Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Cryfhau seibergadernid eich ysgol yr hydref hwn

Yr hydref hwn, mae cyfres o weminarau a sesiynau hyfforddi am ddim ar gael i helpu arweinwyr a staff ysgolion i gryfhau eu seibergadernid a pharatoi ar gyfer digwyddiadau seiber posibl.
17 Medi 2026

Gan fod bygythiadau seiber yn parhau i effeithio ar sefydliadau o bob maint, mae'r sesiynau rhad ac am ddim hyn yn cynnig cymorth ymarferol i helpu ysgolion i gryfhau eu seibergadernid a gwella eu parodrwydd ar gyfer digwyddiadau seiber. Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle.

Gweminarau seiber i benaethiaid

Wedi'u darparu gan Viridias Solutions Ltd ar ran Llywodraeth Cymru, mae'r sesiwn ymarferol hon wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer penaethiaid ac uwch arweinwyr. Bydd y weminar yn darparu cyngor syml ac ymarferol ar wella seibergadernid heb osod pwysau afrealistig ar amser nac adnoddau ariannol ysgolion. Archebwch eich lle drwy Hwb:

  • Seibergadernid Ysgolion i Benaethiaid - Dydd Mawrth 13 Hydref

Hyfforddiant ymateb i ddigwyddiadau seiber

Mae heddluoedd ledled Cymru hefyd yn cynnig sesiynau hyfforddi ar-lein am ddim ar ymateb i ddigwyddiadau seiber i staff ysgolion. Mae'r sesiynau rhyngweithiol hyn, sy'n para dwy awr, yn defnyddio senarios realistig o ddigwyddiadau seiber i helpu ysgolion i asesu eu parodrwydd a chryfhau eu trefniadau ymateb.

Mae sesiynau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg:

  • Hyfforddiant ymateb i ddigwyddiadau seiber i ysgolion (Cymraeg) - Dydd Gwener 9 Hydref

  • Hyfforddiant ymateb i ddigwyddiadau seiber i ysgolion (Saesneg) - Dydd Iau 15 Hydref

Mae pob sesiwn yn rhad ac am ddim i'w mynychu. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly argymhellir archebu'n gynnar.

Math:
Cadw'n ddiogel ar-lein
Rhannu:

Y newyddion diweddaraf