Mae’r Map llwybrau yn darparu trosolwg o dri llinyn datblygiad – datblygiad gwybyddol, sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol, a sgiliau rhyngweithio â’i amgylchedd; gan nodi’r cerrig milltir pwysicaf yn y bocsys oren.
Mae rhif i bob un o focsys y Map llwybrau er hwylustod, ond er bod rhifau is i’r ymddygiadau sy’n datblygu’n gynharach, nid yw’n golygu bod yna drefn ddisgwyliedig i ddysgu’r ymddygiadau neu y dylid eu haddysgu mewn trefn benodol. Ni ddylid disgwyl i ddysgwyr eu cyflawni yn nhrefn y rhifau.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod pob dysgwr yn debygol o gyflawni’r cerrig milltir allweddol, er y gall y llwybr a chynnydd amrywio yn ôl eu hanghenion corfforol, synhwyraidd a dysgu.
Mae’r nodyn esboniadol yn amlinellu’r newidiadau a wnaed yn ystod y broses ddiweddaru.