Llenyddiaeth yn Tanio’r Dychymyg: Cwrs Dysgu Proffesiynol i athrawon Cynradd
Manylion y digwyddiad hwn
Yn ystod y blynyddoedd ysgol 2025-26 a 2026-27, rydym yn cynnig cyfres o gyrsiau Dysgu Proffesiynol Cyfieithu Creadigol i athrawon cynradd ac uwchradd yng Nghymru. Bydd pob cwrs yn cael ei gynnal arlein mewn tair sesiwn ar ôl ysgol, 90 munud yr un, dan arweiniad ein hwyluswyr arbenigol. Byddant yn trafod sut y gall cyfieithu creadigol ysgogi diddordeb a chymhelliant eich dysgwyr. Mae pob un o'r cyrsiau ar gael yn rhad ac am ddim.
Defnyddiwch y ffurflen hon i nodi’r lefel cwrs sydd o ddiddordeb i chi (cynradd neu uwchradd), a’r dyddiadau yr hoffech eu mynychu. Mae lleoedd yn brin, felly cofiwch nodi pob un o’r dyddiadau y gallwch eu mynychu. Byddwn yn dyrannu lleoedd ar sail argaeledd. Byddwn yn cysylltu â phawb sydd wedi llenwi'r ffurflen cyn gynted ag y bydd dyddiadau sesiynau cyntaf y cwrs o’u dewis wedi’u cadarnhau. Diolch yn fawr am eich diddordeb!