Mae gan ddysgwyr hawl i gael yr iechyd gorau posibl a chael eu hamddiffyn rhag niwed. Hefyd, mae lles da yn hanfodol i gynnydd a chyflawniad dysgwyr. Mae angen i ddysgwyr brofi lles corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol er mwyn ffynnu a chymryd rhan yn llwyddiannus yn eu haddysg, mewn cymdeithas ac yn y cyfleoedd y bydd bywyd yn eu cynnig.
Bydd lefelau da o les yn grymuso dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain ac i gael dylanwad cadarnhaol ar fywydau pobl eraill. Mae ysgol deg a chynhwysol yn ystyried yr heriau unigryw sy'n wynebu dysgwyr unigol ac yn ymateb iddynt, gan eu galluogi i wneud cynnydd da.
Mae'r ysgol yn rhoi'r un gwerth ar bob aelod o'i chymuned ac yn helpu pob un ohonynt i gyflawni lefelau uchel o les corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae'n rhoi cymorth o safon uchel i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol ac yn lliniaru effaith anfantais gymdeithasol yn llwyddiannus.
Mae'r ysgol yn hyrwyddo ac yn dathlu amrywiaeth yn gadarnhaol o fewn ei chymuned a thu hwnt. Lles y dysgwyr sydd wrth wraidd profiadau addysgu a dysgu bob amser. Mae pob aelod o'r staff yn dangos ymrwymiad i les y dysgwyr drwy fodelu ymddygiad a chydberthnasau cadarnhaol.
Mae'r ysgol yn sicrhau bod y dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth gadarn o ffactorau sy'n effeithio ar eu lles eu hunain ac er lles pobl eraill. Mae'n helpu'r dysgwyr i wneud dewisiadau a penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch materion sy'n effeithio arnyn nhw ac ar bobl eraill.
Mae partneriaethau â'r rhieni ac asiantaethau eraill yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad y dysgwyr yn yr ysgol ac ar eu lles. Mae'r ysgol yn galluogi pob dysgwr i feithrin agweddau cadarnhaol at ddysgu a gwneud y cynnydd gorau posibl.
Cwricwlwm
Hybu iechyd da
Agweddau a chydberthnasau
Diogelu
Tegwch
Cynhwysiant
I ba raddau y mae dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o'r ‘hyn sy'n bwysig’ o ran eu hiechyd a'u lles?
Mae buddiannau gydol oes yn gysylltiedig â datblygu iechyd a lles corfforol.
Mae cydberthnasau iach yn hanfodol i’n hymdeimlad o berthyn a’n lles.
Mae'r ffordd rydym yn ymgysylltu â gwahanol ddylanwadau cymdeithasol yn llywio pwy ydym ni a’n hiechyd a’n lles.
Mae'r ffordd rydym yn ymateb i’n profiadau yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.
Mae’r penderfyniadau a wnawn yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni ac eraill.
I ba raddau y mae'r ysgol yn darparu ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb?
I ba raddau y mae ethos, amgylchedd a darpariaeth ein hysgol yn gwneud y canlynol:
Helpu'r dysgwyr i fod yn gorfforol egnïol ac yn iach?
Hybu arferion bwyta ac yfed iach?
Helpu'r dysgwyr i wneud dewisiadau iach o ran ffordd o fyw?
Cefnogi lles emosiynol ac iechyd meddwl y dysgwyr?
I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:
Helpu'r dysgwyr i feithrin cydberthnasau iach, gan gynnwys cydberthnasau digidol?
Darparu ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb?
Helpu'r dysgwyr i ymddwyn mewn ffordd gadarnhaol?
Helpu'r dysgwyr i feithrin sgiliau dysgu annibynnol, gwydnwch a dyfalbarhad
Helpu'r dysgwyr i gyflawni cyfraddau uchel o ran presenoldeb a chyfranogiad mewn dysgu?
I ba raddau y mae ein staff yn hyrwyddo cydberthnasau da â'r dysgwyr a rhyngddynt drwy eu gweithredoedd eu hunain?
I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:
Sicrhau bod y dysgwyr yn cael cyfle cyfartal i gael profiadau ac adnoddau?
Hyrwyddo a dathlu amrywiaeth?
Diwallu anghenion y dysgwyr sydd dan anfantais oherwydd tlodi?
Atal tuedd, anghydraddoldeb, bwlio, rhagfarn neu stereoteipio ar sail nodweddion gwarchodedig a mynd i'r afael ag unrhyw achosion o'r fath?
Helpu dysgwyr eraill sy'n agored i niwed y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt (er enghraifft gofalwyr ifanc neu blant sy'n derbyn gofal)?
Hyrwyddo a pharchu hawliau plant a phobl ifanc, gan gynnwys dysgwyr agored i niwed?
Galluogi'r dysgwyr i ddylanwadu ar yr hyn y maent yn ei ddysgu a sut?
Ystyried safbwyntiau'r dysgwyr a'u cynnwys mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt?
Rheoli cyfnodau pontio allweddol rhwng cyfnodau allweddol neu ysgolion ar gyfer dysgwyr agored i niwed?
Gweithio gyda'r rhieni a phartneriaid eraill i sicrhau tegwch i'r dysgwyr?
I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:
Monitro ac adolygu cynnydd, cyrhaeddiad a lles dysgwyr ag ADY?
Cydweithio ag asiantaethau allanol er mwyn diwallu anghenion y dysgwyr, gan gynnwys y rhai sydd ag ADY?
Ymgysylltu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd dysgwyr ag ADY a'r rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt?
Rheoli cyfnodau pontio allweddol rhwng cyfnodau allweddol neu ysgolion ar gyfer dysgwyr ag ADY?
Gwneud addasiadau er mwyn helpu dysgwyr ag ADY i fanteisio ar gyfleoedd?
Dewis strategaethau ymyrryd, eu rhoi ar waith a'u gwerthuso?