Ry'n ni wedi cadw ffeiliau a elwir yn cwcis ar eich dyfais. Mae'r cwcis hyn yn hanfodol i'r safle weithio
Byddem hefyd yn hoffi cadw rhai cwcis i'n helpu ni i wella'n gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth ar sut yr ydych yn defnyddio'r safle
Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.
Edrychwch am unrhyw newidiadau mewn ymddygiad nad ydyn nhw’yn ymatebion atgyrchol, er enghraifft:
llonyddu (oedi am foment)
troi (y pen, y llygaid, neu’r corff)
symud gwefusau/tafod
ffroenau yn chwyddo
symudiad bach yn y llygad
newid patrwm anadlu
tynhau neu ymlacio (efallai y bydd angen i chi fod yn gorfforol agos i synhwyro hyn)
Ciledrychodd Amelia am foment tuag at ffynhonnell y golau pan gafodd ei gyflwyno yn y gornel dywyll.
Symudodd Ieuan ei fraich fymryn pan dynnwyd defnydd meddal drosti.
Cyflwynwch stimwlws, yna oedi.
Cyflwyno dirgryniad, e.e. tylinydd neu glustog dirgrynu.
Taenu mymryn o flas ar wefusau’r dysgwr.
Dal jar o rywbeth sy’n arogli’n gryf o dan drwyn y dysgwr
Gosod llaw’r dysgwr ar botel dŵr poeth wedi’i gorchuddio â defnydd meddal, ar arwyneb garw fel papur tywod, neu o dan lif o ddŵr cynnes.
Chwarae cerddoriaeth neu gân gyfarwydd; defnyddio offerynnau cerddorol.
Cyflwyno golau tortsh sy’n adlewyrchu ar arwyneb disglair. Os nad oes ymateb, trïwch ei symud ychydig.
Mae newid o ryw fath yn ymddygiad y dysgwr ym mhresenoldeb y stimwlws.
Nid yw’r newid hwn mewnymddygiad yn atgyrch amlwg (e.e. am ei fod wedi cael braw), nac yn ymateb i rywbeth mewnol (e.e. anghysur neu eisiau bwyd).
Efallai bod y newid mewn ymddygiad yn fyrhoedlog a heb fod yn amlwg. Efallai mai dim ond ym mhresenoldeb stimwli penodol neu drawiadol iawn y bydd yn digwydd, ac mewn amgylchedd synhwyraidd sy’n cael ei reoli i raddau helaeth (e.e. ystafell dywyll).
Efallai mai dim ond ar ôl arsylwi a chofnodi’n ofalus mewn ffordd systemataidd y bydd modd sylwi ar y newid penodol mewn ymddygiad, ac efallai mai dim ond y rheini sy’n adnabod y dysgwr yn dda fydd yn sylwi arno.
Lle mae ‘sylwi’ yn ymwneud â’r gweledol, mae’r cam hwn yn gyson â Lefel V yr eyePoint Scale (Other Visual Behaviours):
Acknowledging the presence of objects without clearly fixing on them.
Visual attention given to objects is fleeting and not repeated (Coleg Prifysgol Llundain ac Ysbyty Great Ormond Street: Eye‑Pointing Classification Scale).
Gan ddefnyddio dau aelod staff, un yn helpu’r dysgwr i eistedd ac un o’i flaen, ceisiwch dynnu’r dysgwr yn ofalus yn ôl ac ymlaen, ac yna oedi.
Ceisiwch rannau gwahanol o’r corff (efallai fod gwadnau’r traed neu’r gwar yn fwy sensitif).
Ceisiwch symud llaw’r dysgwr (yn enwedig blaenau ei fysedd) ar groen dafad, mewn gel neu ddŵr cynnes, ac ati.
Ceisiwch synau o amledd, soniaredd a hyd amrywiol.
Mewn cornel a dywyllwyd, cyflwynwch batrwm cyson ‘stimwlws: dim stimwlws’, h.y. golau: dim golau.
Edrychwch am unrhyw newidiadau mewn ymddygiad nad ydyn nhw’n ymatebion atgyrchol, er enghraifft:
llonyddu (oedi am foment)
troi (y pen, y llygaid neu’r corff)
symud gwefusau/tafod
symudiad bach yn y llygad
newid patrwm anadlu
tynhau neu ymlacio (efallai y bydd angen i chi fod yn gorfforol agos i synhwyro hyn)
Bydd Nadia yn swatio i mewn i’n corff os bydd un ohonom yn ei chofleidio ar ein côl. Yn y safle hwn, bydd yn dechrau gwenu os canwn un o’i hoff rigymau.
Pan yw’n nerfus, mae Lee eisiau cysylltiad agosach ac mae’n dal yr oedolyn yn dynn. Weithiau mae’n defnyddio’i lais pan yw ar ein côl wrth i ni sgwrsio ag ef.
Daliwch y dysgwr gan siarad neu ganu, a bod yn dawel bob hyn a hyn i roi cyfle iddo ymateb.
Mae ymddygiad y dysgwr yn newid mewn rhyw ffordd tra’i fod mewn cysylltiad corfforol agos â rhywun mae’n ei nabod yn dda.
Nid yw’r newid hwn mewn ymddygiad yn atgyrch amlwg (e.e. am ei fod wedi cael braw), nac yn ymateb i rywbeth mewnol (e.e. anghysur neu eisiau bwyd).
Gellir ei ddehongli fel ymateb i’r oedolyn cyfarwydd neu i rywbeth y mae’r oedolyn cyfarwydd yn ei wneud.
Efallai bod y newid mewn ymddygiad yn fyrhoedlog a/neu heb fod yn amlwg.
Dewiswch synnwyr cryfaf y dysgwr i ddechrau.
Os mai i stimwli clywedol y mae’r dysgwr yn ymateb orau, ceisiwch siarad a chanu yn agos at y dysgwr, gan oedi bob hyn a hyn er mwyn arsylwi’n ofalus beth yw ei ymatebion.
Os yw’r dysgwr yn ymateb yn dda i stimwli gweledol, ceisiwch ddod yn agos ato a defnyddio eich wyneb i gyfathrebu mewn ffordd amlwg iawn.
Yna, cyfunwch y gweledol a’r clywedol.
Edrychwch am:
newid yn lefel y gweithgarwch
defnyddio’r llais
agor y geg/symud y dafod
symud bysedd, e.e. ar groen dafad
cic
Agorodd Jack ei lygaid led y pen a chodi ei ben pan newidiodd y golau yn yr ystafell dywyll.
Mae Megan yn ymateb i chwaon o aer cynnes sy’n dod o ffan, gan wneud synau byrion a symud ei breichiau mewn cyffro.
Cyflwynwch stimwlws amlwg i’r dysgwr mewn ffordd debyg i Garreg filltir 1 y Map llwybrau (Sylwi ar stimwlws) gan ofalu peidio â chodi braw arno. Defnyddiwch yr wybodaeth rydych chi wedi’i chasglu am hoff gyfryngau synhwyraidd y dysgwr a chofnodwch y canlyniadau.
Rhowch gynnig ar ddarparu blasau newydd ar ffurf balm gwefusau.
Ceisiwch glustog dirgrynu, bwrdd synhwyraidd neu wely dŵr.
Cyflwynwch bethau o wead gwahanol, fel tywod cynnes, y gall y dysgwr chwarae â nhw. Rhowch nhw ar wahanol rannau o’r corff.
Ceisiwch ddefnyddio offerynnau cerdd, tapiau a theganau cerdd.
Defnyddiwch ddyfeisiau pi-po, pypedau a theganau sy’n codi’n sydyn.
Mae ymddygiad y dysgwr yn newid ym mhresenoldeb y stimwlws.
Nid yw’n atgyrch nac yn ymateb i rywbeth mewnol.
O’i gymharu â’r newid mewn ymddygiad a gofnodwyd ar gyfer carreg filltir 1 y Map llwybrau (Sylwi ar stimwlws):
bydd yn gryfach
efallai y bydd y symudiadau yn rhai mwy, sy’n para’n hirach
efallai y bydd yr amseru yn cyd-daro â’r stimwlws mewn ffordd fwy amlwg
efallai y bydd y dysgwr yn fwy parod i ymateb ac y bydd yn digwydd yn amlach
Gallai fod yn haws dehongli hyn fel ’ymateb’ felly, hyd yn oed i rywun nad yw’n adnabod y dysgwr cystal.
Cynyddwch ystod, cymhlethdod ac amrywiaeth y stimwli a ddefnyddiwyd yng Ngharreg filltir 1 (Sylwi ar stimwlws). Dylid lleihau’n raddol lefel yr ysgogi/gorystumio i lefel fwy naturiol.
Os mai dim ond drwy un synnwyr y mae’r dysgwr wedi dangos ymateb hyd yma, dylech geisio ysgogi synhwyrau eraill sydd ar gael. Ystyriwch lle rydych chi’n eistedd neu’n sefyll mewn perthynas â chwmpas golwg y dysgwr neu ei allu i glywed ac ati (gweler ‘Rhwystrau i ddysgu’ ar dudalennau 37–42 Ar Drywydd Dysgu: Canllawiau).
Cymerwch ofal wrth gyflwyno stimwlws ‘annisgwyl’ nad ydych chi’n achosi braw i’r dysgwr. Mae’n arfer da rhybuddio’r dysgwr o rywbeth sydd ar ddigwydd drwy ei gyffwrdd neu ddweud wrtho.
Rhaid bod yn ofalus wrth osod stimwli gweledol. Ystyriwch gwmpas golwg y dysgwr. Osgowch eu gosod mewn ffordd sy’n golygu bod y dysgwr yn gorfod edrych i fyny gan y gallai hyn ei wneud yn stiff a/neu wneud iddo symud yn ôl (holwch gyngor ffisiotherapydd).
Edrychwch am:
leihad mewn diddordeb pan ailgyflwynir y stimwlws
diddordeb newydd pan gynigir stimwlws newydd
Yn ystod sesiwn rheoli llwybr llygad, i ddechrau roedd Leila yn dangos diddordeb pan gyflwynwyd y cerdyn sgleiniog. Pan gafodd ei dynnu i ffwrdd a’i ailgyflwyno, ni thalodd sylw am gyfnod mor hir o bell ffordd, a chollodd ddiddordeb yn gyflym.
Roedd Meilyr yn dangos diddordeb yn y llyfr wrth i mi ei ‘ddarllen’ iddo, ond edrychodd i ffwrdd ar ôl tua hanner munud. Ar ôl hoe fach, rhoddais gynnig ar y llyfr eto, ond y tro hwn dim ond am ryw ddeg eiliad yr edrychodd. Yna, rhoddais y llyfr i lawr a chydio mewn clychau; roedd yn ymateb lawer yn fwy i’r rhain, a daliwyd ei sylw am 28 eiliad.
Cyflwynwch y stimwlws i’r dysgwr. Pan fydd y dysgwr yn rhoi’r gorau i dalu sylw, tynnwch y stimwlws oddi yno ar unwaith a’i ailgyflwyno (ni ddylid gadael bwlch o fwy na thair eiliad os yn bosibl).
Defnyddiwch amserydd. Os yw’r dysgwr yn talu sylw am lai o amser yr ail waith, mae’n debygol bod y dysgwr yn cofio’r stimwlws. (Efallai y bydd angen i chi roi sawl cynnig ar hyn er mwyn bod yn siŵr.)
