Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig llawer o fanteision fel helpu pobl i wneud y canlynol:
cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu
gwneud ffrindiau newydd drwy gysylltu â chymunedau ac unigolion o'r un anian
dod o hyd i gymorth a chyngor defnyddiol
cefnogi a dylanwadu achosion
cael y newyddion diweddaraf
Fodd bynnag, mae anfanteision i'r cyfryngau cymdeithasol. Ymysg y rhain mae:
pwysau cymdeithasol
dirnadaeth wyrdroëdig o realiti a chymharu ein bywyd ag eraill
teimlo'n unig, yn ynysig ac allan ohoni
anodd cael y cydbwysedd cywir rhwng gweithgareddau ar-lein ac all-lein
dod i gysylltiad â chynnwys niweidiol
dod i gysylltiad â phobl â bwriadau drwg
Mae llawer o gwmnïau cyfryngau cymdeithasol wedi dechrau integreiddio offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (AI cynhyrchiol) i'w platfformau i ddefnyddwyr er mwyn creu:
delweddau
testun
cyfryngau eraill
Mae AI cynhyrchiol hefyd yn personoli eich ffrydiau cyfryngau cymdeithasol drwy ddewis cynnwys yn seiliedig ar eich hanes pori.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig y potensial i ddal sylw cynulleidfa fawr. Gall pobl ddod yn enwogion neu'n frandiau, a elwir yn 'ddylanwadwyr'.
Gall dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn aml:
hyrwyddo cynhyrchion, ffyrdd o fyw neu agweddau penodol
perswadio eraill i weithredu ar sail eu hargymhellion
Mae rhai dylanwadwyr wedi dod yn enwog drwy wneud y canlynol:
tynnu sylw at faterion ac achosion cymdeithasol pwysig
rhannu gwybodaeth a safbwyntiau cytbwys
Mae eraill yn defnyddio eu platfform i hyrwyddo ffyrdd o fyw uchelgeisiol, er enghraifft gyda chynnwys ynghylch:
ffitrwydd
ffasiwn
dylunio mewnol
Mae hefyd ddylanwadwyr sydd wedi dod yn adnabyddus am rannu barn eithafol a niweidiol. Gall y rhain effeithio'n negyddol ar eu dilynwyr drwy gamliwio eu safbwyntiau.
Mae'n bwysig cofio bod dylanwadwyr yn rhannu cynnwys sydd wedi'i ddewis yn fwriadol a dyna yn aml yw eu gwaith. Mae'n hawdd cymharu eich bywyd â'r delweddau wedi'u saernïo'n ofalus a welwn ar-lein. Fodd bynnag, mae'n bwysig meddwl yn feirniadol am y cynnwys rydych chi'n ei weld.
Os yw'r cynnwys yn hyrwyddo cynnyrch neu wasanaeth, er enghraifft ffasiwn, teithio neu gemau, ystyriwch:
a yw'n hysbysiad neu'n waith hyrwyddo am dâl?
a yw'r dylanwadwr yn hyrwyddo dim ond am ei fod wedi cael ei dalu i wneud hynny?
a yw'r delweddau'n realistig?
a yw'r cynnyrch neu'r gwasanaeth hwn yn angenrheidiol?
a oes adolygiadau o'r cynnyrch neu'r gwasanaeth yn rhywle arall?
a oes dewis arall rhatach?
a yw'r un cynnyrch neu wasanaeth yn rhatach yn rhywle arall?
Os yw'r cynnwys yn rhannu safbwynt neu farn, ystyriwch:
pam mae'r cynnwys wedi'i greu?
a oes cymhelliad y tu ôl i'r cynnwys hwn?
a yw'r cynnwys wedi'i olygu neu ei lunio mewn ffordd benodol?
pa mor realistig yw'r delweddau?
a yw'r safbwyntiau yn rhai cytbwys?
a oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r honiadau hyn (er enghraifft gan ddarparwyr newyddion mawr neu wefannau ag enw da)?
sut mae'r cynnwys yn gwneud i chi deimlo?
ar bwy neu beth mae'r cynnwys hwn yn ceisio dylanwadu?
Gall fod yn anodd llywio'r ymddygiadau cadarnhaol a negyddol sy'n cael eu harddangos gan ddylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Ceisiwch gofio'r canlynol:
Gall bywyd dylanwadwyr ymddangos yn ddymunol. Fodd bynnag, dim ond cyfran fach o'u bywyd maen nhw'n ei dangos. Dyma'r rhannau o'u bywydau maen nhw fel arfer yn cael eu talu i'w rhannu. Os yw cynnwys gan ddylanwadwr penodol yn effeithio ar eich hunan-barch neu'ch iechyd meddwl, dylech roi'r gorau i'w dilyn. Yna, dylech geisio cymorth gan weithiwr proffesiynol neu rywun rydych chi'n ymddiried ynddo.
Pan ydyn ni'n gweld postiadau sy'n ein dychryn, sy'n gwneud inni chwerthin, sy'n gwneud inni deimlo'n flin neu'n drist, dyna pryd ydyn ni fwyaf agored i niwed. Gall hyn ein gwneud yn agored i gredu barn neu safbwyntiau rhagfarnllyd a gwneud pryniannau diangen. Edrychwch am safbwyntiau, cynnwys neu gynhyrchion amgen o ffynonellau dibynadwy i sicrhau bod gennych safbwynt cytbwys. Yna gallwch wneud eich penderfyniadau eich hun a llunio eich barn eich hun.
Gall clicio 'rhannu' neu 'hoffi' ar bostiad dadleuol achosi niwed i eraill drwy ledaenu casineb neu gamwybodaeth. Meddyliwch am eich ôl-troed digidol eich hun.
Mae'n naturiol bod eisiau rhannu darnau gorau eich bywyd gyda theulu a ffrindiau. Fodd bynnag, weithiau mae'n bosibl y byddwch yn eich cael eich hun yn edrych ar gynnwys sy'n gwneud ichi deimlo:
yn annigonol
yn ddig
yn bryderus
dan bwysau
Gall hyn gynyddu a dechrau cael effaith negyddol ar eich llesiant corfforol a meddyliol lle rydych:
yn poeni am eich ymddangosiad
yn profi ofn colli allan (FOMO)
yn profi ynysigrwydd cymdeithasol
Mae help ar gael os ydych chi neu berson ifanc rydych chi'n ei adnabod yn aml:
wedi eich gorlethu
yn teimlo'n bryderus
yn ei chael yn anodd ymdopi
Mae ein tudalen cymorth a chefnogaeth yn cynnwys gwybodaeth am sut i gael mynediad at gyngor a chymorth cyfrinachol am ddim.
Ffrydio byw yw darlledu fideo byw amser real gan ddefnyddio'r rhyngrwyd. Gall pobl ifanc ddefnyddio gwasanaethau ffrydio byw i greu eu darllediad eu hunain neu gallan nhw wylio eraill yn ffrydio'n fyw. Gall hyn gynnwys enwogion, blogwyr fideo (neu 'flogwyr') a 'chwaraewyr gemau', yn ogystal â ffrindiau a theulu.
Gall ffrydio byw fod yn ffordd gadarnhaol o fynegi eich hun a chysylltu â phobl sydd â diddordebau tebyg. Fodd bynnag, gall hefyd arwain at ganlyniadau difrifol.
Mae'n bwysig deall goblygiadau preifatrwydd rhannu cynnwys.
Cyn ffrydio'n fyw, ystyriwch:
yr hyn rydych chi'n ei ddarlledu
pwy all weld eich darllediad
gwybodaeth bersonol neu eich lleoliad y gallech fod am eu cuddio
y gosodiadau ar y gwasanaeth ffrydio byw rydych chi'n ei ddefnyddio i sicrhau eu bod yn iawn i chi
Mae heriau ar-lein fel arfer yn ymwneud â defnyddwyr yn recordio eu hunain yn cymryd rhan mewn her. Yna maen nhw'n rhannu'r recordiad ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn annog neu'n herio eraill i ailadrodd yr her. Bwriad straeon celwydd ar-lein yw ymddangos yn rhai gwir ac yn aml gallan nhw fod ar ffurf:
stori ddychrynllyd
ffotograff
erthygl newyddion
fideo
memyn (meme)
Os ydych chi'n dod yn ymwybodol o her neu stori gelwydd niweidiol, mae'n hanfodol nad ydych chi'n gwneud unrhyw beth sy'n codi ymwybyddiaeth ohoni yn anfwriadol.
Pan welwch her neu stori gelwydd ar-lein, eich greddf o bosibl fydd rhybuddio eraill. Fodd bynnag, gall hyn gynyddu chwilfrydedd pobl eraill ac achosi iddyn nhw chwilio am y cynnwys niweidiol.
Gallai enwi her neu stori gelwydd niweidiol ar-lein achosi'r risg o ledaenu cyrhaeddiad y cynnwys ymhellach. Mae'n well peidio â chanolbwyntio ar fanylion un her neu stori gelwydd benodol. Yn lle hynny, rhowch arweiniad cyffredinol ar gyfer delio â phroblemau ar-lein.
Gall heriau ar-lein a chynnwys sy'n achos pryder godi'r angen i siarad am faterion difrifol eraill fel:
hunan-niweidio
hunanladdiad
Mae'n bwysig cofio, hyd yn oed pan fydd rhywbeth yn mynd yn feirol ar-lein, nid yw'n golygu bod pob person ifanc wedi ei weld neu wedi clywed amdano. Ceisiwch gael sgyrsiau agored am risgiau heriau a straeon celwydd ar-lein:
heb ddangos unrhyw enghreifftiau
heb roi manylion penodol
Weithiau gall pobl gael eu denu i ymgymryd â heriau oherwydd mai dyna mae eu ffrindiau yn ei wneud neu mae'n ymddangos mai dyna maen nhw'n ei wneud. Gall dweud 'na' ymddangos yn beth anodd iawn i'w wneud.
Adnoddau i gefnogi gwersi am y cyfryngau cymdeithasol yn yr ystafell ddosbarth.
Ffyrdd posibl i ysgolion ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.
Fideo i helpu ysgolion i ddeall canllawiau ar bolisïau ac arferion cyfryngau cymdeithasol.