Mae canllawiau gwella ysgolion Llywodraeth Cymru yn nodi disgwyliadau ar gyfer ysgolion mewn perthynas â:
gwerthuso
gwella
atebolrwydd
Gwerthuso effeithiol yw man cychwyn gwelliant ac mae'n helpu ysgolion i ddatblygu dealltwriaeth glir o:
gynnydd dysgwyr
lles
gryfderau
meysydd i'w gwella
flaenoriaethau ar gyfer gweithredu
Dylai gwelliant ganolbwyntio ar sicrhau'r deilliannau gorau posibl i bob dysgwr.
Mae'n ofyniad statudol o hyd i ysgolion yng Nghymru lunio cynllun datblygu ysgol (CDY). Mae gan ysgolion hyblygrwydd o ran sut y maent yn strwythuro ac yn cyflwyno eu cynlluniau, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion statudol. Y peth pwysicaf yw bod ysgolion yn ymgymryd â gwaith gwella ystyrlon sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddysgwyr.
Dylai gwaith gwerthuso a gwella ysgolion gael ei gefnogi drwy:
ddysgu proffesiynol
gydweithio
ddeialog broffesiynol
ymgysylltu â rhanddeiliaid
Gall y dulliau gweithredu, y cwestiynau myfyriol a'r adnoddau yn yr Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella (AC:GG) helpu ysgolion i nodi blaenoriaethau, cynllunio gweithgareddau gwella a gwerthuso eu heffeithiolrwydd.
Mae cynllunio ar gyfer gwella yn fwy na rhoi syniadau ar bapur. Mae'n broses strategol lle mae ysgolion yn ystyried sut y gallant wireddu eu huchelgeisiau ar gyfer dysgwyr.
Dylai cynllunio gwelliant effeithiol:
fod â diben clir a phenodol, wedi'i lywio gan werthuso a thystiolaeth
canolbwyntio ar yr agweddau ar ymarfer sydd fwyaf tebygol o wella cynnydd, lles a deilliannau dysgwyr
fod yn seiliedig ar weledigaeth glir a'r deilliannau a fwriedir
ystyried yr adnoddau sydd eu hangen, gan gynnwys amser, pobl, arbenigedd a chyllid
ystyried manteision a chostau posibl gweithgarwch gwella, gan gynnwys yr effaith ar ddysgwyr, staff a chymuned ehangach yr ysgol
cefnogi blaenoriaethau uniongyrchol a nodau gwella tymor hwy
bod yn uchelgeisiol ond yn realistig, gan gydnabod y capasiti sydd ar gael ac osgoi gormod o flaenoriaethau ar yr un pryd
cynnwys cyfleoedd priodol i adolygu cynnydd ac addasu dulliau gweithredu lle bo angen
Dylai ysgolion wrthsefyll y demtasiwn i fynd i'r afael â gormod o flaenoriaethau ar yr un pryd. Mae canolbwyntio ar nifer fach o welliannau sydd â'r effaith fwyaf yn fwy tebygol o arwain at newid cynaliadwy a gwelliannau ystyrlon i ddysgwyr.
Cyn penderfynu ar gamau gweithredu, dylai ysgolion geisio deall y ffactorau sy'n cyfrannu at fater a nodwyd.
Mae gwerthuso effeithiol yn helpu ysgolion i symud y tu hwnt i nodi symptomau ac at ddeall achosion sylfaenol cryfderau a meysydd i'w gwella. Dylai ysgolion ddefnyddio tystiolaeth, deialog broffesiynol a safbwyntiau rhanddeiliaid i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o pam mae angen gwella a beth sydd fwyaf tebygol o wneud gwahaniaeth.
Mae cymryd yr amser i ddeall achos sylfaenol mater yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd gweithgarwch gwella yn mynd i'r afael â'r broblem gywir ac yn arwain at welliant parhaol.
Caiff gwelliant ei gryfhau drwy gydweithio.
Gall cynnwys dysgwyr, staff, llywodraethwyr, teuluoedd, partneriaid ac ysgolion eraill helpu ysgolion i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o flaenoriaethau a nodi dulliau effeithiol o wella.
Mae deialog broffesiynol, ymholi cydweithredol a her adeiladol yn helpu ysgolion i:
brofi rhagdybiaethau
fireinio syniadau
feithrin perchnogaeth gyfunol o waith gwella
Gall ysgolion hefyd elwa ar weithio gyda chydweithwyr o ysgolion a lleoliadau eraill i:
adolygu tystiolaeth
rannu arfer effeithiol
gefnogi cynllunio gwelliant
Dylid ystyried cydweithio yn rhan ganolog o waith gwella yn hytrach nag yn weithgaredd ychwanegol. Mae ysgolion yn gwella fwyaf effeithiol pan fyddant yn dysgu gyda'i gilydd ac oddi wrth ei gilydd.
