Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Llenyddiaeth yn Tanio’r Dychymyg: Cwrs Dysgu Proffesiynol ar gyfer athrawon Uwchradd

Dewch i ddysgu mwy am ein rhaglen newydd i ddod â Chyfieithu Creadigol i ddosbarthiadau Ieithoedd Rhyngwladol ledled Cymru
16:00 - 17:30 10 Mawrth 2027 Yn dechrau mewn 5 mis

Manylion y digwyddiad hwn

Yn ystod y blynyddoedd ysgol 2025-26 a 2026-27, rydym yn cynnig cyfres o gyrsiau Dysgu Proffesiynol Cyfieithu Creadigol i athrawon cynradd ac uwchradd yng Nghymru. Bydd pob cwrs yn cael ei gynnal arlein mewn tair sesiwn ar ôl ysgol, 90 munud yr un, dan arweiniad ein hwyluswyr arbenigol. Byddant yn trafod sut y gall cyfieithu creadigol ysgogi diddordeb a chymhelliant eich dysgwyr. Mae pob un o'r cyrsiau ar gael yn rhad ac am ddim.

Defnyddiwch y ffurflen hon i nodi’r lefel cwrs sydd o ddiddordeb i chi (cynradd neu uwchradd), a’r dyddiadau yr hoffech eu mynychu. Mae lleoedd yn brin, felly cofiwch nodi pob un o’r dyddiadau y gallwch eu mynychu. Byddwn yn dyrannu lleoedd ar sail argaeledd. Byddwn yn cysylltu â phawb sydd wedi llenwi'r ffurflen cyn gynted ag y bydd dyddiadau sesiynau cyntaf y cwrs o’u dewis wedi’u cadarnhau. Diolch yn fawr am eich diddordeb!

Rhannu:

Digwyddiadau diweddaraf