Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Digwyddiadau seiberwydnwch i ysgolion

Gwahoddir ysgolion a lleoliadau addysg eraill ledled Cymru i ddod i un o ddau ddigwyddiad seiberwydnwch rhanbarthol a gynhelir ym mis Medi.
14 Gorffennaf 2026

Bydd y digwyddiadau’n cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â Chanolfan Seiberwydnwch Cymru (WCRC), Rhwydwaith Diogelu Heddlu Seiber Cymru a Llywodraeth Cymru, a byddant yn archwilio'r risgiau seiber sy'n wynebu sefydliadau heddiw a'r camau ymarferol y gellir eu cymryd i wella gwydnwch.

Mae lleoliadau addysg yn rheoli cryn dipyn o wybodaeth sensitif ac yn dibynnu fwyfwy ar ystod o wasanaethau digidol, systemau a chyflenwyr trydydd parti. Bydd y digwyddiadau hyn yn ystyried sut y gall ysgolion gryfhau eu seiberwydnwch, diogelu data, ac ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau seiber.

Bydd y rhai fydd yn bresennol yn cael cyfle i glywed gan arbenigwyr o faes plismona, seiberddiogelwch ac addysg, gan ymdrin â phynciau fel:

  • bygythiadau seiber cyfredol sy'n effeithio ar sefydliadau a lleoliadau addysg

  • parodrwydd ac ymateb i ddigwyddiadau seiber

  • diogelu cyfrifon, dyfeisiau a gwybodaeth sensitif

  • seiberwydnwch o fewn gwasanaethau a chyflenwyr trydydd parti

  • y cymorth, yr offer a’r adnoddau sydd ar gael i ysgolion

Mae'r digwyddiadau wedi'u hanelu at arweinwyr ysgolion, llywodraethwyr, arweinwyr TG, arweinwyr digidol ac eraill sydd â chyfrifoldeb am seiberddiogelwch, diogelu a gwasanaethau digidol mewn lleoliadau addysg.

De Cymru

Dyddiad: Dydd Mawrth 15 Medi 2026 Lleoliad: Stadiwm Dinas Caerdydd (Ffordd Lecwydd, Caerdydd, Cymru, CF11 8AZ)

Gogledd Cymru

Dyddiad: Dydd Mawrth 22 Medi 2026 Lleoliad: Y Cae Ras (Mold Rd, Wrecsam, LL11 2AH)

Bydd rhagor o wybodaeth, gan gynnwys yr agenda lawn, yn cael ei dosbarthu i’r rhai sydd wedi cofrestru unwaith y bydd yr wybodaeth honno wedi'i chwblhau.

Math:
Cadw'n ddiogel ar-lein
Rhannu:

Y newyddion diweddaraf