Dylai ysgolion ystyried sut y bydd gweithgarwch gwella yn cael ei drefnu, ei gyfathrebu a'i adolygu drwy gydol y broses wella.
Dylai cynllunio ddarparu eglurder ynghylch:
Mae hyn yn nodi:
diben y gwaith gwella
y rhesymau dros y camau gweithredu a nodwyd
y cerrig milltir a'r deilliannau bwriedig a fydd yn dangos cynnydd
y gwahaniaeth y mae'r ysgol yn bwriadu ei wneud i ddysgwyr
Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd:
yn gyfrifol am arwain gweithgarwch gwella
yn ymwneud â gweithredu newid
yn cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol a gweithgarwch cydweithredol
yn cyfrannu at werthuso, adolygu a gwelliant parhaus
Mae hyn yn cynnwys:
y camau gweithredu a'r dulliau a fydd yn mynd i'r afael â'r blaenoriaethau a nodwyd
gweithgareddau dysgu proffesiynol, cydweithio ac ymholi a fydd yn cefnogi gwelliant
sut y bydd cynnydd ac effaith yn cael eu monitro
yr adnoddau sydd eu hangen i gefnogi gweithredu
Mae hyn yn nodi:
amserlenni gweithredu
pwyntiau adolygu a cherrig milltir
cyfleoedd i werthuso cynnydd a gwneud addasiadau lle bo angen
Dylai ysgolion weithredu gweithgarwch gwella yn unol â'r blaenoriaethau a'r amserlenni a gytunwyd, gan barhau i ymateb i dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg.
Wrth i waith gwella fynd rhagddo, dylai ysgolion fyfyrio'n rheolaidd ar:
yr hyn sy'n digwydd yn ymarferol
a yw'r camau gweithredu a gynlluniwyd yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol
a oes angen unrhyw newidiadau
Anaml y mae gwelliant yn broses linol. Dylai ysgolion fod yn barod i fireinio ac addasu dulliau gweithredu mewn ymateb i ddysgu newydd, tystiolaeth, adborth ac amgylchiadau newidiol.
Gall dysgu proffesiynol, cydweithio a deialog broffesiynol barhaus helpu i gynnal momentwm a chefnogi gweithredu effeithiol.
Dylai gwerthuso fod yn rhan barhaus o weithgarwch gwella yn hytrach na rhywbeth sy'n digwydd ar ddiwedd prosiect yn unig.
Dylai ysgolion ystyried gweithredu ac effaith.
Dylai ysgolion ystyried:
Ydy’r gweithgareddau a gynlluniwyd yn cael eu cyflawni fel y bwriadwyd?
Ydy’r staff yn cael y gefnogaeth, yr adnoddau a'r dysgu proffesiynol sydd eu hangen arnynt?
Ydy’r cerrig milltir y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni?
Ydy’r gweithgarwch gwella yn mynd rhagddo fel y cynlluniwyd?
Dylai ysgolion ystyried:
Pa wahaniaeth mae'r gweithgarwch gwella yn ei wneud i ddysgwyr?
Sut mae cynnydd, lles, ymgysylltiad neu gyflawniad dysgwyr yn gwella?
Pa dystiolaeth sy'n dangos bod y newidiadau'n cael yr effaith fwriadol?
A yw'r deilliannau a fwriadwyd yn cael eu cyflawni?
Ni ellir, ac ni ddylid, mesur pob agwedd ar welliant drwy ddata meintiol yn unig. Dylai ysgolion ddefnyddio ystod eang o dystiolaeth a gwybodaeth i werthuso effaith a datblygu dealltwriaeth gytbwys o effeithiolrwydd.
Dylai gwerthuso gefnogi dysgu a gwella, gan alluogi ysgolion i fireinio dulliau gweithredu, nodi blaenoriaethau newydd a datblygu ar lwyddiant.
Ni ddylai gwaith gwella ddod i ben pan fydd y camau gweithredu wedi'u cwblhau.
Dylai ysgolion:
nodi'r dulliau, y prosesau a'r arferion sydd wedi cyfrannu at lwyddiant
ystyried sut y gellir eu hymgorffori a'u cynnal dros amser
Dylid rhannu a thrafod arfer effeithiol ar draws yr ysgol ac, lle bo'n briodol, gyda phartneriaid ac ysgolion eraill.
Caiff gwelliant cynaliadwy ei adeiladu drwy:
ddysgu proffesiynol
cydweithio
myfyrio parhaus
Drwy rannu dysgu a datblygu arbenigedd cyfunol, mae ysgolion yn cyfrannu nid yn unig at eu gwelliant eu hunain ond hefyd at welliant ar draws y system addysg ehangach.
Y mesur eithaf o welliant llwyddiannus yw'r gwahaniaeth cadarnhaol y mae'n ei wneud i gynnydd, lles a deilliannau dysgwyr, yn awr ac yn y dyfodol.