Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Trosolwg

Mae cefnogi'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (NPQH) Cymru yn gyfle unigryw i ysbrydoli a hyrwyddo'r genhedlaeth nesaf o Brifathrawon yng Nghymru. Mae'r rolau hyn yn ganolog ac yn hollbwysig i sicrhau llwyddiant NPQH Cymru ac yn elfen allweddol o gynllunio olyniaeth strategol ar gyfer arweinyddiaeth ysgolion. Bydd arweinwyr sy'n cefnogi NPQH Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfranogwyr yn barod i ymgymryd â rôl prifathro, gan feddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

Yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth

Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd â NPQH ac sydd naill ai'n:

  • Brifathro sy'n ymarfer yng Nghymru

  • Brifathro sydd wedi ymddeol yn ddiweddar (ers mis Medi 2025)

  • Gyn-Brifathro sydd â chymhwyster hyfforddi lefel 7

Bydd yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn:

  • darparu adborth proffesiynol parhaus i'r cyfranogwr

  • cefnogi'r cyfranogwr i fyfyrio ar yr hunanasesiad 360 gradd a hwyluso sgyrsiau arweinyddiaeth sy'n canolbwyntio ar dwf personol fel arweinydd

  • cefnogi'r broses o ddewis prosiect datblygu prifathrawiaeth

  • gweithredu fel cyswllt rhwng Prifathro'r ysgol letyol a'r cyfranogwr i sicrhau bod y cyfranogwr yn cael y gefnogaeth, yr amser a'r cyfleoedd angenrheidiol i gyflawni'r prosiect datblygu prifathrawiaeth a thasgau cytunedig eraill

Manteision bod yn Hyfforddwr Arweinyddiaeth

  • dysgu proffesiynol o safon uchel ym maes hyfforddi

  • cyfleoedd i rannu arferion effeithiol gydag ysgolion a lleoliadau eraill

  • cyfleoedd i rwydweithio a chydweithio'n broffesiynol ag arweinwyr ysgolion ledled Cymru

  • mynediad at ymchwil a dysgu proffesiynol ym maes arweinyddiaeth

Bydd hyfforddwyr yn cael eu paru â chyfranogwyr NPQH Cymru ar sail sector, iaith, anghenion daearyddol a phrofiad yr hyfforddwr.

Bydd cyllid ar gael i'r Hyfforddwr Arweinyddiaeth ar gyfer 23.5 diwrnod.

Sut i wneud cais

Bydd gwybodaeth am y broses ymgeisio ar gyfer Hyfforddwyr Arweinyddiaeth ar gael ar Hwb o 14 Rhagfyr 2026 ymlaen.

Grŵp Ymgynghorol CPCP Cymru

Croesewir ceisiadau gan rai sydd â CPCP, neu gymhwyster arweinyddiaeth cyfatebol neu brofiad.

Mae Grŵp Ymgynghorol CPCP Cymru yn rhan annatod o sicrhau bod y rhaglen yn berthnasol i'r proffesiwn ac yn ymatebol i anghenion arweinyddiaeth y system.

Bydd y Grŵp Ymgynghorol yn rhoi adborth a beirniadaeth a chefnogi datblygiadparhaus y rhaglen.

Fel aelod o Grŵp Cynghori CPCP Cymru byddwch chi'n:

  • darparu mewnwelediad strategol ar ddatblygu arweinyddiaeth ledled Cymru

  • adolygu a hysbysu dyluniad, strwythur, a dulliau asesu rhaglen CPCP Cymru

  • nodi blaenoriaethau, risgiau, a chyfleoedd newydd mewn arweinyddiaeth ysgol

  • cefnogi aliniad y rhaglen â pholisïau a diwygiadau Llywodraeth Cymru

  • hyrwyddo cyfathrebu ac ymgysylltiad effeithiol gyda phawb sy’n ymwneud â’r maes

  • rhannu arfer da a chyfrannu at wella system ehangach

Bydd dewis aelodau’n seiliedig ar sicrhau grŵp cynrychioliadol ledled Cymru.

Caiff y Grŵp Ymgynghorol eu hariannu am eu gwaith hyd at uchafswm o 10 diwrnod y flwyddyn.

Sut i wneud cais

Gwybodaeth am y broses gais ar gyfer Grŵp Ymgynghorol CPCP Cymru bydd hyn ar gael ar Hwb o 14 Rhagfyr 2026.

Cyfrannwr Rhaglen CPCP Cymru

Croesewir ceisiadau gan y rhai sydd â CPCP, neu gymhwyster neu brofiad arweinyddiaeth cyfatebol.

Mae Rhaglen CPCP Cymru yn cynnwys cyflwyniadau, paneli, mewnbwn ac hwyluso gan arweinwyr, mae’r agwedd hon ar y rhaglen yn darparu dysgu hanfodol i gyfranogwyr ac yn cael ei gwerthfawrogi fel un credadwy ac ymarferol.

Manteision bod yn gyfrannwr CPCP Cymru:

  • mynediad at ymchwil a dysgu proffesiynol ym maes arweinyddiaeth

  • cyfle i rannu arfer a phrofiad gydag arweinwyr y dyfodol yng Nghymru

  • rhwydweithio proffesiynol a chyfleoedd cydweithio gydag arweinwyr eraill ledled Cymru

Bydd cyfranwyr yn cael eu dewis yn seiliedig ar anghenion cynnwys y rhaglen. Bydd y cyfrannwr CPCP Cymru yn cael ei ariannu fesul diwrnod o baratoi a chyflwyno.

Sut i wneud cais

Gwybodaeth am y broses gais ar gyfer Cyfrannwr Rhaglen CPCP Cymru bydd hyn ar gael ar Hwb o 14 Rhagfyr 2026.

Aelod panel asesua a cyfweld

Croesewir ceisiadau gan y rhai sydd â CPCP ac sydd:

  • yn bennaeth gweithredol yng Nghymru neu

  • wedi ymddeol yn ddiweddar (ers Medi 2023)

Er mwyn sicrhau proses recriwtio ac asesu deg a thryloyw, mae CPCP Cymru yn gwahodd penaethiaid i gyfrannu at y broses asesu a chyfweld.

Manteision bod yn aelod panel asesu/cyfweld CPCP Cymru:

  • sgyrsiau proffesiynol ymgysylltiol gyda phenaethiaid y dyfodol a’r presennol

  • cyfle i fyfyrio’n broffesiynol a chydweithio gydag arweinwyr eraill ledled Cymru

Bydd y dewis yn seiliedig ar sicrhau cynrychiolaeth a chydbwysedd eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau yn y paneli.

Bydd aelodau panel asesu a cyfweld yn cael eu hariannu fesul diwrnod, tua dau ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd.

Sut i wneud cais

Gwybodaeth am y broses gais ar gyfer panel asesua a cyfweld bydd hyn ar gael ar Hwb o 14 Rhagfyr 2026.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu ymholiadau, cysylltwch â: CPCPNPQH@dysgu.llyw.cymru.


Cyhoeddwyd gyntaf
Dydd Llun, 15 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Llun, 12 Hydref 2026