Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Cyfleoedd STEM, Digidol a Seiberddiogelwch i Ysgolion Cynradd gan NDEC

Mae Rhaglen Addysg ac Allgymorth NDEC yn cynnig gweithgareddau STEM, digidol a seiberddiogelwch ymarferol i ddisgyblion ym Mlwyddyn 3 i 6.
7 Medi 2026

Mae Rhaglen Addysg ac Allgymorth NDEC yn cynnig cyfleoedd cyffrous, ymarferol i ddisgyblion ym Mlwyddyn 3 i 6 ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u hymwybyddiaeth o yrfaoedd yn y sectorau digidol, STEM a seiberddiogelwch.

Mae'r rhaglen yn cynnwys ystod o weithgareddau a gynllunnir yn benodol ar gyfer disgyblion ysgol gynradd, gan gynnwys:

  • Peirianneg Gymdeithasol ar gyfer Blwyddyn 3: gweithdy rhyngweithiol sy'n cyflwyno disgyblion i ddiogelwch ar-lein a pheirianneg gymdeithasol.

  • Cist Gyfrinachol ar gyfer Blwyddyn 4 : gweithgaredd datrys problemau a gynllunnir i ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol a gwaith tîm.

  • Ymchwiliad Fforensig Digidol ar gyfer Blwyddyn 5 : prosiect aml-sesiwn lle mae disgyblion yn ymchwilio i drosedd ddigidol ffug ac yn datblygu sgiliau fforensig digidol ymarferol.

  • Cystadleuaeth Rhyngrwyd Pethau (IoT) ar gyfer Blwyddyn 6: prosiect lle mae disgyblion yn dylunio eu dyfais Rhyngrwyd Pethau (IoT) eu hunain, gan ystyried ei bwrpas, ei risgiau a'i seiberddiogelwch.

  • Prosiect Rhwydweithio ar gyfer Blwyddyn 6: gweithgaredd ymarferol sy'n cyflwyno disgyblion i hanfodion rhwydweithio cyfrifiadurol.

  • Arweinwyr Digidol, Arwyr Seiber: rhaglen hyfforddi'r hyfforddwr sy'n rhoi'r sgiliau a'r adnoddau i Arweinwyr Digidol rannu negeseuon diogelwch ar-lein o fewn eu hysgol.

Mae'r rhaglen yn gweithio gydag ysgolion cynradd ledled De-ddwyrain Cymru a'i nod yw ysbrydoli disgyblion, codi dyheadau ac arddangos y cyfleoedd gyrfa gyffrous sydd ar gael o fewn STEM, technoleg a seiberddiogelwch.

Mae NDEC hefyd yn datblygu gweithgareddau newydd ar hyn o bryd, sy'n golygu y bydd cyfleoedd pellach i ysgolion ar gael yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drafod archebu sesiwn, cysylltwch â: ndeceducation@southwales.ac.uk.

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf