Rwyf wedi cael profiad o rifau a’u harchwilio mewn amgylcheddau sy’n llawn rhifau, dan do ac yn yr awyr agored, gan gael profiad o rai prifol, trefnol ac enwol.
Rwy’n gallu sylwi ar rifau, eu hadnabod a’u hysgrifennu mewn amrywiaeth o gyfryngau, trwy ddull aml-synhwyrol, o 0 i 10 a heibio i hynny.
Rwy’n gallu defnyddio iaith fathemategol i ddisgrifio meintiau, i wneud amcangyfrifon a chymariaethau megis ‘yn fwy na’, ‘yn llai na’, ‘yn hafal i’.
Rwyf wedi cael profiad o gyfrif dilyniant o rifau, a hynny mewn gwahanol ffyrdd, gan gyfrif ymlaen ac yn ôl, a chan ddechrau ar wahanol rifau.
Rwy’n gallu defnyddio fy mhrofiad o gyfrif dilyniant o rifau a chyfatebiaeth un-i-un er mwyn cyfrif cyfresi’n ddibynadwy. Rwy’n gallu cyfrif gwrthrychau y gallaf eu cyffwrdd, a’r rhai na allaf.
Rwy’n gallu darllen, ysgrifennu a dehongli rhifau sy’n fwy, hyd at 1000 o leiaf, gan ddefnyddio digidau a geiriau.
Rwy’n gallu deall y gellir penderfynu ar werth rhif ar sail safle’r digidau a ddefnyddir.
Rwyf wedi ymgymryd â thasgau ymarferol i amcangyfrif a thalgrynnu rhifau i’r 10 neu’r 100 agosaf.
Rwy’n dechrau amcangyfrif a gwirio cywirdeb fy atebion gan ddefnyddio gweithrediadau gwrthdro lle bo’n addas.
Rwy’n gallu trefnu a dilyniannu rhifau, gan gynnwys odrifau ac eilrifau, ac rwy’n gallu cyfrif ymlaen ac yn ôl mewn camau unffurf unrhyw rif cyfan a ffracsiynau unedol syml.
Rwy’n gallu defnyddio amrywiaeth o gynrychioliadau i ddatblygu a chadarnhau fy nealltwriaeth fod gwerth digid yn ymwneud â’i safle. Rwy’n gallu darllen, ysgrifennu a dehongli rhifau, gan ddefnyddio ffigurau a geiriau hyd at filiwn, o leiaf.
Rwy’n gallu defnyddio amrywiaeth o gynrychioliadau i ymestyn fy nealltwriaeth o’r system rifau, gan gynnwys gwerthoedd negatif, degolion a ffracsiynau. Rwy’n gallu gosod cyfanrifau, degolion a meintiau ffracsiynol yn gywir ar linell rhif. Rwy’n gallu cymhwyso’r hyn rwy’n ei wybod am werth rhif er mwyn talgrynnu ac amcangyfrif lle bo’n addas.
Rwy’n gallu defnyddio ffurf indecs safonol i gynrychioli rhifau mawr a bach ac i wneud cyfrifiadau mewn cyd-destun. Rwy’n gallu defnyddio dulliau talgrynnu addas, gan gynnwys ffigurau ystyrlon, i amcangyfrif gwerthoedd.
Er mwyn datrys problemau yn ymwneud â ffiniau uchaf ac isaf, rwy’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth nad yw mesuriadau bob amser yn gywir, a bod rhaid ystyried goddefiant a lled gwall.