Mae pob dysgwr yn haeddu’r cyfle i ffynnu.
Mae ysgolion effeithiol yn ceisio’n barhaus i ddeall:
pa mor dda y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd
beth sy’n gweithio’n dda a beth y gellid ei wella
Maent yn defnyddio tystiolaeth, mewnwelediad proffesiynol a chydweithio i nodi blaenoriaethau a gweithredu mewn ffyrdd sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddysgwyr. Mae’r AC:GG wedi’i ddatblygu i gefnogi ysgolion yn y gwaith hwn.
Nid yw gwerthuso a gwella yn brosesau ar wahân. Mae gwerthuso yn helpu ysgolion i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gryfderau, heriau a chyfleoedd. Gwella yw’r camau gweithredu a gymerir mewn ymateb. Gyda’i gilydd, maent yn cefnogi gwelliant parhaus a deilliannau gwell i ddysgwyr.
Mae gwella yn cael ei gryfhau drwy gydweithio. Mae cynnwys dysgwyr, staff, teuluoedd, llywodraethwyr, partneriaid ac ysgolion eraill yn helpu i:
ddyfnhau dealltwriaeth
herio rhagdybiaethau
meithrin gallu ar y cyd i wella
Nid yw ysgolion yn gwella ar eu pen eu hunain. Maent yn gwella drwy ddeialog broffesiynol, ymholi ar y cyd a dysgu gan eraill.
Mae’r AC:GG yn cynnig canllawiau ymarferol, offer a chwestiynau ysgogi.
Maent i gefnogi ysgolion ar wahanol gamau o’u gwaith gwerthuso a gwella. Bwriedir i’r adnodd fod yn hyblyg ac yn ymatebol i gyd-destun. Nid oes angen gweithio drwy bob adran na defnyddio pob adnodd. Dewiswch y gefnogaeth sydd fwyaf perthnasol i’ch blaenoriaethau a’ch anghenion.