Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Cymorth seiberwydnwch i ysgolion

Hyfforddiant ac adnoddau i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer bygythiadau seiber ac ymateb iddynt.
12 Mehefin 2026

Mae ysgolion yn cael eu targedu fwyfwy gan seiberdroseddwyr, gan ei gwneud hi'n bwysicach nag erioed adeiladu gwydnwch seiber cryf ar draws eich lleoliad. Mae ymosodiadau seiber yn dod yn fwy cyffredin, a gwe-rwydo (negeseuon neu e-bost twyllodrus) yw'r bygythiad mwyaf cyffredin, sy'n effeithio ar bawb, yn sefydliadau ac unigolion fel ei gilydd, felly gwiriwch ddolenni bob amser cyn i chi glicio.

Er mwyn cefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer bygythiadau seiber ac ymateb iddynt, mae amrywiaeth o hyfforddiant, gwasanaethau ac adnoddau ar gael.

Hyfforddiant a gwasanaethau

Gweminarau seiber i benaethiaid

Mae Canolfan Seiberwydnwch Cymru yn cyflwyno gweminarau seiberddiogelwch pwrpasol ar gyfer Penaethiaid ym mis Gorffennaf. Bydd y sesiynau rhad ac am ddim hyn yn canolbwyntio ar gyfrifoldebau arweinyddiaeth, cryfhau gwydnwch yr ysgol gyfan, a chamau ymarferol i’w cymryd i leihau risg.

Hyfforddiant ymateb i ddigwyddiadau seiber

Mae heddluoedd yng Nghymru yn cynnal sesiynau hyfforddi ar-lein rhad ac am ddim i staff ysgolion. Mae pob sesiwn yn para dwy awr ac yn eich tywys trwy ddigwyddiad seiber realistig er mwyn i chi allu profi pa mor barod yw eich ysgol.

Modiwl hyfforddiant ymwybyddiaeth seiberddiogelwch

Mae'r modiwl hyfforddiant ar-lein hwn a gefnogir gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn helpu staff ysgolion i ddeall bygythiadau seiber cyffredin a gwella gwydnwch seiber eu hysgol.

Modiwl hyfforddiant ymwybyddiaeth o we-rwydo

Mae modiwl hyfforddiant ar-lein ar gael i helpu staff i ddeall gwe-rwydo: beth ydyw, sut i'w adnabod, a sut i amddiffyn eu hunain a'u sefydliad. Mae'r modiwl yn ymdrin â thechnegau gwe-rwydo cyffredin a chamau ymarferol i gadw’n ddiogel.

Efelychiad o we-rwydo ar systemau e-bost a reolir gan Hwb

Gall ysgolion sy'n defnyddio e-bost a reolir gan Hwb ofyn am brawf gwe-rwydo diogel i helpu staff i ddysgu sut i adnabod negeseuon e-bost amheus. Mae'r efelychiad yn anfon neges realistig ac yn rhoi adroddiad dienw fel y gall ysgolion nodi lle gallai fod angen cymorth neu hyfforddiant ychwanegol.

Canllawiau ac adnoddau

Cynllun ymateb seiber i ysgolion

Cynllun ymarferol y gall ysgolion ei ddefnyddio i wella sut maen nhw'n canfod ac yn ymdrin â digwyddiadau seiber. Mae'n cynnwys templedi y gellir eu haddasu ar gyfer eich lleoliad eich hun.

Adnoddau CyberSprinters NCSC

Mae CyberSprinters yn set o adnoddau addysgu rhad ac am ddim a gêm ar-lein gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ar gyfer plant 7 i 11 oed. Mae'r deunyddiau yn helpu dysgwyr i ddeall:

  • sut i greu cyfrineiriau cryf

  • sut i ddiogelu eu dyfeisiau

  • sut i gadw gwybodaeth bersonol yn ddiogel

  • sut i adnabod negeseuon amheus

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf