Mae AI cynhyrchiol yn fath o ddeallusrwydd artiffisial sy'n cynhyrchu deunydd, gan gynnwys testun, delweddau a sain. Mae'r modelau hyn yn dysgu o ddata sydd eisoes yn bodoli i greu deunydd gwreiddiol yn seiliedig ar batrymau.
Mae AI cynhyrchiol yn cael ei integreiddio'n gynyddol i ddyfeisiau clyfar a llawer o apiau a gwasanaethau poblogaidd rydyn ni'n eu defnyddio bob dydd.
Gall systemau AI cynhyrchiol brosesu a dadansoddi symiau enfawr o ddata er mwyn adnabod patrymau a rhagfynegi, ond:
nid oes ganddo'r gallu i feddwl a deall cyd-destun fel y mae pobl yn ei wneud
gall roi ymatebion sy'n rhagfarnllyd, yn anghywir neu'n niweidiol
Mae risgiau o ran data a phreifatrwydd hefyd yn ystyriaethau allweddol. Wrth i ni groesawu'r posibiliadau y mae AI cynhyrchiol yn eu cynnig, mae'n bwysig:
ystyried y risgiau posibl
meddwl yn feirniadol am ei gyfyngiadau fel y gallwn fod yn ddefnyddwyr cyfrifol ac egwyddorol
Mae system argymell yn fath o feddalwedd sy'n awgrymu cynnyrch, gwasanaethau neu gynnwys i ddefnyddwyr yn seiliedig ar ddata. Mae systemau argymell yn rhan gyffredin o ddeallusrwydd artiffisial a ddefnyddir gan lwyfannau fel:
y cyfryngau cymdeithasol
gwefannau newyddion
gwasanaethau ffrydio fideo
manwerthwyr ar-lein
Mae'r systemau hyn yn awgrymu cynnwys yn seiliedig ar ymddygiad y defnyddiwr megis:
cliciau
eitemau a hoffwyd
hanes gwylio
chwiliadau
Gall hyn wneud i gynnwys deimlo'n fwy perthnasol a diddorol. Fodd bynnag, mae'n bwysig meddwl yn ofalus am sut mae'r systemau hyn yn siapio'r hyn yr ydym yn ei weld a sut y gallan nhw gyfrannu at bolareiddio cymdeithasol.
Mae gwahanol ffurfiau ar sgwrsfotiaid AI. Mae pob un wedi'i gynllunio i gyflawni dibenion gwahanol, yn dibynnu ar sut maen nhw'n cael eu hadeiladu a beth maen nhw'n cael eu defnyddio ar ei gyfer.
Mae sgwrsfotiaid AI fel ChatGPT, Co-pilot a Gemini wedi'u datblygu i ymateb i ystod eang o awgrymiadau neu gwestiynau mewn ffordd debyg i'r ymateb dynol. Gallan nhw:
ymdrin ag ymholiadau cymhleth
cynhyrchu cynnwys creadigol
gwella dros amser yn seiliedig ar ryngweithio
Gall sgwrsfotiaid aml-ddull hefyd wneud pethau fel:
ymateb i leferydd
creu delweddau realistig
creu celf
Mae sgwrsfotiaid AI wedi'u hyfforddi ar sail setiau data mawr o'r rhyngrwyd. Mae hyn yn golygu y gall sgwrsfotiaid adlewyrchu'r gwallau neu'r rhagfarnau a geir yn y ffynonellau hynny. Weithiau gallan nhw gynhyrchu gwybodaeth sydd yn:
camarwain
anghywir
niweidiol
Er bod eu hymatebion yn aml yn swnio'n gredadwy, nid ydyn nhw’n gwirio ffeithiau nac yn deall cyd-destun. Gall dibynnu arnyn nhw fel prif ffynhonnell wybodaeth effeithio ar sut mae pobl yn:
dysgu
ffurfio barn
gwneud penderfyniadau
Gall cynnwys anghywir a rennir gan unigolion neu lwyfannau dibynadwy ledaenu camwybodaeth.
Mae rhai llwyfannau gemau fideo a chyfryngau cymdeithasol wedi ychwanegu sgwrsfotiaid AI at eu gwasanaeth. Mae yna hefyd ystod o gynhyrchion cydymaith cymdeithasol sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion cymdeithasol defnyddwyr, fel cwmnïaeth, rhamant ac adloniant.
Er nad yw sgwrsfotiaid AI yn deall teimladau nac emosiynau, gall pobl ddechrau teimlo cysylltiad emosiynol â nhw. Mae yna risgiau hefyd ynghylch preifatrwydd data a'r posibilrwydd o fod yn agored i gynnwys sydd yn:
camarwain
amhriodol
niweidiol
Mae hyn yn arbennig o wir i ddefnyddwyr iau neu fwy agored i niwed.
Er mwyn helpu defnyddwyr i wneud penderfyniadau gwybodus, mae Common Sense Media wedi creu adolygiadau annibynnol o gynnyrch AI.
Adnoddau i gefnogi gweithgareddau dysgu am ddiogelwch ar-lein.
Canllawiau i ysgolion a lleoliadau ar sut i integreiddio AI cynhyrchiol yn gyfrifol ac yn ddiogel.
Canllawiau i ysgolion ynghylch pryderon diogelu o ran AI cynhyrchiol a sut i ymgorffori hyn fel rhan o arferion a pholisi diogelu.
Rhan o 360 Safe Cymru a allai gynorthwyo arweinwyr ysgolion i ddatblygu eu polisïau a'u harferion o ran AI cynhyrchiol.
Yn helpu ymarferwyr addysg i ddeall beth yw deallusrwydd artiffisial, sut y gallai effeithio ar addysg a ffyrdd o gefnogi dysgwyr yn ddiogel ac yn gyfrifol.
Canllawiau hanfodol i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Sut i gael mynediad at gynhyrchion Microsoft 365 fel Teams ac Outlook, eu ffurfweddu a’u defnyddio drwy Hwb.
Gwybodaeth am Gemini Notebook trwy Hwb, gan gynnwys ystyriaethau a sicrwydd data.
Gwybodaeth am Google Gemini trwy Hwb, gan gynnwys ystyriaethau a sicrwydd data.