Bydd angen i ysgolion neu gyflogwyr y cyfranogwyr ymrwymo i gefnogi'r cyfranogwr drwy gydol y rhaglen CPCP Cymru a byddant yn eu tro yn elwa o'r cyfranogiad.
Mae hyn yn cynnwys annog, cefnogi a rhoi mynediad at brofiadau priodol i wella sgiliau'r cyfranogwyr a'u gwybodaeth am arwain. Bydd hefyd yn cynnwys rhoi amser digyswllt i ganiatáu i'r unigolyn fanteisio ar elfennau hanfodol o'r rhaglen:
amser i baratoi ar gyfer, mynychu ac ystyried tair sesiwn breswyl ddeuddydd
ymweliadau ysgol
cyfarfodydd gyda'u Hyfforddwr Arweinyddiaeth i drafod cynnydd drwy gydol y rhaglen
amser i fod yn arolygwr cymheiriaid gydag Estyn (os nad yw wedi gwneud hyn eisoes)
Bydd cyllid yn cael ei ddarparu i helpu i ryddhau unigolion am gyfanswm o 23.5 diwrnod i ymgysylltu â'r rhaglen.
Dylech siarad â'ch pennaeth neu gyflogwr presennol i sicrhau eu cefnogaeth cyn gwneud cais am y rhaglen.