Digwyddiad gwrth-fwlio ar gyfer ysgolion yng Nghymru
Manylion y digwyddiad hwn
Sicrhewch eich lle a chofrestrwch nawr.
Fel rhan o Wythnos Gwrth-fwlio 2026, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad cenedlaethol yng Ngerddi Sophia, Caerdydd, ddydd Mawrth 17 Tachwedd 2026 rhwng 10:30 a 14:45.
Mae’r digwyddiad yn agored i ymarferwyr addysg gynradd ac uwchradd, yn ogystal â chynrychiolwyr awdurdodau lleol sydd â diddordeb mewn hyrwyddo cynhwysiant a mynd i’r afael â bwlio.
Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i:
arddangos gweithgarwch gwrth-fwlio presennol ledled Cymru a dathlu enghreifftiau o waith cadarnhaol
glywed mwy am y canllawiau diweddaraf a’r adnoddau ymarferol sydd ar gael
glywed gan amrywiaeth o sefydliadau arbenigol ac ymarferwyr am arferion effeithiol
Gallwch helpu dysgwyr i enwebu aelod o staff ar gyfer y Gwobr Staff Ysgol Gwrth-fwlio ar wefan Bullies Out.