmae Su’mae

Lawrlwythwch y pecyn hyrwyddo a nifer o adnoddau o wefan Diwrnod Shwmae Su’mae.

Gallwch weld pa ddigwyddiadau sy’n agos i chi hefyd ar wefan Diwrnod Shwmae Su'mae.

Lledaenwch y neges

Eleni, rydyn ni eisiau dathlu’r bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg a’u straeon, gan ddangos bod y Gymraeg i bawb. Rydyn ni’n annog pawb i fod yn greadigol a dathlu’r diwrnod mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.

Byddem wrth ein bodd yn gweld cymaint o bobl, ysgolion, sefydliadau a chymunedau â phosibl yn cymryd rhan, felly rhannwch y pecyn gyda’ch rhwydweithiau a helpwch ni i ledaenu’r neges.

Hefyd, pan rydych chi’n rhannu cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, cofiwch ddefnyddio’r hashnod #shwmae26

Mwy o wybodaeth

Cydlynir ymgyrch Diwrnod Shwmae Su ’mae 2026 gan Mentrau Iaith Cymru. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â diwrnodshwmae@gmail.com

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf