Darllenwch y Telerau hyn yn ofalus cyn defnyddio Amgylchedd Cwmwl Hwb. Pan fyddwch yn defnyddio Amgylchedd Cwmwl Hwb, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y Telerau hyn ac yn cytuno i gydymffurfio â hwy.
Mae'r Telerau hyn yn diffinio'r defnydd addysgol priodol o Amgylchedd Cwmwl Hwb. Llywodraeth Cymru (“ni”) sy'n rheoli ac yn goruchwylio datblygiad a chynnal a chadw Amgylchedd Cwmwl Hwb, ac awdurdodau lleol ac ysgolion sy'n gyfrifol am benderfynu pa offer a gwasanaethau ar-lein sy'n briodol i'w lleoliadau addysg a rheoli polisïau defnyddwyr lleol mewn perthynas â data a gwybodaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr.
Cyfeiriwch hefyd at ein hysbysiad preifatrwydd, sydd hefyd yn berthnasol i'ch defnydd o Amgylchedd Cwmwl Hwb. Mae’r hysbysiad hwn yn egluro sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth bersonol ac yn darparu manylion am eich hawliau mewn perthynas â'r data a gasglwn amdanoch.
Mae Amgylchedd Cwmwl Hwb yn rhan o ecosystem ddigidol genedlaethol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Gan weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol, mae Llywodraeth Cymru yn darparu hunaniaethau digidol cenedlaethol i bob dysgwr, aelod o staff a llywodraethwr, yn ogystal â rhanddeiliaid addysg awdurdodedig ledled Cymru i gael mynediad at offer a gwasanaethau ar-lein gan bartneriaid technoleg addysg blaenllaw byd-eang.
Mae'r gwasanaethau ar-lein hyn yn cynnwys Microsoft365, Google Workspace for Education, Just2easy, Adobe Express ac Apple Classroom gyda phob un wedi'i nodi i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau addysgu a dysgu, yn ogystal â helpu i drawsnewid cydweithredu a gweinyddu mewn ysgolion.
Rhennir y cyfrifoldeb am Amgylchedd Cwmwl Hwb rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion, rhanddeiliaid addysg allweddol, darparwyr gwasanaeth ac yn bwysicaf oll, ein defnyddwyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ac yn goruchwylio datblygiad a chynnal a chadw Amgylchedd Cwmwl Hwb ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod y seilwaith a'r cyfluniad yn cyd-fynd â safonau'r diwydiant i helpu i sicrhau bod ysgolion a'n defnyddwyr yn cadw'n ddiogel ar-lein.
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am greu a rheoli hunaniaethau a chyfrifon defnyddwyr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn defnyddio system fewngofnodi ddiogel Hwb at ddibenion cyflwyno asesiadau personol.
Mae ysgolion, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid addysg awdurdodedig yn gyfrifol am sut mae Amgylchedd Cwmwl Hwb yn cael ei ddefnyddio o fewn eu lleoliadau addysg a'u sefydliadau eu hunain. Mae hyn gynnwys:
penderfyniadau ynghylch pa wasanaethau ar-lein sydd ar gael i'w defnyddwyr
sut mae'r gwasanaethau hynny'n cael eu defnyddio o fewn addysgu a dysgu
sut mae cyfrifon a gwasanaethau’n cael eu gweinyddu a'u rheoli'n lleol
sicrhau bod dysgwyr yn cael eu goruchwylio lle bo hynny'n briodol
sut mae polisïau diogelu, ymddygiad, diogelu data a TGCh yn cael eu cymhwyso
Felly, bydd y gwasanaethau sydd ar gael i ddefnyddwyr unigol yn amrywio gan ddibynnu ar eu rôl, oedran, ysgol, awdurdod lleol, sefydliad, caniatâd a'r gwasanaethau sydd wedi'u galluogi ar eu cyfer. Os oes gennych gwestiynau am y gwasanaethau sydd ar gael i chi, dylech gysylltu â'ch ysgol, awdurdod lleol neu sefydliad.
Mae'n ofynnol i bob defnyddiwr gydymffurfio â'r polisïau ysgolion, awdurdodau lleol a sefydliadol perthnasol wrth ddefnyddio Amgylchedd Cwmwl Hwb, gan gynnwys polisïau ar ddiogelu, ymddygiad, defnyddio TGCh, diogelwch ar-lein, cyfryngau cymdeithasol, diogelu data, rheoli cofnodion, trefniadau defnyddio eich dyfais eich hun a gweithdrefnau disgyblu. Mae'r Telerau hyn yn mynd law yn llaw â'r polisïau hynny, ac nid ydynt yn eu disodli.
