Digwyddiad gwrth-fwlio ar gyfer ysgolion yng Nghymru
Manylion y digwyddiad
Ymunwch â ni ddydd Mawrth 17 Tachwedd 2026 yng Ngerddi Sophia (Clwb Criced Morgannwg), Caerdydd, rhwng 10:30am a 2:45pm ar gyfer digwyddiad cenedlaethol sy'n arddangos adnoddau gwrth-fwlio newydd a chefnogaeth sydd ar gael i ysgolion ledled Cymru.
Cefnogwyr y digwyddiad
Rydym yn falch iawn y bydd Owen Evans, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn), yn llywio'r digwyddiad, gan ddod â'i arbenigedd helaeth a'i angerdd dros gefnogi rhagoriaeth ar draws system addysg Cymru.
Rydym hefyd yn falch iawn o groesawu Nigel Owens MBE, Noddwr elusen Bullies Out, fel gwestai arbennig. Ochr yn ochr â’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg a sefydliadau partner, bydd Nigel yn helpu i ddathlu ymrwymiad ysgolion ac ymarferwyr sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc ledled Cymru.
Gallwch helpu dysgwyr i enwebu aelod o staff ar gyfer y Gwobr Staff Ysgol Gwrth-fwlio ar wefan Bullies Out.
Noder fod enwebiadau'n cau am 5.00pm ar 25 Medi.
Cofrestru
Mae'r digwyddiad yn agored i ymarferwyr ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â chynrychiolwyr awdurdodau lleol.
Sicrhewch eich lle a chofrestrwch nawr ar Ddigwyddiadur Busnes Cymru.
Darperir cinio.
Beth i'w ddisgwyl
Bydd mynychwyr ymhlith y cyntaf i weld ystod o adnoddau newydd a diweddar, gan gynnwys deunyddiau gwrth-fwlio ymarferol a gwybodaeth am ymgyrch Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2027.
P'un a ydych chi'n chwilio am ddeunyddiau ymarferol, enghreifftiau o ymarfer effeithiol neu'r datblygiadau polisi diweddaraf, mae'r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle gwerthfawr i gysylltu â chydweithwyr o bob cwr o Gymru a chefnogi’r ymrwymiad a rennir i fynd i'r afael â bwlio a hyrwyddo cynhwysiant.