Caiff y cwestiynau trafod yn yr adnodd eu trefnu'n 4 haen a 4 maes.
Y meysydd yw:
arweinyddiaeth
cwricwlwm
dysgu ac addysgu
lles, tegwch a chynhwysiant
Caiff pob un o'r meysydd hyn eu cyflwyno mewn 4 haen wahanol, gan alluogi ysgolion i weld cwestiynau ar bob haen:
maes/thema: y 4 maes a restrir uchod
elfen: adrannau ychwanegol ym mhob maes
cwestiwn trafod: cwestiynau manwl mewn perthynas â'r elfen
ymchwilio: gwybodaeth ychwanegol, cwestiynau trafod, dolenni i adnoddau ategol ac adnoddau astudiaethau achos
Noder: Nid oes disgwyl i ysgolion roi atebion i bob cwestiwn trafod na mabwysiadu'r strwythur hwn ar gyfer trefnu eu hunanwerthusiad. Diben y cwestiynau trafod yw cefnogi'r broses hunanwerthuso ac nid oes disgwyl i ysgolion ymateb yn ysgrifenedig i bob cwestiwn mewn adroddiad hunanwerthuso.