Pennu gweledigaeth (arweinyddiaeth ym maes dysgu a rheoli newid).
Dylunio, cynllunio a threialu (dylunio profiadau dysgu a'u rhoi ar waith).
Gweithredu a gwerthuso (dysgu o'r system ehangach a gwaith ymholi pellach).
I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:
Datblygu gweledigaeth glir ar gyfer y gwahaniaeth y bydd y cwricwlwm yn ei wneud i'w dysgwyr a'u cynnydd?
Pennu gweledigaeth ar gyfer ei chwricwlwm? (Sut beth ydyw? Gofynion/cyd-destun dilys)
Datblygu gweledigaeth ar gyfer yr addysgeg a ddefnyddir i gyflwyno ei chwricwlwm? (Sut y byddwn yn ei addysgu? Egwyddorion addysgegol)
Datblygu gweledigaeth ar gyfer caffael/datblygu/trefnu/defnyddio adnoddau i gyflwyno ei chwricwlwm? (Beth sydd ei angen arnom i'w addysgu?)
Sefydlu'r diwylliant a'r amodau cywir ar gyfer newid?
Adnabod rhwystrau rhag newid, mynd i'r afael â nhw a'u goresgyn?
Hyrwyddo arloesedd i gefnogi newid?
Defnyddio cyfraniadau'r gymuned a phartneriaid eraill (e.e. ysgolion) i ddatblygu ei gweledigaeth ar gyfer dysgu, addysgu a'r cwricwlwm?
Nodi a chynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol er mwyn helpu i wireddu ei gweledigaeth?
I ba raddau y mae'r ffordd rydym yn cynllunio ac yn cyflwyno'r cwricwlwm yn gwneud y canlynol:
Helpu'r dysgwyr i wireddu'r pedwar diben trw'r egwyddorion cynnydd. Pa mor dda ydy'r dysgwyr yn datblygu'r sgiliau hanfodol sy'n sail iddynt?
Cynnig profiadau dysgu eang a chytbwys?
Ennyn diddordeb y dysgwyr a diwallu eu hanghenion o ran eu hoedran, eu gallu, eu doniau a'u diddordebau?
Meithrin agweddau cadarnhaol at ddysgu a lles?
Galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd priodol ar hyd y continwwm dysgu mewn perthynas â'r egwyddorion cynnydd?
Gwneud cysylltiadau a throsglwyddo eu dysgu rhwng gwahanol feysydd dysgu a phrofiad?
Cynnwys cyfleoedd i gymhwyso sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol?
Helpu i ddatblygu sgiliau arbenigol a gwybodaeth bynciol benodol?
Cynnwys dulliau cipio cynnydd dysgwyr?
Defnyddio llais y dysgwr ac ymateb i anghenion, profiadau a mewnbwn y dysgwyr?
Helpu i ddatblygu ymdeimlad y dysgwyr o hunaniaeth yn eu hardal leol, yng Nghymru ac yn y byd?
Sicrhau tegwch a hygyrchedd i bawb?
I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:
Defnyddio tystiolaeth o lygad y ffynnon i nodi cryfderau, rhwystrau rhag newid a meysydd i'w datblygu ymhellach a ddaw i'r amlwg mewn perthynas â'i chwricwlwm?
Defnyddio tystiolaeth o lygad y ffynnon i nodi cryfderau, rhwystrau rhag newid a meysydd i'w datblygu ymhellach a ddaw i'r amlwg mewn perthynas ag addysgeg er mwyn helpu i gyflwyno'r cwricwlwm?
Defnyddio tystiolaeth o lygad y ffynnon i nodi cryfderau, rhwystrau rhag newid a meysydd i'w datblygu ymhellach a ddaw i'r amlwg mewn perthynas â chynnydd y dysgwyr?
Defnyddio tystiolaeth o lygad y ffynnon i lywio newidiadau i'r cwricwlwm, yr addysgu a'r dysgu?
Helpu i wella'r cwricwlwm, yr addysgu a'r dysgu drwy ddysgu proffesiynol, cydweithio ac arloesi?