D.S. Dylai’r stimwlws fod yn niwtral (ni ddylid defnyddio wyneb oedolyn cyfarwydd na bwyd).
Ceisiwch ddefnyddio bwrdd draffts du a gwyn.
Mae’r dysgwr yn ymateb i stimwlws drwy edrych yn ofalus neu wrando’n astud am gyfnod o amser.
Pan yw’r dysgwr yn colli diddordeb, tynnir y stimwlws i ffwrdd dros dro.
Pan gaiff ei ailgyflwyno, mae’r dysgwr yn talu sylw eto, ond am gyfnod byrrach na’r tro diwethaf.
Wrth barhau i ailgyflwyno’r un stimwlws, mae’r dysgwr yn talu llai a llai o sylw, os o gwbl.
Pan gyflwynir stimwlws newydd, mae’r cyfnod talu sylw yn llawer hirach.
Cynyddwch hyd y bylchau, chwiliwch am dystiolaeth bod y dysgwr yn cofio’r stimwlws (gweler ‘Gorgyfarwyddo’ ar dudalen 30 Ar Drywydd Dysgu: Canllawiau). Defnyddiwch stimwli amrywiol.
Dangoswch stimwlws newydd, yn hytrach na’r un stimwlws eto.
Edrychwch am ddiddordeb newydd.
Edrychwch am:
lonyddu/tynhau neu ymlacio
gwenu neu newid mewn mynegiant wyneb
troi’r pen
cyswllt llygad am foment
ymestyn allan/cyffwrdd
Bydd Kamal yn crio os yw rhywun nad yw’n ei nabod (e.e. staff cyflenwi) yn ei helpu, ond bydd yn ymlonyddu pan ddaw un o’r staff cyfarwydd yn ei le. Mae’n gwenu os yw’n gweld neu’n clywed ei ddyn tacsi.
Mae Carys yn ymwybodol iawn o wahanol leisiau. Mae’n troi cyn gynted â’i bod yn clywed llais ei thad wrth iddo ddod drwy ddrws y dosbarth.
Eisteddwch yn agos at y dysgwr – cofleidiwch/cyffyrddwch ef.
Symudwch tuag at y dysgwr, gan siarad neu ganu.
Tynnwch sylw at nodweddion penodol, e.e. mynegiant wyneb amlwg, teimlad gwallt hir, arogl persawr, ac ati.
Mae ymateb y dysgwr i berson mae’n ei nabod yn dda iawn yn wahanol i’w ymateb i ddieithryn.
Pan fydd rhywun cyfarwydd iawn gerllaw, bydd y dysgwr yn ymlonyddu, neu’n parhau mewn cyflwr bodlon. Efallai y bydd yn troi tuag at y person hwnnw neu’n dangos diddordeb ynddo mewn ffordd arall.
Mae ei ymateb i rywun anghyfarwydd yn debygol o fod yn fwy niwtral, pryderus neu ansicr. Os yw wedi ypsetio, efallai na fydd modd ei gysuro.
Sicrhewch fod gan bob ymarferydd sydd mewn cysylltiad rheolaidd â’r dysgwr nodwedd neu weithred bersonol. Yn ddelfrydol, dylai’r nodwedd fod yn rhan annatod o’r person, e.e. gwallt hir, barf ac ati.
Anogwch y dysgwr i adnabod llais – defnyddiwch enw’r dysgwr wrth ddod ato a byddwch yn gyson o ran yr iaith a ddefnyddiwch.
Yn achos dysgwyr sydd â nam ar eu golwg neu eu clyw, gellir defnyddio nodwedd y gallan nhw eu cyffwrdd.
Os yw’r dysgwr yn ymateb yn amddiffynnol i ymgais i’w annog i gyffwrdd rhywbeth, ceisiwch ddefnyddio synhwyrau eraill.
Edrychwch am:
newid yn lefel y gweithgarwch neu fynegiant yr wyneb
symud y llygaid, y gwefusau, y dafod
defnyddio’r llais
tynhau/ymlacio
symud breichiau/coesau/bysedd
Roedd Sean yn mwynhau chwarae â defnyddiau ffwr neu feddal, ond pan gyflwynwyd brwshys a phapur tywod, tynnodd ei ddwylo i ffwrdd.
Mae Seren fel pe bai’n hoffi gwead meddal stori synhwyraidd ‘y môr’, ond nid teimlad dŵr oer; tynnodd ei dwylo allan. Mae’n hapus i sblasio ei dwylo mewn dŵr cynnes. Mae fel pe bai’n hoffi blas siocled, ond nid tatws di-flas wedi’i botsio.
Datblygwch weithgareddau a ddefnyddiwyd ar gyfer bocs 3 y Map llwybrau (Ymateb i stimwlws amlwg iawn) gan gynyddu ystod, cymhlethdod ac amrywiaeth y stimwli.
Mae’r dysgwr yn ymateb i ystod ac amrywiaeth ehangac o stimwli gwahanol.
Efallai y bydd ystod y stimwli yn ehangach na’r rheini sydd wedi’u cynllunio’n benodol i greu ysgogiad synhwyraidd cryf.
Efallai y bydd rhai ymatebion yn digwydd y tu allan i amgylcheddau synhwyraidd a reolir.
Fel ym mocs 3 y Map llwybrau (Ymateb i stimwlws amlwg iawn), mae’n hawdd gweld y newid yn ymddygiad y dysgwr, a’i ddehongli fel ymateb.
Efallai y bydd y dysgwr nawr yn ymateb drwy nifer o synhwyrau, a’i bod yn dod yn haws dirnad pa stimwli mae’n eu hoffi neu nad yw’n eu hoffi.
Cynyddwch ymhellach ystod, cymhlethdod ac amrywiaeth y stimwli a ddefnyddiwyd yng Ngharreg filltir 1 y Map llwybrau (Sylwi ar stimwlws).
Lleihewch yn raddol lefel yr ysgogi i lefel fwy naturiol.
Os mai dim ond drwy un synnwyr y mae’r dysgwr wedi dangos ymateb hyd yma, dylech chi geisio ysgogi synhwyrau eraill sydd ar gael. Ystyriwch lle rydych chi’n eistedd neu’n sefyll mewn perthynas â chwmpas golwg y dysgwr neu ei allu i glywed ac ati (gweler ’Rhwystrau i ddysgu’ ar dudalennau 37–42 Ar Drywydd Dysgu: Canllawiau ac hefyd yr wybodaeth am focs 3 y Map llwybrau (Ymateb i stimwlws amlwg iawn) ar dudalen 10 o’r llyfryn asesu hwn i gael rhagor o wybodaeth.
Edrychwch am newidiadau yn ymddygiad y dysgwr, e.e. edrych, gwenu ar yr oedolyn, defnyddio’r llais, yn enwedig pan fydd yna oedi am eiliad.
Mae Manon yn mwynhau cael ei siglo ym mreichiau rhywun cyfarwydd. Mae’r cynorthwyydd addysgu yn ei siglo am ddeg eiliad, yna’n oedi, gan aros i Manon chwerthin. Pan fydd hi’n chwerthin, mae’r cynorthwyydd addysgu yn dweud “Mwy?”, yna’n ei siglo eto. Maen nhw’n gwneud hyn eto fel gêm cymryd tro.
Pan fyddaf yn strymio’r gitâr ac yna’n oedi, bydd Harry yn aml yn defnyddio’i lais yn ystod y tawelwch.
Cefnogwch y dysgwr mewn gêm siglo’n ôl ac ymlaen, e.e. ‘Cwch bach yn rhwyfo’.
Cefnogwch y dysgwr i ddychwelyd/gwthio’r bêl at oedolyn, gan ei baratoi i wneud drwy ddweud “Ar dy farciau, barod, cer!”
Wrth sgwrsio, cymerwch eich tro – siaradwch yn fywiog, arhoswch am ‘ateb’ bob hyn a hyn.
Cyflwynwch/ailgyflwynwch degan neu wrthrych (gweledol/cerddorol/ dirgrynol), gan gymryd eich tro a helpu’r dysgwr pan mai ei dro ef yw hi.
Mae’r dysgwr yn ymateb ar ôl i’r oedolyn:
ddarparu cyfle clir, drwy ystum hynod amlwg hyd yn oed, i gymryd ei dro
ysgogi’r dysgwr i ymateb a chymryd ei dro
Gellir dehongli amseru ymateb y dysgwr fel ‘ei dro ef’.
Yn ogystal, mae’r amgylchedd wedi’i drefnu’n ofalus i gefnogi gofynion y dysgwr.
Mae’r partner cyfathrebu yn gorfforol agos ac yn bresennol drwy gydol y sesiwn.
Defnyddiwch aelod staff i gefnogi’r dysgwr i gymryd ei dro, e.e. dal y dysgwr, gweithio law dros law, cydweithio, ac ati. Caniatewch amser i’r dysgwr ymateb.
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn ymateb yn yr un ffordd bob tro y cyflwynir stimwlws.
Dylid nodi na fydd ymatebion dysgwyr sydd ag ADDLl yn ‘gyson’ o un dydd i’r llall, am wahanol resymau.
Mae Aaron bob amser yn gwenu wrth glywed llais ei gynorthwyydd tacsi.
Nid yw Sioned yn hoffi sŵn stribed dolen a bachyn ac mae’n gwingo bob tro mae’n ei glywed yn cael ei dynnu oddi wrth ei gilydd.
Cyflwynwch stimwlws gweledol/clywedol/cyffyrddol cyfarwydd neu stimwlws synhwyraidd cyfarwydd arall sydd wedi’i ddefnyddio’n gyson gyda’r dysgwr. Defnyddiwch y stimwlws yn yr un ffordd sawl gwaith (ond nid mor aml nes i’r dysgwr ymgyfarwyddo neu ddiflasu ar y stimwlws).
Mae’r dysgwr yn ymateb mewn ffordd debyg bob tro yr ailgyflwynir stimwlws penodol.
Mae’n hawdd dehongli ymddygiad y dysgwr ym mhresenoldeb y stimwlws fel ymateb.
Mewn perthynas ag ymddygiad ‘edrych’ y dysgwr, mae’r cam hwn yn cyfateb i Lefel IV yr eyePoint Scale (Fixes Gaze):
‘Consistent active ability to fix and hold gaze on … a stationary target’ (Coleg Prifysgol Llundain ac Ysbyty Great Ormond Street: Eye‑Pointing Classification Scale).
Gofalwch fod y dysgwr yn gyfforddus ac yn ddiogel (gweler ‘Rhai egwyddorion allweddol o ran dysgu effeithiol’ ar dudalen 32 Ar Drywydd Dysgu: Canllawiau).
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn dilyn stimwlws gyda’i lygaid.
Mae Efan yn symud ei ben yn herciog i ddilyn y bag aur neu’r cerdyn lliw sy’n dangos diwrnod yr wythnos wrth iddyn nhw gael eu symud o’r chwith i’r dde ac o’r dde i’r chwith.
Wrth i Ella gael ei gwthio o amgylch yr ysgol yn ei chadair olwyn, edrychodd i fyny ymhellach ac ymhellach i’r chwith wrth i ni basio’r ffenestri lle mae’r golau naturiol yn dod i mewn.
Ceisiwch ddefnyddio sŵn i dynnu sylw, yna defnyddiwch stimwlws gweledol, e.e. gwrthrychau llachar neu fflworoleuol. Symudwch y stimwlws i fyny, i lawr, i’r chwith ac i’r dde.
Mae llygaid y dysgwr yn canolbwyntio ar stimwlws.
Pan fydd y stimwlws yn symud, mae llygaid y dysgwr yn symud i’r un cyfeiriad.
Gall ddilyn stimwlws mewn mwy nag un cyfeiriad.
Efallai na fydd y dysgwr yn ‘dilyn’ y stimwlws am gyfnod hir ac efallai y bydd yn rhywbeth ysbeidiol ac anghyflawn (wrth symud gwrthrych o un safle i safle arall). Mae’r gallu i dracio gwrthrych gyda mwy o gysondeb yn datblygu yn sgil hyn.
Ceisiwch ddefnyddio gwrthrychau sydd â nodweddion gweledol gwahanol, e.e. gwahanol liwiau neu rai sy’n fwy llachar na’i gilydd.
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn mynegi dymuniad i roi’r gorau i’r weithgaredd neu’r rhyngweithio, e.e. drwy droi i ffwrdd, tynnu wyneb neu wthio.
Yn ystod yr Affective Communication Assessment, rhoddir blas bach o hufen salad i Zayan. Mae ei gorff yn tynhau, mae’n crychu ei wefusau ac yn gostwng ei ben. Wrth geisio rhoi blas bach arall iddo, mae’n troi i ffwrdd, ei wefusau yn dal i fod wedi’u crychu. Pan roddir blas bach o bâst siocled iddo, ar y llaw arall, mae Zayan wedi ymlacio. Mae’n gwneud symudiadau sugno gyda’i dafod ac yn aros yn ei safle yn wynebu’r oedolyn.
Mae Nia yn derbyn y rhan fwyaf o fwyd a gynigir ar lwy, ond yn cau ei cheg yn glep pan ddaw rhywun â brwsh dannedd ati.
Cyflwynwch ystod o stimwli (y rheini nad yw’r dysgwr mor hoff ohonyn nhw). Edrychwch am arwyddion megis troi i ffwrdd, osgoi edrych i lygad yr oedolyn, newid ym mynegiant yr wyneb, symud breichiau neu goesau. Er mwyn asesu’r ymddygiad hwn, rhaid i’r dysgwr fod wedi dangos ymateb cadarnhaol i rai stimwli.
Er ei fod yn dangos diddordeb neu bleser mewn ymateb i stimwli eraill, mae ymddygiad presennol y dysgwr yn wahanol iawn.
Mae nawr yn anwybyddu neu’n amlwg yn osgoi’r stimwlws, ac efallai yn dangos arwyddion o anghysur.
Mae’r dysgwr yn dibynnu ar allu partner cyfathrebu cyfarwydd i adnabod yr ymatebion hyn.
Ymatebion i ddigwyddiadau a stimwli yw ymddygiadau’r dysgwr yn hytrach nag ymddygiadau y bwriedir iddyn nhw effeithio ar eraill.
Mae’r ymateb hwn o ‘wrthod’ yn negyddol ac felly’n anodd i’w addysgu. I ddechrau, efallai na fydd yn amlwg o gwbl. Dylech chi atgyfnerthu neu ‘lywio’ yr ymddygiad â phob cyfle, gan ymateb yn gyson i gadarnhau’r ystyr.
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn ymateb mewn ffordd wahanol i:
un math o wrthrych neu brofiad synhwyraidd o’i gymharu ag un arall
un dull synhwyraidd (e.e. sŵn) o’i gymharu ag un arall (e.e. blas neu arogl)
gwrthrychau a phrofiadau synhwyraidd o gymharu â rhyngweithio â phobl
Mae Martin wrth ei fodd pan fydd rhywun yn canu yn Gymraeg iddo ac mae’n ymateb yn frwdfrydig bob amser i ganu a siarad Cymraeg. Nid yw’n hoffi rhoi ei ddwylo mewn dŵr oer na phaent, ac mae cerddoriaeth uchel yn gwneud iddo neidio.
Bydd Tahayra yn codi ei phen wrth adael adeilad yr ysgol i fynd allan i’r awyr iach. Bydd yn edrych i fyny ar y goleuadau wrth symud o un rhan o’r adeilad i un arall. Mae hi’n chwerthin pan gaiff ei goglais, ond mae’n tynnu i ffwrdd ac yn crio pan gaiff ei braich ei thylino. Mae Tahayra yn anwybyddu swigod yn llwyr, ond yn siglo yn ôl ac ymlaen pan fydd cerddoriaeth uchel yn chwarae.
Cyflwynwch y stimwli yr ydych chi’n credu y mae’r dysgwr yn eu hoffi’n fawr neu nad yw’n eu hoffi o gwbl, a nodwch ymateb y dysgwr.
Ydy’r stimwli y credir y mae’r dysgwr yn eu hoffi yn ennyn ymateb gwahanol, gweddol gyson o gymharu â’r stimwli y credir nad yw’n eu hoffi?
Mae’r dysgwr yn arddangos nifer o ymddygiadau gwahanol wrth ymateb i ystod o stimwli.
Mae’r gwahaniaethau yn ei ymatebion yn dystiolaeth glir o’r hyn sydd orau ganddo.
Ceisiwch ddefnyddio stimwli cryf ychwanegol gan ddefnyddio amrywiol synhwyrau. Gwnewch hyn nifer o weithiau.
Ar ôl ymgynghori â ffisiotherapydd ceisiwch y canlynol.
Gosodwch y dysgwr ar flanced drwchus gan ofalu bod ei ben yn cael ei gynnal, a llusgwch y flanced ar hyd llawr llithrig, gan oedi bob hyn a hyn i roi cyfle i’r dysgwr ymateb.
Rhowch flas i’r dysgwr o rywbeth maen nhw’n debygol o’i hoffi/beidio â’i hoffi, e.e. rhywbeth â blas cryf, unigryw fel rhun burum, sudd lemwn, riwbob, siocled neu fefus. Gellid defnyddio balmau gwefus â blas gwahanol hefyd.
Cyflwynwch ewcalyptws neu arogl cryf arall o fanc aroglau.
D.S. Peidiwch â chyflwyno stimwli sy’n ennyn ymateb negyddol fwy nag unwaith ar yr un achlysur. Yn hytrach, cydnabyddwch yr hyn y mae’r dysgwr yn ei gyfathrebu, a thynnwch y stimwlws oddi wrtho.
Nodwch sut mae’r dysgwr yn ‘arwyddo’ diwedd sesiwn ryngweithio, e.e. drwy droi i ffwrdd neu osgoi edrych i lygad yr oedolyn.
Mae Jill yn ymddangos yn hapus yn gwrando ar ei hoff gerddoriaeth. Am yr ychydig funudau cyntaf, mae’n gwenu tra bo rhywun yn anwesu ei llaw i guriad y gerddoriaeth. Yna mae’n tynnu ei llaw i ffwrdd ac yn cau ei llygaid.
Mae Leo yn cau ei lygaid os yw wedi cael digon ar sgwrs oedolyn. Mae’n codi ei ddwylo at ei wyneb a’u cadw yno fel pe bai’n blocio’r oedolyn.
Edrychwch am hyn mewn gweithgareddau o bob math. Ehangwch y gweithgareddau cymryd tro a ‘modelwch’ yr ymddygiad hwn.
Yn ystod sesiwn neu ryngweithio cyfarwydd, daw’n amlwg bod y dysgwr yn dod â’i ymwneud â’r person arall i ben.
Efallai y bydd y dysgwr yn parhau i ymwneud â gwrthrych neu weithgaredd, ond yn tynnu’n ôl o’r rhyngweithio.
Ymatebwch yn gyson a pharchwch yr arwydd hwn neu efallai y bydd y dysgwr yn troi at fesurau mwy eithafol.
Ar ôl cyflwyno’r stimwli am yn ail fwy nag unwaith, edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn troi ei lygaid, ei ben neu ran o’i gorff at y safle nesaf cyn i’r stimwlws ymddangos.
Pan gaiff sŵn, dirgryniad neu olau ac ati ei gyflwyno ar batrwm curiad, edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn rhagweld ei fod am gael ei gyflwyno eto, e.e. efallai y bydd ei gorff yn tynhau neu ei lygaid yn agor yn fwy llydan.
Canais y gloch y tu ôl i James, yn gyntaf ar y dde ac yna ar y chwith, sawl gwaith ar ôl ei gilydd. Trodd bob tro tuag at yr ochr lle roedd y gloch yn canu. Unwaith, ar ôl ei chanu ar y dde, arhosais am foment a throdd i’r chwith yn barod i’w chlywed yr ochr honno. Rhoesom gynnig ar rywbeth tebyg drwy chwarae bi-po gydag adar a fyddai’n ymddangos am yn ail o ddau dwll. Unwaith eto, ar ôl aros am foment, trodd ei lygaid at y twll nesaf lle dylai’r aderyn ymddangos.
Gall Martha ragweld o ble y bydd golau neu sŵn yn dod nesaf pan gaiff y stimwli eu cyflwyno am yn ail.
Pan oeddwn i’n sefyll y tu ôl iddi ar y trampolîn, gan blygu i’r naill ochr yn gyntaf ac yna i’r llall, byddai’n troi i gyfeiriad lle dylwn ymddangos nesaf.
Ceisiwch y canlynol gyda’r dysgwr.
Cyflwyno stimwlws gweledol o ddau safle gwahanol am yn ail.
Cyflwyno un sŵn ar batrwm curiad rheolaidd.
Gosod brwsh dirgrynol, tylinydd ac ati ar ddwy ran wahanol o gorff y dysgwr am yn ail.
Ar ôl cyflwyno stimwlws i’r dysgwr yn gyntaf mewn un lleoliad, ac yna mewn un arall, a chyflwyno’r patrwm eto, mae llygaid, pen neu ran o gorff y dysgwr yn symud tuag at y lleoliad nesaf, a hynny cyn i’r stimwlws ymddangos yno.
Os na fydd ymateb, ceisiwch eitemau pefriog fel opteg ffibrau, goleuadau neu wialenni fflworoleuol o dan olau uwchfioled.
Chwythwch ar bob ochr i wyneb y dysgwr neu chwythwch ar wahanol rannau o’r corff. Os oes nam ar olwg y dysgwr a’i fod yn araf i ragweld, ewch yn ôl i focs 12 y Map llwybrau (Ymateb yn wahanol i wahanol stimwli) a phwysleisio cyffyrddiad.
Torrwch ar y rhyngweithio yn ystod y sesiwn; trowch i ffwrdd a stopio’r gweithgarwch. Nodwch ymateb y dysgwr.
Mae Alex yn cymryd tro i guro dwylo gyda’i hathro. Pan fydd yr athro’n troi i ateb cydweithiwr, mae Alex yn dechrau crio.
Roeddwn yn anwesu braich Liam yn dyner. Pan wnes i stopio a thynnu fy llaw yn ôl, dechreuodd guro’r hambwrdd o’i flaen a defnyddio llais uchel.
Torrwch ar y rhyngweithio yn ystod y sesiwn; trowch i ffwrdd a stopio’r gweithgarwch. Nodwch ymateb y dysgwr.
Pan gaiff trefn gymdeithasol gyfarwydd ei stopio, mae’r dysgwr yn ymddwyn mewn ffordd sy’n dynodi dicter neu siom.
Mae ei ymddygiad yn ymddangos yn debycach i ymateb uniongyrchol i’r ffaith bod y rhyngweithio wedi dod i ben, yn hytrach na chais i’r partner cyfathrebu ailddechrau.
Sicrhewch fod ymarferwyr yn ymateb yn gyson i’r arwydd.
Edrychwch a yw’r dysgwr yn:
symud ei fysedd neu ei ddwylo
arogli neu’n ceisio llyfu gwrthrychau neu eu teimlo â’i geg
mynd ati i astudio gwahanol wrthrychau yn eu tro
Chwarddodd Kayleigh wrth i dywod gael ei ysgeintio dros ei thraed; yna symudodd ei thraed yn y tywod.
Gyda chymorth, teimlodd Peter fwa pluog yn ystod ein stori a daliodd ei afael ynddo wedyn.
Gosodwch law’r dysgwr ar wrthrych diddorol a helpwch ef i’w deimlo, yna oedwch.
Mae’r dysgwr yn arddangosymateb os yw:
yr amgylchedd wedi’i drefnu’n ofalus i gefnogi ei ofynion
oedolyn yn gorfforol agos ac yn bresennol drwy gydol y sesiwn
yr oedolyn wedi ysgogi’r rhyngweithio drwy (o leiaf):
bringing the material to the learner
bringing the learner’s hand, foot, etc. to the material
Gosodwch law neu droed y dysgwr mewn dŵr cynnes; corddwch y dŵr.
Arllwyswch dywod dros law neu droed y dysgwr.
Claddwch droed y dysgwr mewn tywod, ewyn eillio, jeli neu laid.
Defnyddiwch bwll peli, bagiau teimlo, ac ati.
Edrychwch am arwyddion o ragweld, e.e. tynhau neu symud y corff cyfan, edrych yn fwy i lygad yr oedolyn, gwenu neu chwerthin.
Oedais cyn cynnig y gegaid olaf o fwyd i Katie, gan ddefnyddio ystum fawr a dweud ‘Dyma fe’n dod!’. Codais y llwy o’r plât, gan stopio’r llwy ychydig cyn cyrraedd ei cheg. Symudodd Katie ei chorff ychydig yn fwy, ac mewn ymateb cynigiais y llwyaid olaf iddi.
Mae Nathan yn agor ei lygaid a’i geg led y pen ac yn gwenu pan symudaf fy mreichiau tuag ato mewn ystum amlwg cyn ei ogleisio.
O fewn trefn gyfarwydd (e.e. ‘diodydd’, hylendid personol, gemau cymdeithasol), oedwch cyn yr uchafbwynt.
Wrth i uchafbwynt sesiwn agosáu, gwelir cyffro a diddordeb y dysgwr yn cynyddu’n amlwg.
Mae’r dysgwr yn ddibynnol ar set gul o arferion cyfarwydd ac ar sgiliau partner cyfathrebu sensitif sy’n nabod y dysgwr yn dda, sy’n rhoi cyfleoedd amserol, ac sy’n hwyluso ac yn cydnabod ymatebion y dysgwr.
Gofalwch ddefnyddio trefn gyson mewn sesiynau hylendid personol, wrth roi diodydd, ac ati. Ciwiwch neu gorystumiwch ran benodol o’r drefn er mwyn ei throi’n gêm, e.e. wrth newid y dysgwr, datblygwch gêm yn ymwneud â chodi ei ben-֧ ôl oddi ar fainc. Gallech chi roi ciw iddo wrth i chi gymryd anadl enfawr i mewn wrth i’w ben-ôl gael ei godi, yna oedi’n ddramatig, a gorffen drwy lawer o fownsio.
Ceisiwch gemau cyffredin megis y rhai sy’n seiliedig ar hwiangerddi neu gemau eraill y byddwch chi wedi’u creu.
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn colli diddordeb yn y gwrthrych cyntaf ac yn troi ei sylw at eitem newydd.
Pan gynigir offeryn cerdd iddi, bydd Nahid yn edrych arno ac yn estyn amdano. Os cyflwynir ail offeryn, bydd yn gollwng y cyntaf ac yn estyn am yr un newydd.
Pan fydd eitem o fwyd ar y bwrdd, bydd Matthew yn estyn amdani, ond yna os caiff ei botel ddiod ei osod o fewn golwg iddo, bydd yn estyn am honno yn ei lle.
Tra bydd y dysgwr yn rhoi sylw i wrthrych, cynigiwch ail eitem ddiddorol i’w annog i ailgyfeirio ei sylw.
Mae’r dysgwr yn edrych ar wrthrych newydd ar ôl iddo gael ei gyflwyno/yn cydio ynddo/yn dechrau ei archwilio.
Dim ond un gwrthrych sy’n bresennol (i ddechrau).
Mewn perthynas ag ymddygiad ‘edrych’ y dysgwr, mae’r cam hwn yn cyfateb i Lefel III yr eyePoint Scale (Fixes, disengages and shifts gaze) (University College London and Great Ormond Street Hospital: Eye‑Pointing Classification Scale) (Saesneg yn unig). D.S. Nid yw symud sylw yn gyfystyr â gwneud dewis..
Ceisiwch ysgogi’r dysgwr i archwilio ail wrthrych, drwy edrych arno neu ei gyffwrdd, gan roi amser iddo ailgyfeirio ei sylw.
Edrychwch am:
symud y dwylo neu’r bysedd yn annibynnol (ond ar hap)
archwilio pwrpasol gyda’r geg neu rannau eraill o’r corff
ymateb y dysgwr i unrhyw ‘effeithiau’ a grëir
Symudodd Anwen ei thraed pan osodwyd y flanced ofod oddi tanynt. Roedd y sŵn fel pe bai o ddiddordeb iddi.
Rholiodd Li ar y mat cerddorol yn yr ystafell olau gan achosi i’r gerddoriaeth chwarae.
Gosodwch y dysgwr ar arwyneb adweithiol, e.e. blanced ofod neu fwrdd synhwyraidd.
Mae’r dysgwr yn gwneud i rywbeth ddigwydd yn agos ato cyn belled â bod:
yr amgylchedd wedi’i drefnu’n ofalus fel bod symudiad o fewn repertoire y dysgwr yn dod i gysylltiad â’r defnydd(iau) targed
y defnyddiau yn creu effaith synhwyraidd gref nad yw’r dysgwr yn ei hanwybyddu’n amlwg ac nad yw’r dysgwr yn ymateb yn negyddol iddi
Nid oes angen i’r oedolyn fod yn bresennol yn barhaus ac nid yw’n darparu cymorth corfforol er mwyn hwyluso’r gweithredu.
Defnyddiwch ystod o arwynebau neu deganau sy’n ymateb i gyffyrddiad (e.e. blanced oroesi, mat llawr rhyngweithiol, system seiniad, dol Bobo). Gallech chi hefyd ddefnyddio ‘ystafell fach’.
Rhowch gyfleoedd i’r dysgwr effeithio ‘drwy siawns’ ar ei amgylchedd uniongyrchol (e.e. drwy fwrw tegan swnllyd). Atgyfnerthwch y gweithredoedd hyn, gan ei annog i’w hailgyflawni a sicrhau’r un canlyniad bob tro.
Edrychwch a yw’r dysgwr yn edrych i gyfeiriad y gwrthrych ar ôl iddo ddiflannu.
Pan ddywedodd tad Connor hwyl fawr a cherdded allan o’r ystafell ddosbarth, dilynodd Connor ef â’i lygaid gan syllu am foment ar y drws ar ôl iddo gau.
Roedd Emma yn chwarae â chi tegan bach o sach stori pan dynnodd y cynorthwyydd addysgu ef o’i hambwrdd a’i roi’n ôl yn y sach (a oedd ar y llawr). Cadwodd ei llygad ar y tegan wrth iddo gael ei symud ac edrychodd am ychydig ar y sach ar ôl iddo gael ei roi i mewn.
Pan fydd y dysgwr yn canolbwyntio ar wrthrych deniadol, symudwch y gwrthrych yn araf ac yn fwriadol o olwg y dysgwr a gwyliwch am ymateb.
Mae llygaid y dysgwr yn canolbwyntio ar stimwlws.
Pan fydd y stimwlws yn symud, mae llygaid y dysgwr yn symud i’r un cyfeiriad.
Mae’n syllu ar y man lle diflannodd y gwrthrych o’i olwg, ac yn parhau i edrych am gyfnod byr iawn ar ôl i’r gwrthrych ddiflannu.
Defnyddiwch amrywiol sefyllfaoedd neu leoliadau i annog y dysgwr i edrych i gyfeiriad gwrthrych sydd wedi diflannu o’i olwg.
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn ceisio creu gweithred neu effaith
Bydd Owen yn mynd ati’n egnïol i fwrw’r bwrdd synhwyraidd â’i holl nerth er mwyn creu amrywiaeth o synau.
Pan gaiff ei roi ar flanced ofod swnllyd, mae’n ymdroelli ac yn cicio’n frwdfrydig.
Bydd Sarah yn archwilio defnyddiau synhwyraidd a osodir yn agos iawn ati, megis mwclis sy’n disgleirio o dan oleuadau. Bydd hefyd yn defnyddio ei llaw i wneud synau ar y clychau ac yn tynnu opteg ffibrau yn nes ati.
Gosodwch y dysgwr ar arwyneb ymatebol diddorol a nodwch ei ymateb.
Mae’r dysgwr yn gwneud i rywbeth ddigwydd fwy nag unwaith cyn belled â bod:
yr amgylchedd wedi’i drefnu’n ofalus iddo wneud hynny
y defnyddiau a ddefnyddir yn cael effaith(effeithiau) synhwyraidd cryf (ac wedi’u cynllunio i wneud hynny)
Mae’r dysgwr yn dangos diddordeb clir yn yr effaith(effeithiau).
Nid oes angen i’r oedolyn fod yn bresennol yn barhaus ac nid yw’n darparu cymorth corfforol er mwyn hwyluso’r gweithredu.
Ysgogwch y dysgwr yn gorfforol neu ar lafar i archwilio’r arwyneb, yna lleihewch faint rydych chi’n ei ysgogi. Tynnwch sylw’r dysgwr at yr effeithiau a grewyd.
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn defnyddio’i lais/symud/newid mynegiant ei wyneb, er enghraifft:
agor ei lygaid yn llydan, syllu ar wrthrych
symud ei freichiau
agor ei geg neu ddefnyddio’i lais
ymestyn tuag at wrthrych mewn ffordd y gellir ei dehongli i olygu ei fod yn gofyn am fwy
Mae Sophie yn gweithio gyda’r ffisiotherapydd. Mae hi’n mwynhau ymestyn at fysellfwrdd electronig i’w daro.
Pan fydd y therapydd yn troi i ffwrdd i ysgrifennu nodyn iddi hi ei hun, mae Sophie yn chwifio ei dwylo tuag at y bysellfwrdd, gan wgu.
Os bydd Isaac yn rhoi cwtsh i un o’r staff, a bod hwnnw’n tynnu i ffwrdd, bydd yn ymestyn ato ac yn ei dynnu’n ôl am gwtsh arall. Pan fydd ei fyrbryd wedi gorffen, bydd yn bwrw’r bwrdd nes iddo gael mwy.
Dechreuwch weithgaredd bleserus gyda’r dysgwr. Torrwch ar draws y weithgaredd ar adeg hollbwysig, ac arhoswch am ymateb y dysgwr.
Er enghraifft:
wrth iddo fwyta, oedwch, gan ddal y bwyd o flaen ei geg
wrth ganu, oedwch ar ganol cân ystumiau
oedwch wrth daro bwrdd synhwyraidd
Wrth ryngweithio â phartner, mae’r dysgwr yn ymateb mewn ffordd y gellir ei dehongli i olygu ‘Rwy’n hoffi’r weithred neu’r stimwlws yna, ac yn hapus i gael mwy ohono’.
Mae’r ymateb yn digwydd pan fydd gweithgaredd yn cael ei stopio am eiliad (ei ‘dro’ ef).
Efallai na fydd y dysgwr yn mynd ati’n fwriadol i effeithio ar yr hyn y mae’r partner cyfathrebu yn ei wneud, ond gall partner cyfathrebu sensitif ddeall/dehongli ei ymddygiad.
Mae’r ymatebion sy’n gofyn am ‘fwy’ yn debygol o ddibynnu ar y math o stimwlws (e.e. arogl, gweithred, blas, sŵn, gwead), ond nid ydyn nhw’n dibynnu ar gyd‑destun cyfarwydd.
Gan ddefnyddio stimwli y mae’r dysgwr yn ymateb yn gyson iddyn nhw, datblygwch batrwm. Oedwch o fewn y patrwm a dehonglwch ymateb nesaf y dysgwr fel cais am fwy. Er enghraifft, wrth gynnig bwyd ar lwy, oedwch ychydig cyn rhoi’r llwy yn ei geg a dehonglwch ymateb nesaf y dysgwr (e.e. agor ei wefusau) fel ‘mwy’. Rhowch fwy o bellter rhwng y llwy a’r geg. Os yw’r dysgwr yn cau ei wefusau, gallai hynny olygu ‘dim mwy’.
Oedwch ar ganol gweithgaredd bownsio neu weithgaredd bwrdd synhwyraidd â chân ystumiau. Dehonglwch symudiad corff y dysgwr neu fynegiant ei wyneb fel cais am fwy.
Edrychwch:
a yw’r dysgwr yn gwneud i rywbeth ddigwydd yn annibynnol
a yw lefel y gweithredu yn cynyddu pan yw’n cael effaith, e.e. a yw’r cicio yn cynyddu pan yw’n gwneud i declyn symudol symud
a yw’r dysgwr yn aros am wobr i orffen cyn gwasgu switsh eto, ac ati
Roedd Martina yn gwybod bod yn rhaid iddi wasgu’r sgrîn gyffwrdd er mwyn gwneud i rywbeth ddigwydd, a gwnaeth hyn sawl gwaith. Daliodd ati i wneud hynny tra roedd y wobr yn chwarae.
Mae Jordan yn taro’r clychau sawl gwaith, heb aros i’r sŵn y mae wedi’i greu ddiflannu’n gyntaf.
Gan ddefnyddio gweithred y mae’r dysgwr wedi’i meistroli (e.e. cicio, gwasgu switsh), defnyddiwch wobr ac arsylwch lefel yr ymateb.
Mae’r dysgwr yn gweithredu’n llwyddiannus er mwyn gwneud i rywbeth ddigwydd (y wobr).
Mae’n dangos elfen o ddiddordeb yn y wobr.
Ar ôl profi llwyddiant, mae’n dal ati i gyflawni’r weithred.
Nid yw ei weithredoedd wedi’u cydamseru â chael y wobr o reidrwydd, ac efallai y bydd y dysgwr yn dal i gyflawni’r weithred yr un mor aml er bod y wobr wedi’i chael.
Ar hyn o bryd, efallai nad yw’r dysgwr yn deall yn llawn y cysylltiad rhwng ei weithred a’r canlyniad. Sicrhewch fod y weithred yn creu canlyniad cyson er mwyn helpu sefydlu’r cysylltiad hwn ym meddwl y dysgwr.
Efallai y bydd clymu llinyn i bigwrn y dysgwr i wneud i declyn symudol symud yn dechneg arbennig o effeithiol – mwya’n byd y bydd y dysgwr yn cicio, mwya’n byd y bydd y teclyn yn symud.
Mae’r dechneg hon yn sicrhau bod y dysgwr yn derbyn adborth da.
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn mynd ati’n bwrpasol i wneud i bethau ddigwydd mewn amgylchedd arferol.
Bydd Lily yn rhoi ei dwylo yn y badell ddŵr ac yn sblasio; mae hi hefyd yn mwynhau gwneud hyn yn y pwll.
Cododd Gareth linyn o fwclis o hambwrdd o ddefnyddiau. Edrychodd yn ofalus arnyn nhw a’u symud o gwmpas o flaen ei lygaid.
Ceisiwch weithgareddau chwarae arferol o bob math (e.e. tywod, dŵr) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r dysgwr ryngweithio fwy nag unwaith er mwyn creu effaith.
Mae’r dysgwr yn gwneud i rywbeth ddigwydd fwy nag unwaith.
Nid yw’r defnyddiau a ddefnyddir wedi’u cynllunio’n benodol i greu effaith(effeithiau) synhwyraidd cryf.
Mae’r dysgwr yn dangos diddordeb clir yn yr effaith(effeithiau).
Nid oes angen i’r oedolyn fod yn bresennol yn barhaus ac nid yw’n darparu cymorth corfforol er mwyn hwyluso’r gweithredu.
Defnyddiwch wrthrychau neu weithgareddau amrywiol ac ysgogwch y dysgwr i’w harchwilio.
Lleihewch yr ysgogi dros amser.
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn ‘sylwi’ ar ail ddigwyddiad/stimwlws ac yn ymateb neu’n newid ei ymddygiad, e.e. drwy droi, talu sylw neu ddefnyddio’i lais.
Yn ystod amser cylch, daeth aelod staff o ddosbarth arall i mewn i’r ystafell mewn gwisg ffansi yn chwarae’r gitâr. Trodd Caleb i edrych a gwrando.
Os bydd rhywun yn dod i mewn i’r ystafell pan fydd Hannah yn defnyddio’r cyfrifiadur, bydd yn anwybyddu’r cyfrifiadur ac yn canolbwyntio ar yr ymwelydd.
Cyflwynwch ail degan/stimwlws/oedolyn/cyfoed gerllaw tra bydd y dysgwr yn ymwneud â gweithgaredd.
Mae sylw’r dysgwr yn troi at ddigwyddiad newydd.
Efallai mai dros dro y caiff ei sylw ei dynnu – efallai y bydd y dysgwr yn troi’n ôl at ei weithgaredd flaenorol neu’n anghofio am y peth – gan ddibynnu ar ba mor ddiddorol yw’r digwyddiad.
Cyflwynwch ail weithgaredd, e.e. bod oedolyn neu gyfoed wedi dod i mewn i’r ystafell. Tynnwch sylw’r dysgwr ato.
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn gweithredu’n fwriadol ac yn fwy cyson; er enghraifft:
aros i wobr ddod i ben cyn rhoi cynnig arall arni, gan gysylltu gweithred benodol â’i chanlyniad
newid ym mynegiant yr wyneb neu yn lefel y canolbwyntio
cywirdeb mwy
Bydd Sam yn gwasgu switsh i weithredu sychwr gwallt neu i chwarae cerddoriaeth; mae’n gwenu pan fydd yn gweld ei fod yn gweithio ac mae’n aros. Unwaith bydd wedi stopio, bydd yn estyn allan i’w wasgu eto.
Mae Eira yn bwrw ei drwm ac yna’n aros ac yn gwrando wrth i’r athro cerddoriaeth chwarae’r un patrwm mewn ymateb. Yna mae’n bwrw’r drwm eto.
Darparwch switsh ar gyfer tegan neu darparwch degan siglo, clychau gwynt, ac ati, y gellir eu gweithio â gweithred y mae’r dysgwr eisoes wedi’i dysgu.
Mae’r dysgwr yn gweithredu’n fwriadol i wneud i rywbeth ddigwydd.
Nid yw’n ailgyflawni’r weithred tra bo’r wobr yn dal yn weithredol.
Mae’n talu sylw manwl i’r wobr, ac efallai yn dangos pleser a chyffro.
Dim ond pan fydd y wobr wedi dod i ben y bydd yn ailgyflawni’r weithred.
Anogwch y dysgwr i gyflawni’r un weithred i greu effeithiau amrywiol.
Sicrhewch fod y dysgwr yn llwyddiannus bob tro.
Edrychwch am unrhyw fath o archwilio, e.e. edrych o gwmpas, estyn ei freichiau, neu symudiad corfforol os yw ar y llawr.
Pan oeddem mewn ystafell ddosbarth wahanol, rholiodd Zoe ar y llawr er mwyn symud yn nes at y tŷ dol.
Os bydd Nicholas yn clywed bod gwrthrych wedi’i roi ar hambwrdd ei gadair olwyn, aiff ati yn gyntaf i chwilio amdano gyda’i ddwylo ac yna, os yw’n rhywbeth y mae’n ei hoffi neu ei eisiau, bydd yn treulio amser yn ei archwilio.
Arsylwch ymateb y dysgwr i amgylchedd llai cyfarwydd, pan fydd oedolyn cyfarwydd gerllaw
Mae’r dysgwr yn ymwneud â gwrthrych neu ddefnyddiau sydd gerllaw, neu â’r amgylchedd sy’n union o’i amgylch.
Mae’r dysgwr yn dangos diddordeb a ffocws clir.
Mae gweithredoedd y dysgwr yn ymwneud â’r ffocws hwn.
Nid yw’r amgylchedd a’r defnyddiau wedi’u cynllunio’n benodol i greu effaith(effeithiau) synhwyraidd cryf, ac efallai y byddan nhw’n rhai nad yw’r dysgwr yn dod ar eu traws yn rheolaidd.
Er y bydd yr oedolyn yn bresennol efallai, nid yw’r dysgwr yn dibynnu ar yr oedolyn i weithredu.
Darparwch brofiadau gweledol/cyffwrdd diddorol mewn ffordd a reolir drwy gyflwyno stimwli newydd yn rheolaidd a thynnu sylw atyn nhw.
Edrychwch am ymateb sydd efallai yn dynodi ‘dim mwy’, e.e. cau ei lygaid, troi i ffwrdd, cau ei geg. Atgyfnerthwch hyn ac adeiladu arno, gan ymateb yn gyson bob tro.
Rydym yn gwybod bod Mira eisiau ‘mwy’ am ei bod yn parhau i edrych i’n llygaid, mae’n gwenu ac mae’n ymestyn allan. Rydym yn gwybod ei bod yn golygu ‘dim mwy’ pan fydd yn troi i ffwrdd, yn gwrthod edrych i’n llygaid neu’n ein gwthio i ffwrdd.
Fel rheol, mae’n amlwg o fynegiant wyneb Jake ei fod eisiau ‘mwy’, a bydd weithiau yn defnyddio’i lais ar yr un pryd. Fodd bynnag, pan fydd wedi cael digon, bydd yn cau ei lygaid tra bydd rhywun yn siarad, ac os na fydd y person yn stopio bydd yn troi ei wyneb i ffwrdd.
Arsylwch ymatebion y dysgwr i weithgaredd neu fwyd ac ati nad yw mor hoff ohonyn nhw. Nodwch unrhyw weithred sydd efallai yn dynodi ‘dim mwy’. Dylai’r rhain fod yn wahanol i unrhyw weithred ganddo sy’n dynodi ‘mwy’.
Wrth ryngweithio â phartner, mae’r dysgwr yn arddangos dau fath gwahanol o ymateb:
ymatebion y gellir eu dehongli i olygu ‘Rwy’n hoffi hynny ac yn hapus i gael mwy ohono’
ymatebion eraill y gellir eu deall i olygu ‘Dydw i ddim yn hoffi hynny’ neu ‘Dydw i ddim eisiau mwy o hynny’
Defnyddir yr ymatebion yn weddol gyson mewn gwahanol gyd-destunau, ac maen nhw’n aml yn digwydd pan fydd yna oedi yn y rhyngweithio (tro’r dysgwr).
Mae partneriaid cyfathrebu anghyfarwydd yn deall yr hyn y mae’r dysgwr am ei wneud.
Nodwch yr ymateb lleiaf i weithgaredd sy’n dynodi bod y dysgwr am ddod â hi i ben, neu’r newid lleiaf mewn mynegiant. Atgyfnerthwch yr ymddygiad hwn a’i lywio drwy ddweud neu arwyddo ‘wedi gorffen/dim mwy’ a dod â’r weithgaredd i ben yn amlwg iawn.
Edrychwch a yw’r dysgwr yn rhoi sylw i’r ddau wrthrych yn eu tro, neu’n eu teimlo, ac yn ailgyfeirio ei sylw.
Edrychodd Elis yn ôl ac ymlaen o’r tegan ysgwyd i’r clychau, ddwywaith; y clychau oedd yn ei ddiddori fwyaf, i bob golwg.
Yn yr ogof synhwyraidd, estynnodd Laura am y clychau, yr addurniadau ac, unwaith eto, y clychau.
Gosodwch ddau wrthrych deniadol ar hambwrdd y dysgwr i’w harchwilio yn weledol neu drwy eu cyffwrdd; tynnwch sylw’r dysgwr at y ddau ac arhoswch.
Mae’r dysgwr yn archwilio un gwrthrych, ac yna’r ail wrthrych.
Mae’r dysgwr yn parhau i ddangos rhywfaint o ddiddordeb yn y ddau wrthrych, gan roi sylw i’r naill a’r llall ar wahanol adegau.
Mae dau wrthrych yn bresennol drwy gydol y sesiwn.
D.S. Nid yw rhoi sylw i wrthrychau am yn ail yn gyfystyr â gwneud dewis.
Rhowch gynnig ar ysgogi’r dysgwr i archwilio’r ddau wrthrych yn eu tro, gan roi amser iddo ailgyfeirio ei sylw. Mae angen i’r ddau wrthrych fod o fewn cwmpas golwg/gofod y dysgwr.
Anogwch y dysgwr i archwilio’r ddau wrthrych, yn hytrach na ‘dewis’ un ohonyn nhw.
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn ailarwyddo ei fod eisiau mwy, er gwaethaf oedi.
Oedais ychydig cyn diwedd gêm o ‘Gee ceffyl bach’ ac yna tynnodd Anil fi ychydig tuag ato, dro ar ôl tro, gan wneud defnydd mawr o’i lais pan barhawyd â’r gêm.
Pan fydd hi ar y siglen, os yw’r siglen yn stopio, bydd Lucy yn symud yn ôl ac ymlaen dro ar ôl tro, yn defnyddio’i llais ac yn edrych i lygaid yr oedolyn hyd nes ei fod yn ymateb drwy ei gwthio eto.
Ceisiwch oedi yn ystod trefn sydd wedi’i sefydlu. Pan fydd y dysgwr yn arwyddo ei fod eisiau ‘mwy’ (fel yn achos bocs 22 y Map llwybrau (Ymateb mewn ffyrdd y gellir eu dehongli i olygu ‘mwy’)), parhewch i oedi cyn ymateb.
Wrth i oedolyn oedi mewn gêm gymdeithasol, mae’r dysgwr yn dangos i’r partner cyfathrebu yr hoffai ‘fwy’ o’r weithgaredd.
Mae’r dysgwr yn ailgyflawni ei weithred pan nad yw’r partner yn ymateb.
Nid yw’r dysgwr yn ddibynnol ar allu’r partner cyfathrebu i ddehongli ei ymgais i weithredu (mae’r dysgwr yn rhagweithiol).
Dim ond mewn set gul o gemau neu arferion cymdeithasol y mae’r ymateb hwn i’w weld gan y dysgwr.
Defnyddiwch drefn sydd wedi’i sefydlu mewn gêm gymdeithasol, oedwch, ac yna arhoswch i’r dysgwr weithredu eto. Oedwch am gyfnod hirach, gan annog y dysgwr i ddyfalbarhau.
Edrychwch am enghraifft fel y dysgwr yn colli’r switsh y tro cyntaf, neu fethu â’i wasgu ddigon, ond trio eto a llwyddo.
Os gosodir gwrthrych ychydig y tu hwnt i’w chyrraedd, bydd Sophia yn ceisio ei gyrraedd dro ar ôl tro.
Os caiff y gwrthrych ei symud yn nes fesul tipyn, bydd yn parhau i ymestyn amdano yn yr un ffordd hyd nes ei bod yn llwyddiannus o’r diwedd.
Ceisiodd Leon afael mewn tegan a oedd yn nofio i ffwrdd ar wyneb dŵr y pwll. Ymestynnodd amdano sawl tro wrth i mi ei symud yn araf i’w gyfeiriad, hyd nes iddo gael gafael arno o’r diwedd.
Ceisiwch:
symud switsh y dysgwr ryw fymryn
newid yr arwyneb er mwyn ei gwneud yn anoddach symud tegan
defnyddio switsh y mae modd addasu’r pwysau sydd ei angen i’w ysgogi, gan gynyddu ychydig pa mor galed y mae angen gwasgu
Mae’r dysgwr yn ceisio gwneud i rywbeth ddigwydd, ond nid yw’n llwyddo.
Mae’r dysgwr yn ailgyflawni’r weithred wreiddiol (efallai fwy nag unwaith).
Nid oes ymgais o gwbl i newid y weithred ei hun er y bydd y dysgwr efallai yn ymestyn ychydig ymhellach, er enghraifft, neu’n gwasgu ychydig yn galetach.
Efallai y byddwch chi am annog y dysgwr i feithrin sgiliau datrys problemau drwy symud safle’r switsh ryw fymryn. Fodd bynnag, dylech chi fod yn ofalus i beidio â drysu’r dysgwr nac achosi rhwystredigaeth iddo.
Gellir addysgu’r cam hwn mewn sefyllfaoedd o bob math (h.y. nid dim ond drwy ddefnyddio switshys a mathau eraill o dechnoleg).
Edrychwch i weld a yw’r dysgwr yn ceisio tynnu sylw staff cyfarwydd sydd gerllaw.
Bydd Dafydd yn ymestyn ac yn tynnu ar ddwylo neu ddillad oedolyn i gael sylw (os yw’n ddigon agos ato).
Os yw Robyn yn anghyfforddus yn ei hoffer eistedd/sefyll a bod oedolyn gerllaw, bydd yn edych i’w gyfeiriad ac yn galw allan nes iddo ddod draw ati.
Arhoswch o fewn golwg/clyw y dysgwr ond peidiwch â rhyngweithio ag ef; arhoswch i weld a yw’r dysgwr yn gweiddi, yn chwifio dwylo neu’n crio, ac ati. Gallai hyn fod yn ymateb bach iawn.
Yn absenoldeb rhyngweithio cymdeithasol, mae’r dysgwr yn cychwyn tynnu sylw a bwrw bod partneriaid cyfathrebu sylwgar, ymatebol a chyfarwydd gerllaw, ac yn barod i ymateb.
Crëwch sefyllfaoedd lle mae staff cyfarwydd gerllaw, ond heb fod yn rhyngweithio â’r dysgwr. Atgyfnerthwch yn gyson ymdrechion y dysgwr i dynnu eu sylw.
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn ceisio cychwyn gêm, e.e. drwy estyn ei freichiau tuag at yr oedolyn, neu drwy ryw ffordd arall.
Os caiff unrhyw beth ei adael yn ddigon agos ati, bydd Poppi yn ei godi ac yn ei ollwng ar y llawr. Os caiff ei roi’n ôl yn ei le gan un o’r staff, bydd yn chwerthin ac yn ei ollwng ar y llawr unwaith eto.
Yn ystod egwyl y prynhawn, edrychodd Dylan arnaf ac estyn ei freichiau tuag ataf ar gyfer gêm o ‘Gee ceffyl bach’ yr oeddem wedi chwarae gyda’n gilydd yn gynharach y diwrnod hwnnw.
Gan adeiladu ar focs 30 y Map llwybrau (Yng nghyd-destun gêm gymdeithasol gyfarwydd, dal ati i ailgyflawni gweithred er mwyn cael gwobr), ewch at y dysgwr ac arhoswch iddo gychwyn gêm.
Mae’r dysgwr yn gwneud ymgais i gychwyn gêm neu drefn gymdeithasol. Mae’r hyn y mae’n ei wneud yn mynd y tu hwnt i barhau â gêm sydd eisoes yn digwydd neu ymateb i gyfle sy’n codi.
Mae angen trefn gyfarwydd ar y dysgwr a/neu mae angen partneriaid cyfathrebu cyfarwydd ar y dysgwr sy’n talu sylw ac yn gallu adnabod ymgais i gychwyn gêm.
Gweler yr wybodaeth ynghylch bocs 30 y Map llwybrau (Yng nghyd‑destun gêm gymdeithasol gyfarwydd, dal ati i ailgyflawni gweithred er mwyn cael gwobr) ar dudalen 43 y llyfryn asesu hwn.
Ysgogwch y dysgwr i gychwyn gêm ac ymatebwch, e.e. bydd y dysgwr yn bwrw tegan oddi ar y bwrdd ac yna’n tynnu eich sylw i’w gael yn ôl.
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn:
edrych, am gyfnod byr, i’r man lle diflannodd y gwrthrych
llonyddu, yn troi ei ben neu’n gwneud ystum gwahanol â’i wyneb pan fydd y sŵn yn stopio
chwilio, am gyfnod byr, drwy deimlo ar yr hambwrdd am eitem a symudwyd o’i afael
chwilio’n fwy egnïol neu am gyfnod hirach
Pan fydd oedolyn yn sefyll yn union o’i blaen ac yn cuddio hoff degan y tu ôl i’w gefn, bydd Abi yn ei dynnu er mwyn ei droi neu’n ymestyn ei braich tuag at lle mae’n cuddio’r tegan.
Aeth Rhys ati’n egnïol i chwilio am ei botel ddiod, gan dynnu’r clawr oddi ar focs ar ôl gwylio rhywun yn ei roi y tu mewn iddo. Tynnodd sgrîn i’r neilltu gan fod ei gar tegan wedi’i guddio y tu ôl iddi.
Tynnwch sylw’r dysgwr â gwrthrych disglair neu swnllyd, neu eitem â ffwr. Yna, gallwch chi naill ai symud yr eitem o’r golwg, ei gadw’n dawel neu ei symud ychydig y tu hwnt i gyrraedd y dysgwr. Ydy’r dysgwr yn ‘chwilio’ amdano?
Mae’r dysgwr yn canolbwyntio ar stimwlws.
Os yw’r stimwlws yn symud, mae llygaid y dysgwr yn ei ddilyn i’r man lle mae’n diflannu o’i olwg, ac mae’n parhau i edrych i’r cyfeiriad hwnnw wedyn.
Os nad yw’r stimwlws yn symud, ond yn cael ei orchuddio, mae’r dysgwr yn parhau i syllu ar y man lle y gwelodd y gwrthrych ddiwethaf cyn ei guddio, neu mae ei lygaid yn dychwelyd i’r man hwnnw.
Mae’n ‘chwilio’ am y stimwlws drwy edrych, cyffwrdd neu wrando’n fwy astud i gyfeiriad y gwrthrych.
Os nad oes ymateb pan symudir y gwrthrych:
ceisiwch orchuddio’r gwrthrych yn rhannol neu defnyddiwch liain tryloyw
defnyddiwch wrthrych sy’n symud o dan liain
Sicrhewch fod y dysgwr yn canolbwyntio ar y man lle diflannodd y gwrthrych (e.e. gwnewch sŵn gydag ef o fymryn y tu allan i gwmpas golwg y dysgwr), wedyn dewch â’r gwrthrych yn ôl i olwg y dysgwr am gyfnod byr o’r cyfeiriad hwn.
Anogwch y dysgwr i ymestyn am y gwrthrych i’r cyfeiriad y cafodd ei symud i ffwrdd.
Edrychwch am leihad yn yr amser rhwng y ddwy weithred. Dylid eu gwneud un ar ôl y llall yn hytrach nag oedi ar ôl y weithred gyntaf.
Bydd Lewis yn tynnu gorchudd oddi ar y switsh ac yna’n gwasgu’r switsh er mwyn cael y wobr. Bydd yn rhoi ei law mewn paent ac yna ar y papur er mwyn gwneud marciau.
Gwyliodd Alys wrth i degan gael ei osod o dan focs ar y llawr. Yna rholiodd draw ato a chodi’r bocs er mwyn cael y tegan. Ar achlysur arall, symudodd fy mysedd o’r drych plygu, gafaelodd ynddo ac yna’i agor er mwyn edrych arni hi ei hun.
Adeiladwch ar drefn sydd eisoes wedi’i sefydlu i annog y dysgwr i wneud dau beth er mwyn cael gwobr, e.e. y dysgwr yn gwasgu dau switsh, un ar ôl y llall, er mwyn cael gwobr ar raglen gyfrifiadurol.
Mae’r dysgwr yn gwneud i rywbeth ddigwydd drwy gyflawni dwy weithred wahanol, un ar ôl y llall.
Mae angen cyflawni’r ddwy weithred er mwyn llwyddo.
Dylai’r gweithredoedd a ddefnyddir yma fod yn ymatebion sydd eisoes wedi’u sefydlu. Helpwch y dysgwr i ddatblygu arfer newydd drwy aros nes iddo gyflawni’r ail weithred cyn rhoi gwobr iddo.
Gwnewch yr ysgogiadau yn llai amlwg yn raddol ac yn llai aml.
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn:
edrych yn uniongyrchol ar un eitem am gyfnod hirach
newid mynegiant ei wyneb yn fwy mewn ymateb i un sŵn pan gyflwynir dau mewn patrwm am yn ail â’i gilydd; gadewch ddigon o amser ar gyfer unrhyw ymatebion
dangos lefel uwch o weithgarwch (e.e. symudiadau’r fraich neu’r goes) yn ystod saib ar ôl blasu un math arbennig o fwyd
Fe wnaethom symud Casper i fat ar y llawr, ar ôl rhoi tegan bob ochr i’r mat. Roedd yn symud ei hun tuag at y tambwrîn a oedd yn fflachio, pa bynnag ochr yr oedd arni, ac yn treulio amser yn chwarae gydag ef, hyd yn oed ar ôl i ni newid ei safle sawl gwaith.
Rhoddwyd plat i Lowri â thameidiau o fanana a ffa meddal arno. Dewisodd fwyta’r fanana i gyd, damaid wrth damaid, ond wnaeth hi ddim cyffwrdd ag yr un o’r ffa.
Cyflwynwch ddwy eitem y bydd y dysgwr yn ymateb iddyn nhw, e.e. teganau swnllyd neu sydd â lliw llachar, arogl, llymaid o ddiod, ac ati. Gwyliwch ac arsylwi’r dysgwr i weld a yw’r ymateb i un eitem yn para’n hirach, neu a oes newid amlwg yn lefel gweithgarwch y dysgwr.
Mae’r dysgwr yn dewis un eitem pan gyflwynir y ddwy/pob eitem gyda’i gilydd a phan fo’r naill a’r llall yr un mor hygyrch (h.y, o fewn eu cyrraedd/yn eu golwg).
Mae wedi cael cyfle o’r blaen i weld/trin a thrafod pob un o’r eitemau yn unigol (yn arbennig os oes nam ar olwg y dysgwr).
Mae sylw’r dysgwr wedi’i hoelio ar un hoff eitem ac mae’n amlwg yn ymestyn (os yw’n ymestyn) i geisio gafael yn yr eitem ei hun, neu i’w drin a’i drafod. Nid yw’n ymddangos bod unrhyw fwriad i’w ymddygiad gyfleu unrhyw beth i berson arall.
Cynigiwch ddwy eitem mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.
Cynhwyswch un eitem y gwyddoch chi fod y dysgwr yn hoff ohoni.
Newidiwch safle/trefn eitemau wrth eu hailgyflwyno.
Gadewch i’r dysgwr archwilio’r eitemau a gwneud ei ddewis ei hun. (Ceisiwch beidio â’i annog i ‘ddewis’.)
Edrychwch am yr isod:
gwenu
pwyntio â’r llygaid
ymestyn
troi tuag at hoff eitem
Mae mynegiant wyneb Craig yn newid pan fo oedolyn yn codi ei hoff degan neu fyrbryd sy’n weladwy ymysg rhai eraill.
Mae Anna yn ymestyn tuag at y tegan y mae ei eisiau, ei llygad yn syllu tuag ato, gan fwrw cipolwg at yr oedolyn weithiau.
Cynigiwch ddwy eitem ar yr un pryd. Arsylwch y dysgwr yn ofalus i weld a yw’n talu sylw amlwg i un o’r eitemau neu’n talu mwy o sylw i un mewn ffordd sy’n cyfleu ei hoffter.
Mae’r dysgwr yn dynodi ei ddiddordeb mewn un eitem benodol:
pan fo dwy/pob eitem yn cael eu cyflwyno gyda’i gilydd
hyd yn oed os nad yw’r eitemau o fewn ei afael
pan fo safle/trefn yr eitemau yn cael ei newid ar hap wrth eu hailgyflwyno
Er bod ymddygiad y dysgwr yn ymwneud â hoff eitem (fel yn achos bocs 36 y Map llwybrau (Dewis o blith dwy neu fwy o eitemau)), mae’n fwy nag ymgais i gael gafael arni yn gorfforol yn unig.
Mae ei ymddygiad yma hefyd yn gweithredu fel ‘arwydd’ i’r person arall – er enghraifft, gallai ymddangos yn debycach i ‘ystum’, gallai gynnwys rhywfaint o gyswllt llygad uniongyrchol neu ddynodi ymateb eglur i bartner cyfathrebu.
Cynigiwch hoff eitem wrth ochr eitem nad yw mor hoff ohoni. Os nad oes ymateb clir i’r hoff eitem, naill ai symudwch hi, dewch â hi yn nes neu gwnewch sŵn i ddenu sylw parhaus y dysgwr.
Ceisiwch hyn gydag amrywiaeth o wrthrychau a sefyllfaoedd, gan newid safle/trefn eitemau wrth eu hailgyflwyno.
Edrychwch a yw’r dysgwr yn ailgyflawni’r weithred, ac yna’n ei haddasu mewn ymgais i gael ymateb.
Os caiff y clychau eu symud fel eu bod ychydig y tu hwnt i’w gyrraedd, bydd Geraint yn ceisio symud ei fraich mewn ffordd wahanol ac yn ymestyn ymhellach er mwyn eu taro.
Bydd Chloe yn ymestyn ymhellach ac, os oes angen, yn addasu’r ongl er mwyn cyrraedd gwrthrych mae hi eisiau ei gael.
Fel rhan o drefn sy’n seiliedig ar ymddygiad sydd wedi’i sefydlu, addaswch sut rydych chi’n gosod eitemau ar gyfer tasg i’w chyflawni.
Mewn cyd-destun cymdeithasol cyfarwydd iawn (fel yn achos, er enghraifft, bocs 33 y Map llwybrau (Cychwyn gêm gymdeithasol)), peidiwch â rhoi gwobr.
Nodwch ymatebion y dysgwr.
Mae’r dysgwr yn ceisio gwneud i rywbeth ddigwydd, ond nid yw’n llwyddo drwy ddefnyddio’r weithred wreiddiol (bydd efallai yn ei thrio eto i ddechrau).
Yna mae’r dysgwr yn dechrau addasu’r weithred wreiddiol.
Ar ôl ei haddasu’n sylweddol, mae’r dysgwr yn llwyddo.
D.S. Dim ond un weithred sydd ei hangen, ond mae’n rhaid iddi gael ei haddasu. Mae elfennau o’r weithred derfynol yn debyg i’r weithred wreiddiol.
Mae’r dysgwr yn rhoi cynnig ar gamau gwahanol hyd nes ei fod yn llwyddo.
Ysgogwch weithred sydd wedi’i haddasu a gofalwch fod y dysgwr yn cael canlyniad.
Ceisiwch wneud newidiadau i degan y mae’r dysgwr yn gwybod sut i’w ddefnyddio, e.e. clymwch declyn symudol i arddwrn y dysgwr â llinyn a llaciwch y llinyn fel bod y dysgwr yn gorfod gwneud
symudiadau mwy i wneud i’r teclyn weithio.
Chwiliwch am bob ymgais ddigymell i dynnu sylw oedolyn, yn arbennig ar adegau pan nad yw oedolyn yn disgwyl hynny. Gellir addysgu strategaethau (e.e. gwasgu switsh penodol a allai fod ar hambwrdd neu gadair) ond rhaid iddyn nhw ddod i gael eu defnyddio ar delerau’r dysgwr ac nid yn unig ar ôl anogaeth oedolyn.
Pan fydd Ryan eisiau dod allan o’i gadair (neu i fyny o’r llawr), bydd e’n defnyddio llais uchel i dynnu sylw un o dîm y dosbarth, gan ddal ei freichiau i fyny wrth wneud hynny.
Pan fydd Melanie yn gweithio ar ei phen ei hun (e.e. yn defnyddio’r cyfrifiadur) ac eisiau rhywbeth, mae hi’n curo ochr (fetel) ei chadair olwyn nes bydd rhywun yn dod draw i siarad â hi.
Ceisiwch osgoi talu sylw i’r dysgwr. Arsylwch y strategaethau a ddefnyddir i gael sylw, heb unrhyw ymyrraeth o flaen llaw. Gall y rhain gynnwys:
defnyddio’r llais nes bod oedolyn yn ymddangos, yna stopio
gwthio eitemau oddi ar hambwrdd ac yna gwenu pan fydd oedolyn yn ymddangos
stopio gweithgarwch er mwyn pwyso switsh sydd wedi cael ei ddefnyddio’n gyson (â chymorth) i alw oedolyn draw
Yn absenoldeb rhyngweithio cymdeithasol, mae’r dysgwr yn cychwyn tynnu sylw.
