Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Diweddariad misol ar addysgeg ac arferion ym maes dysgu sylfaen: Medi 2026

Mae diweddariad y mis hwn yn tynnu ynghyd ystod o adnoddau, cyfleoedd dysgu proffesiynol ac enghreifftiau ymarferol i helpu gyda gwaith asesu yn y blynyddoedd cynnar.
24 Awst 2026

Wrth inni ddechrau blwyddyn academaidd newydd, mae mis Medi yn gyfle i ystyried sut mae asesu ac arsylwi yn ein helpu i ddeall, cefnogi a dathlu camau dysgu a datblygu plant. Mae arsylwi effeithiol yn ganolog i ymarfer ymatebol, gan ganiatáu i ymarferwyr sylwi ar ddiddordebau plant, eu cynnydd a'r camau nesaf yn eu dysgu.

Asesu

Mae asesu yn y blynyddoedd cynnar yn gylch arsylwi, drwy sylwi ar yr hyn y mae plant yn ei wneud, yn ei ddweud ac yn ei ddangos inni drwy chwarae a phrofiadau bob dydd, ac yna dadansoddi hynny ac ymateb.

Mae'r adnoddau canlynol yn darparu cymorth ymarferol i ymarferwyr:

Dysgu o Ymarfer

Ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth gan eich cyd-ymarferwyr? Mae pum astudiaeth achos yn dangos sut y gall arsylwi meddylgar gryfhau profiadau dysgu plant:

Mae'r enghreifftiau hyn yn tynnu sylw at sut y gall gwaith arsylwi bob dydd ddarparu mewnwelediad cyfoethog i gamau dysgu, lles a datblygiad plant.

Cefnogi Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar

Cyfres o adnoddau sy'n parhau i gefnogi ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant iau, gan gynnwys 'Trefniadau Asesu ar gyfer Babanod a Phlant Bach 0 i 3 oed yng Nghymru' a 'Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol'.

Mae'r adnoddau hyn, ynghyd â'r adnodd 'Ymarfer myfyriol a chynllunio ymatebol' yn annog y gweithlu i ystyried arferion, ac yn cryfhau dulliau asesu ar draws y sector plentyndod cynnar.

Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd, sy'n cydnabod rôl hanfodol ymarferwyr y blynyddoedd cynnar wrth osod sylfeini cadarn ar gyfer datblygu sgiliau cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd plant o'r blynyddoedd cynharaf. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu maes o law.

Lledaenu'r gair

Rydym yn eich annog i rannu'r wybodaeth hon â chydweithwyr. Gall eraill ymuno â'r rhestr bostio drwy anfon e-bost i: dysgusylfaen@llyw.cymru.

Rydym hefyd yn croesawu unrhyw adborth. Mae croeso ichi rannu eich barn drwy'r un cyfeiriad e-bost.

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf