Mae deunyddiau Ar Drywydd Dysgu yn cefnogi ymarferwyr i asesu dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLl). Maen nhw’n canolbwyntio ar ddatblygiad gwybyddol cynnar dysgwyr, eu sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol, a sut y maen nhw’n rhyngweithio â’u hamgylchedd.
Cafodd deunyddiau Ar Drywydd Dysgu (2006) eu croesawu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Fel rhan o’r gwaith i ddiwygio’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yn ehangach yng Nghymru, mae ystod o ymarferwyr ac arbenigwyr academaidd wedi bod yn cydweithio i ddiweddaru’r deunyddiau. Ein bwriad wrth wneud hyn oedd adlewyrchu’r gwaith ymchwil diweddaraf yn y maes, yn ogystal â’n cyd-destun addysgol newydd.
Roedd y Grŵp Cynghori Ar Drywydd Dysgu wedi bod yn ganolog yn y broses o ddiwygio’r deunyddiau, ac rydym yn arbennig o ddiolchgar i’r aelodau am eu hymrwymiad i’r gwaith hwn. Mae rhwydwaith o ysgolion ledled Cymru hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gasglu fideos er mwyn darparu enghreifftiau o ddisgrifyddion y Map llwybrau, gan helpu i ddod â’r deunyddiau hyn yn fyw i ymarferwyr. Rhestrir yr ysgolion hyn isod:
Canolfan Addysg Y Bont
Ysgol Crownbridge
Ysgol Crug Glas
Ysgol Heol Goffa
Ysgol Heulfan: Y Canol
Ysgol Maes Hyfryd
Ysgol Maes y Coed
Ysgol Pen Coch
Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth
Ysgol St Christopher
Ysgol Arbennig Gymunedol Tir Morfa
Ysgol Ty Coch
Ysgol Arbennig Ty Gwyn
Ysgol y Deri
Mae’r adborth a ddaeth i law gan ymarferwyr addysg ac iechyd wedi bod yn amhrisiadwy wrth gwblhau’r deunyddiau yn derfynol.