Gellir dehongli’r cais yn glir, hyd yn oed gan bartneriaid cyfathrebu:
nad ydyn nhw’n nabod y dysgwr yn dda
nad ydyn nhw’n agos at y dysgwr ar y pryd
y mae eu sylw ar bethau eraill
Dewiswch weithred yn repertoire y dysgwr y gall oedolyn ymateb iddo’n gyson drwy roi sylw, er enghraifft:
gwasgu switsh (wedi’i adael ar gael yn yr un safle)
defnyddio’r llais yn uwch na lefel benodol
symud breichiau/coesau/llygaid, ac ati
Drwy ymateb yn gyson i’r weithred, mae’r oedolyn yn annog y dysgwr i gyflawni’r weithred yn y dyfodol er mwyn cael sylw oedolyn fel gwobr.
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn tynnu sylw oedolyn, er enghraifft:
edrych tuag at neu ddynodi stimwlws, ac yna edrych yn ôl at yr oedolyn
llonyddu i sŵn neu symud i gerddoriaeth, ac yna edrych yn ôl at yr oedolyn
cyffwrdd eitem ac yna teimlo am law’r oedolyn
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn dangos pleser yn y broses o rannu neu’n ceisio cyfathrebu ynghylch yr eitem.
Wrth rannu llyfr stori ag oedolyn, edrychodd Olivia i fyny bob hyn a hyn gan wenu ar yr oedolyn, cyn troi’n ôl i edrych ar y llyfr.
Wrth chwarae ar y sgrîn blasma, edrychodd Daniel ar effaith yr hyn yr oedd wedi’i wneud, yna edrychodd arnaf i a gwenu.
Gosodwch stimwlws newydd neu ddiddorol yn gymharol agos (ond y tu hwnt i gyrraedd y dysgwr) ac arhoswch i weld a yw’r dysgwr yn edrych yn ôl ac ymlaen rhwng y gwrthrych a’r partner cyfathrebu.
Dylai’r dysgwr ymuno â’r oedolyn i dalu sylw i stimwlws, gan gadarnhau sylw’r oedolyn drwy gydol y sesiwn.
Anweswch gi. Ydy’r dysgwr hefyd yn cyffwrdd y ci ac yn gwenu ar yr oedolyn?
Pwyntiwch at eitem nad yw’n rhy bell i ffwrdd. Ydy’r dysgwr yn edrych tuag at yr eitem, ac yna’n ôl at yr oedolyn?
Mae’r dysgwr yn:
hoelio ei olwg ar wrthrych, yna’n tynnu ei sylw oddi ar y gwrthrych, a symud ei lygaid nes ei fod yn syllu i wyneb ei bartner a/neu’n
hoelio ei olwg ar wyneb ei bartner, yna’n tynnu ei sylw oddi ar ei wyneb, a symud ei lygaid nes ei fod yn syllu ar wrthrych
Mae’r cam hwn yn cyfateb i Lefel II yr eye-Point Scale (shifts gaze to face) (University College London and Great Ormond Street Hospital: Eye‑Pointing Classification Scale) (Saesneg yn unig).
Mewn cyd-destunau cyfarwydd, mae’r dysgwr yn ymateb i dalu sylw ar y cyd ac yn ei ysgogi heb i hynny fod yn rhan o drefn gymdeithasol gyfarwydd.
Addysgwch y dysgwr sut i dalu sylw ar y cyd drwy ei ysgogi (ar lafar neu drwy gyffwrdd) i edrych ar eitem a ddewisir gan yr oedolyn, gwrando arno neu ei deimlo, ac yna i dalu sylw i’r oedolyn ac i’r eitem am yn ail.
Achubwch ar y cyfle i rannu stimwlws y mae’r dysgwr yn talu sylw iddo. Anogwch ef i dalu sylw i’r stimwlws ac yna i’r oedolyn am yn ail.
Mae hyn yn allweddol i’w allu i gyfathrebu yn y dyfodol.
Edrychwch a yw’r dysgwr yn talu sylw i symbol ar gyfer hoff eitem ac yna’n aros i’r eitem gael ei chyflwyno.
Bydd Ollie yn cyffwrdd â ffotograff clir o’r eitem y mae ei heisiau pan fydd dewis o ddau hoff degan cyfarwydd iawn sy’n cael eu cadw yn y cwpwrdd. Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn cynnwys cerbyd tegan, tegan o estronwr o’r gofod a phêl ffluwchog.
Mae Jodi yn dewis ei hoff fyrbryd drwy syllu ar symbol o blith pedwar symbol ar fwrdd dewis.
Cyflwynwch i’r dysgwr wrthrychau cyfeirio/lluniau/symbolau/ffotograffau o eitemau sydd o ddiddordeb iddo ond nad ydyn nhw’n bresennol eu hunain. A yw’r dysgwr yn dynodi neu’n talu sylw i un o’r symbolau er mwyn gofyn am hoff eitem?
Mae’r dysgwr yn dynodi’r hoff eitem drwy ddewis ei chynrychioliad symbolaidd o blith nifer o symbolau, gwrthrychau cyfeirio, lluniau neu ffotograffau.
Nid oes unrhyw un o’r eitemau sydd ‘ar gael’ yn bresennol yn ffisegol.
Mae pob un o’r opsiynau symbolaidd yn hawdd i’r dysgwr eu cyrraedd, ac mae ganddo ddull dibynadwy o ddynodi’i ddewis.
Mae ymddygiad y dysgwr yn canolbwyntio ar y cynrychioliad symbolaidd nes iddo gael ei ‘dderbyn’/ategu gan berson arall sydd wedyn yn darparu’r eitem a ddynodwyd.
Mae’r dysgwr yn derbyn rhywfaint o oedi rhwng dewis a chael yr eitem a ddewiswyd.
Dangoswch ffotograff neu symbol o hoff eitem i’r dysgwr cyn cyflwyno stimwlws. Gwnewch hyn eto er mwyn adeiladu’r cysylltiad.
Yna dangoswch ddau wrthrych/ffotograff/symbol – un ar gyfer yr hoff eitem ynghyd ag un arall – yna cyflwynwch yr eitem sy’n gysylltiedig â’r symbol a ddynodwyd.
Edrychwch am leihad yn yr amser y mae’r dysgwr yn ei dreulio yn ceisio gwneud y weithred wreiddiol er mwyn cael gwobr.
Edrychwch am arwydd bod y dysgwr yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
Ar ôl sawl ymgais i wneud i’r switsh weithio, rhoddodd Ben y gorau i’w fwrw, cododd ef i fyny a’i basio i mi.
Os yw Rachel yn tapio rhywun sy’n sefyll nesaf ati, ond nad yw hwnnw’n ymateb, mae hi’n ceisio peswch mewn ymgais bellach i dynnu ei sylw.
Defnyddiwch drefn sydd wedi’i sefydlu lle mae gweithred gan y dysgwr yn arwain at wobr benodol. Oedwch cyn rhoi’r wobr er mwyn gweld p’un a yw’r dysgwr wedyn yn rhoi cynnig ar weithred wahanol er mwyn cael y wobr.
Mae’r dysgwr yn ceisio gwneud i rywbeth ddigwydd, ond nid yw’n llwyddo drwy ddefnyddio’r weithred wreiddiol.
Mae’n rhoi’r gorau i drio eto neu drio addasu’r weithred wreiddiol ac yn defnyddio gweithred arall sy’n wahanol iawn i’r weithred wreiddiol.
Pan fydd y dysgwr yn sylweddoli na fydd y strategaeth wreiddiol yn gweithio, a chyn gynted ag y bydd yn rhoi cynnig ar weithred newydd, dylid rhoi gwobr. Bydd yr ymwybyddiaeth na fydd ailgyflawni’r un weithred wreiddiol yn gweithio yn peri i’r dysgwr roi cynnig ar strategaeth newydd yn fwy cyflym.
Anogwch/cyflwynwch ail weithred wahanol pan fydd y dysgwr yn mynnu parhau â’r weithred gyntaf. Ceisiwch:
ysgogi’r dysgwr i ddefnyddio gweithred arall sydd o fewn ei repertoire – yna rhowch y wobr
defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol lle mae angen gwasgu dau switsh, un ar ôl y llall – rhowch wobr ar ôl gwasgu’r ail switsh
defnyddio rhaglenni un switsh lle mae amseru gwasgu’r switsh yn bwysig
symud y switsh fel bod angen i’r dysgwr ddefnyddio’r llaw arall
Edrychwch am:
ymdrechion i ddenu sylw oedolion (fel uchod) a gwneud cais, e.e. defnyddio’r llais i gael sylw ac yna cyffwrdd symbol ar hambwrdd
amseru pwyso ar switsh i gael y canlyniad y mae’n ei ddymuno mewn rhaglen gyfrifiadurol
Bu Jamie’n defnyddio llais uchel nes i mi roi’r gorau i’r hyn roeddwn yn ei wneud a mynd draw ato. Yna pwyntiodd at y sinc i ddynodi ei fod eisiau chwarae â dŵr. Mae hefyd yn denu ein sylw fel hyn, ac yna’n pwyntio at ei lyfr neu at y cwpwrdd lle cedwir ei ddiod a’i fyrbryd.
Ar ddiwedd y diwrnod ysgol, mae Thea’n galw ar ei hoff oedolyn yn y dosbarth ac yna’n edrych ar y gannwyll sydd wedi’i chynnau. Mae hi’n dal ati nes i’r oedolyn ddod draw a dal y gannwyll fel ei bod hi’n gallu chwythu i’w diffodd. Mae’n tynnu ein sylw yn rheolaidd yn y ffordd hon i’w helpu i gyflawni pethau eraill y mae hi eisiau’u gwneud ond nad yw’n gallu’u cyflawni (yn gorfforol) ar ei phen ei hun.
Safwch neu eisteddwch yng ngolwg y dysgwr, ond peidiwch â thalu sylw iddo. A yw’r dysgwr wedyn yn ceisio tynnu eich sylw? A yw wedyn yn mynd ymlaen i ofyn am eitem sydd allan o’i olwg neu o’i gyrraedd?
Mae’r dysgwr yn ymgysylltu â phartner cyfathrebu, gan ddefnyddio strategaeth fel defnyddio’r llais neu ymestyn, ac mae’n tynnu ei sylw at rywbeth y mae ei eisiau.
Mae’r dysgwr yn ymgysylltu â phartner cyfathrebu ac yn cyfleu ei fod eisiau i’r partner wneud rhywbeth fel ei godi neu ei ogleisio.
Mae’r dysgwr yn defnyddio’r strategaethau hyn mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Ar gyfer dysgwyr sy’n dibynnu ar bwyntio â’u llygaid, mae’r dysgwr yn:
hoelio ei olwg ar wrthrych, yna’n tynnu ei sylw oddi ar y gwrthrych, a symud ei lygaid nes ei fod yn syllu i wyneb ei bartner, cyn mynd yn ôl i syllu ar yr un gwrthrych drachefn
hoelio ei olwg ar wyneb y partner, yna’n tynnu ei sylw oddi ar ei bartner a symud ei lygaid nes ei fod yn syllu ar wrthrych, cyn mynd yn ôl i syllu drachefn ar wyneb yr un partner
Mae’r cam hwn yn cyfateb i Lefel I yr eyePoint Scale (Uses Eye‑Pointing) (University College London and Great Ormond Street Hospital. Eye‑Pointing Classification Scale) (Saesneg yn unig).
Cynyddwch amrywiaeth y sefyllfaoedd lle mae gofynion yn cael eu rhoi ar y dysgwr i ddenu sylw ac i ofyn am bethau.
Sicrhewch fod yr oedolion yn ymateb yn gyflym ac yn gyson.
Peidiwch â rhagweld dymuniadau’r dysgwr – crëwch gyfleoedd i gyfathrebu.