Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Digwyddiad gwrth-fwlio ar gyfer ysgolion yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad cenedlaethol ar 17 Tachwedd i rannu adnoddau ac arferion gwrth-fwlio.
10 Gorffennaf 2026

Fel rhan o Wythnos Gwrth-fwlio 2026, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad cenedlaethol yng Ngerddi Sophia, Caerdydd, ddydd Mawrth 17 Tachwedd 2026 rhwng 10:30am a 2.45pm.

Mae’r digwyddiad yn agored i ymarferwyr addysg gynradd ac uwchradd, yn ogystal â chynrychiolwyr awdurdodau lleol sydd â diddordeb mewn hyrwyddo cynhwysiant a mynd i’r afael â bwlio. Sicrhewch eich lle a chofrestrwch nawr ar Ddigwyddiadur Busnes Cymru.

Teitl y digwyddiad yw 'Codi llais: rhannu arferion gwrth-fwlio' a bydd yn rhoi cyfle i:

  • arddangos gweithgarwch gwrth-fwlio presennol ledled Cymru a dathlu enghreifftiau o waith cadarnhaol

  • glywed mwy am y canllawiau diweddaraf a’r adnoddau ymarferol sydd ar gael

  • glywed gan amrywiaeth o sefydliadau arbenigol ac ymarferwyr am arferion effeithiol

Gallwch helpu dysgwyr i enwebu aelod o staff ar gyfer y Gwobr Staff Ysgol Gwrth-fwlio ar wefan Bullies Out. .

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf