Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Hyfforddiant Adoption UK am ddim ar gyfer ysgolion a lleoliadau

Archwilio’r rhesymau pam y gall dysgwyr sydd â phrofiad o ofal wynebu anawsterau wrth reoleiddio eu hymddygiad, a’r strategaethau sydd ar gael i’w cefnogi’n effeithiol ac yn dosturiol drwy ddefnyddio dull sy’n cael ei lywio gan drawma.

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Adoption UK Cymru wedi datblygu hyfforddiant rhad ac am ddim i staff mewn lleoliadau y blynyddoedd cynnar, ysgolion Cynradd ac ysgolion Uwchradd.

Bydd 2 sesiwn tair awr.  Mae Rhan 1 yn archwilio pam y gall dysgwyr wedi’u mabwysiadu ac sydd â phrofiad o ofal brofi heriau wrth reoleiddio eu hymddygiad.

Mae Rhan 2 yn archwilio dulliau therapiwtig a pherthynol a ddefnyddir gan rieni a gofalwyr mabwysiadol a sut y gellir eu haddasu i sefyllfaoedd ysgol.

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys cyngor ar sut y gallai fod angen addasu neu fireinio polisïau ymddygiad er mwyn gallu cefnogi'r dysgwyr hyn.  Bydd cyfleoedd i drafod a rhannu profiadau gydag ymarferwyr eraill. 

Bydd yr hyfforddiant yn cael ei arwain gan Arweinydd Addysg AUK Cymru, mabwysiadwr ac athro sydd â 33 mlynedd o brofiad i lefel UDRh. Byddant yn darparu enghreifftiau o arferion da ac awgrymiadau gorau gan bobl wedi’u mabwysiadu a mabwysiadwyr i roi cyfle i staff ysgol gael gwybod am strategaethau sy'n gweithio. 

I gofrestru, ewch i wefan Adoption UK.

Ebostiwch Julie.moseley@adoptionuk.org.uk arweinydd Addysg AUK, os oes gennych chi gwestiynau.

Rhannu:

Digwyddiadau diweddaraf