Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Hwb yn Cyflwyno: Google Gemini Canvas

Darganfyddwch sut i ddefnyddio Google Gemini Canvas i greu adnoddau a gemau rhyngweithiol i ddysgwyr.
16:00 - 16:30 25 Tachwedd 2026 Yn cychwyn ymhen 7 diwrnod

Bydd y sesiwn arlein hon yn dangos sut mae Ysgol Bryn Hedydd yn Sir Ddinbych yn defnyddio Google Gemini Canvas drwy Hwb i greu gweithgareddau, gemau ac adnoddau rhyngweithiol i gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth ar draws gwahanol feysydd cwricwlwm. Cofrestrwch ar-lein drwy Microsoft Forms.

Bydd y sesiwn yn cynnwys enghreifftiau byw o weithgareddau y mae dysgwyr yn eu defnyddio i gefnogi rhifedd a llythrennedd. Bydd hefyd yn dangos ac yn rhoi cyngor ar sut i ddefnyddio Gemini Canvas i droi syniadau’n weithgareddau ac adnoddau digidol y gall dysgwyr ryngweithio â nhw.

Mae Google Gemini Canvas ar gael i staff ysgolion yn rhad ac am ddim drwy Hwb, ond gall dysgwyr ddefnyddio'r adnoddau digidol a grëir ganddo.

Rhannu:

Digwyddiadau diweddaraf