Mae gwerthuso a gwella effeithiol yn:
canolbwyntio ar y dysgwr a'i gynnydd
wedi'u llywio gan ystod eang o dystiolaeth a gwybodaeth
cydweithredol ac wedi'u seilio ar ddeialog broffesiynol
cryfhau drwy ymgysylltu â dysgwyr, staff, teuluoedd a phartneriaid
canolbwyntio ar wella yn hytrach na dogfennu
cymesur, yn hylaw ac yn gynaliadwy
prosesau parhaus yn hytrach na gweithgareddau untro
Dylai ysgolion ddefnyddio amrywiaeth o dystiolaeth i ddatblygu dealltwriaeth gywir o'u cryfderau a'u meysydd i'w gwella. Nid oes unrhyw ffynhonnell unigol o dystiolaeth yn darparu darlun cyflawn.
Mae trafodaeth broffesiynol, cydweithio ac ymholi ar y cyd yn helpu ysgolion i:
herio rhagdybiaethau
datblygu dealltwriaeth gyfunol
dysgu o arfer effeithiol o fewn eu lleoliad eu hunain a thu hwnt
Mae gwella yn fwyaf effeithiol pan fydd ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd i:
ddatblygu arbenigedd
rhannu dysgu
meithrin gallu cyfunol ar draws y system