Rwy’n dechrau deall bod gan fy ngweithredoedd i, a gweithredoedd pobl eraill, ganlyniadau.
Rwy’n gallu adnabod pwysigrwydd gwahanol reolau, rolau a chyfrifoldebau o fewn y gwahanol gymunedau rwy’n perthyn iddyn nhw.
Rwy’n gallu deall bod ystod o ffactorau sy’n dylanwadu ar fy ymddygiad, gweithredoedd a phenderfyniadau i a phobl eraill, a bod y rhain yn cynnwys barn a safbwyntiau moesol ac egwyddorol.
Rwy’n gallu deall canlyniadau fy ngweithredoedd i a gweithredoedd pobl eraill, a sut mae’r rhain yn effeithio ar fy ardal leol a Chymru, yn ogystal â’r byd ehangach.
Rwy’n gallu cymryd rhan mewn dod i benderfyniadau, ac rwy’n gallu rhannu barn a thystiolaeth gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a chynrychiolwyr etholedig yn fy nghymuned.
Rwy’n gallu dadansoddi ac esbonio bod ystod o ffactorau sy’n dylanwadu ar fy ymddygiad, gweithredoedd a phenderfyniadau i a phobl eraill, a bod y rhain yn cynnwys barn a safbwyntiau moesol ac egwyddorol.
Rwy’n gallu gwneud penderfyniadau, adnabod cyfleoedd a chynllunio gweithredoedd priodol i wneud fy llais fy hun yn glywadwy.
Rwy’n gallu trafod a herio safbwyntiau’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a chynrychiolwyr etholedig yn fy nghymuned ac ar lefel genedlaethol.
Rwy’n gallu dadansoddi ac esbonio effaith penderfyniadau ar bobl, eu hawliau a’r amgylchedd, penderfyniadau a wneir gan unigolion a llywodraeth leol, cenedlaethol a byd-eang a sefydliadau anllywodraethol.
Rwy’n gallu gwerthuso sut mae gwahanol gredoau, safbwyntiau a phrofiadau pobl yn effeithio ar weithredoedd moesol ac egwyddorol mewn ymateb i heriau a chyfleoedd y gorffennol, y presennol a’r rhai a ragwelir.
Rwy’n gallu archwilio’n feirniadol fy agweddau, tybiaethau ac ymddygiad, ynghyd â gweithredoedd pobl eraill. Rwyf hefyd yn gallu archwilio’n feirniadol sut mae’r rhain yn effeithio fy ardal leol a Chymru, yn ogystal â’r byd ehangach.
Rwy’n gallu esbonio pwysigrwydd rôl grwpiau, llywodraethau, busnesau a sefydliadau anllywodraethol wrth greu dyfodol cynaladwy, a sut maen nhw’n effeithio ar bobl, eu hawliau ac ar yr amgylchedd.