Cyrsiau dysgu proffesiynol am ddim i athrawon gan Cymru Global
Datblygu Sgiliau Cymdeithasol ac Emosiynol Cadarnhaol
17 Mehefin 2026 rhwng 4 a 6pm ar-lein. Dysgwch am adnoddau sy'n cefnogi dysgwyr i ennill sgiliau allweddol ar gyfer iechyd a lles cymdeithasol ac emosiynol. Cofrestrwch ar-lein drwy Eventbrite.
Sefydlu a rhedeg Cyfryngu Cyfoedion yn eich ysgol
24 Mehefin 2026 rhwng 4 a 6pm ar-lein. Darganfyddwch sut i sefydlu cynllun Cyfryngu Cyfoedion yn eich ysgol, gan gynnwys mewnbwn gan ysgolion sydd eisoes â chynlluniau cyfryngu ar waith. Cofrestrwch ar-lein drwy Eventbrite.
Adeiladu cymunedau ysgol a lleol heddychlon a chydnerth
29 Mehefin 2026 rhwng 4 a 6pm ar-lein. Cyflwyniad i adnoddau sy'n cefnogi dysgwyr i ddod yn heddychwyr chwilfrydig a gweithredol, wedi'u hysbrydoli gan enghreifftiau o'r gorffennol a chyda syniad clir o'r math o gymunedau yr hoffent eu gweld. Cofrestrwch ar-lein drwy Eventbrite.