Mae cynnydd dysgwyr ar hyd continwwm dysgu o 3 i 16 oed yn ganolog i Gwricwlwm i Gymru. Mae asesu yn chwarae rhan sylfaenol wrth alluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a'u herio yn unol â hynny.
Cwricwlwm ysgol yw popeth y mae dysgwr yn ei brofi er mwyn cyflawni’r pedwar diben. Nid dim ond yr hyn a ddysgwn, ond sut a pham yr ydym yn ei addysgu. Cynllunio cwricwlwm ac asesu pwrpasol yw'r allwedd i gefnogi cynnydd.
(Am ganllawiau ychwanegol ar gynllunio’r cwricwlwm, gweler yr adran Blaenoriaethau ar gyfer datblygu’r cwricwlwm a dysgu ar y daith i gyflwyno’r cwricwlwm)
Mae’r egwyddorion cynnydd yn darparu gofyniad gorfodol o ran sut olwg sydd ar gynnydd i ddysgwyr. Maen nhw’n disgrifio’r hyn y mae’n ei olygu i ddysgwyr wneud cynnydd a’r galluoedd a’r ymddygiadau y mae’n rhaid i ymarferwyr geisio eu cefnogi, waeth beth fo cam datblygiad y dysgwr. Maent wedi’u cynllunio i’w defnyddio gan ymarferwyr i:
deall beth mae cynnydd yn ei olygu ac y dylai edrych fel mewn Maes penodol
datblygu'r cwricwlwm a phrofiadau dysgu i alluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir
datblygu dulliau asesu sy'n ceisio deall a yw'r cynnydd hwn yn cael ei wneud
Mae'r egwyddorion cynnydd yn wahanol i ddisgrifiadau o ddysgu sy’n darparu pwyntiau cyfeirio penodol o sut beth yw cynnydd wrth i ddysgwyr weithio tuag at ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar wahanol adegau ar eu taith. Gyda’i gilydd, gall ymarferwyr ddefnyddio’r ddwy elfen hyn i ddeall beth mae’n ei olygu i ddysgwyr wneud cynnydd, a defnyddio hyn i lywio dysgu, addysgu ac asesu.
Mae pum egwyddor cynnydd yn sail i ddilyniant ar draws pob Maes.
Yn ogystal â’r egwyddorion trosfwaol, disgrifir egwyddorion cynnydd hefyd yng nghyd-destun pob Maes.
Mae disgrifiadau manylach o’r egwyddorion trosfwaol hyn ar gyfer cynnydd i’w gweld yn 'datblygu gweledigaeth ar gyfer cynllunio cwricwlwm'.
Gellir dod o hyd i egwyddorion cynnydd ar gyfer pob Maes fel a ganlyn:
O ystyried pwysigrwydd canolog cynnydd dysgwyr a’r Egwyddorion Cynnydd i’r Cwricwlwm i Gymru, mae angen i gynnydd dysgwyr gael pwysigrwydd tebyg o fewn gweithgareddau gwerthuso a gwella. Bydd nodi, casglu a myfyrio ar gynnydd dysgwyr unigol dros amser ynghyd â deall cynnydd grwp er mwyn myfyrio ar ymarfer ill dau yn rhan hanfodol o’r gweithgareddau hyn ar gyfer arweinwyr ysgol.
Mae’r Adnodd gwerthuso a gwella yn amlygu rhai o’r meysydd allweddol lle gallai arweinwyr ysgol hystyried yr Egwyddorion Cynnydd yn benodol yn ystod eu gweithgareddau gwerthuso a gwella.
Bydd dau gwestiwn allweddol yn llywio’r berthynas rhwng cynnydd dysgwyr a gwella ysgolion:
Pa mor dda y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd tuag at y pedwar diben ac yn y ffyrdd a ddisgrifir yn yr Egwyddorion Cynnydd?
Sut mae cyfradd cynnydd dysgwyr yn cyd-fynd â disgwyliadau athrawon a’r cwricwlwm?
Bydd angen i atebion ysgolion i’r 2 gwestiwn hyn gael eu llywio gan ystod eang o wybodaeth a thystiolaeth wrth iddynt ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn eu hysgol a thrwy gydweithio ag ysgolion eraill. Yn eu tro, gall ysgolion bennu ffocws gwaith hunanarfarnu a gwella dilynol.