Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Drwy gydol y rhaglen, cewch eich arwain gan Hyfforddwr Arweinyddiaeth penodedig.

Prif gyfrifoldebau'r Hyfforddwr Arweinyddiaeth fydd:

  • darparu adborth proffesiynol parhaus i bob cyfranogwr

  • cefnogi'r cyfranogwr i ystyried yr hunanasesiad 360 a hwyluso sgyrsiau am arweinyddiaeth, yn seiliedig ar dwf personol o ran arweinyddiaeth

  • cefnogi dewis y prosiect datblygu prifathrawiaeth

  • gweithredu fel 'brocer' rhwng y Pennaeth Ysgol sy'n Cefnogi a'r cyfranogwr i sicrhau bod y cyfranogwr yn cael cefnogaeth, amser a chyfle i gyflawni'r prosiect datblygu penaethiaid a thasgau eraill y cytunwyd arnynt

Bydd disgwyl i'ch pennaeth neu'ch cyflogwr hefyd ddarparu cefnogaeth yn ystod y rhaglen fel yr amlinellir yn yr adran Beth yw'r disgwyliadau gan fy nghyflogwr presennol.

Bydd Cyfarwyddwr Arweinyddiaeth ac Arweinydd Llwybrau Arweinyddiaeth Dysgu hefyd wrth law i gefnogi cyfranogwyr gydag elfennau gweithredol o'r rhaglen.


Cyhoeddwyd gyntaf
Dydd Gwener, 6 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Llun, 12 Hydref 2026