Os ydych chi’n ddysgwr neu'n berson ifanc ac yn cael trafferth deall y Telerau hyn, gofynnwch am eglurhad gan athro, rhiant, gofalwr neu oedolyn dibynadwy arall.
Mae Amgylchedd Cwmwl Hwb yma i'ch cefnogi i ddysgu ac i gyfathrebu â'ch athrawon yn ddiogel. Dylech ei ddefnyddio’n barchus a dim ond at ddibenion ysgol neu ddysgu. Peidiwch â rhannu eich cyfrinair, peidiwch ag esgus bod yn rhywun arall, a pheidiwch â phostio unrhyw beth a allai frifo, cynhyrfu, bwlio neu godi cywilydd ar berson arall. Os oes unrhyw beth yn eich poeni ar Amgylchedd Cwmwl Hwb, dywedwch wrth athro, rhiant, gofalwr neu oedolyn dibynadwy arall.
Darperir Amgylchedd Cwmwl Hwb at ddibenion addysgol yn unig. Mae hyn yn cynnwys addysgu, dysgu, gweinyddu a llywodraethu ysgolion. Mae Amgylchedd Cwmwl Hwb wedi'i gyfyngu i unigolion sydd wedi cael manylion mewngofnodi penodol, megis dysgwyr, athrawon, sefydliadau addysgol, awdurdodau lleol a phartneriaid gwella ysgolion rhanbarthol, eu gweithwyr a'u hasiantau ("defnyddwyr awdurdodedig").
Mewn rhai amgylchiadau, gall defnyddwyr awdurdodedig rannu gwybodaeth gyda phobl nad ydynt yn defnyddio cyfrif Hwb. Lle bo’n berthnasol, mae’r defnyddiwr awdurdodedig yn gyfrifol am ei ardaloedd cyffredin ei hun o fewn Amgylchedd Cwmwl Hwb.
Oni bai eich bod yn ddefnyddiwr awdurdodedig, rhaid i chi beidio â chael mynediad i unrhyw ardaloedd cyfyngedig o Amgylchedd Cwmwl Hwb na cheisio cael mynediad iddynt. Os byddwch yn gwneud hynny, efallai y byddwch chi’n cyflawni trosedd. Os byddwch yn cael mynediad i ardaloedd cyfyngedig o fewn Amgylchedd Cwmwl Hwb ar ddamwain, cysylltwch â ni yn cymorth@hwbcymru.net.
Os ydych chi wedi derbyn manylion mewngofnodi penodol, fel enw defnyddiwr a chyfrinair (neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o'n gweithdrefnau diogelwch), rhaid i chi gadw'r wybodaeth hon yn ddiogel. Rhaid i chi beidio â'i datgelu i unrhyw drydydd parti. Ni ddylech ddefnyddio unrhyw gyfrifon Amgylchedd Cwmwl Hwb i ddynwared eraill, cael mynediad i gyfrif defnyddiwr arall, osgoi rheolaethau diogelwch, defnyddio offer anawdurdodedig i osgoi hidlo neu fonitro, neu geisio cael mynediad anawdurdodedig i Amgylchedd Cwmwl Hwb neu wasanaethau cysylltiedig.
Os ydym yn credu nad ydych wedi cydymffurfio â'r Telerau hyn, gallwn analluogi eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair ar unrhyw adeg.
Os ydych chi'n gwybod neu'n amau bod unrhyw un heblaw chi yn gwybod eich enw defnyddiwr neu gyfrinair, cysylltwch â ni ar unwaith drwy e-bostio cymorth@hwbcymru.net.
Nid ydym yn gwarantu y bydd Amgylchedd Cwmwl Hwb, neu unrhyw gynnwys arno, ar gael bob amser neu heb ymyrraeth. Gallwn atal, tynnu'n ôl neu gyfyngu ar argaeledd Amgylchedd Cwmwl Hwb, yn gyfan gwbl neu'n rhannol.
Mae Amgylchedd Cwmwl Hwb yn darparu mynediad i ddefnyddwyr penodol at ddeallusrwydd artiffisial, offer awtomataidd, dadansoddeg dysgu neu dechnolegau tebyg. Rhaid i chi ddefnyddio’r adnoddau hyn at ddibenion addysgol awdurdodedig ac yn unol ag unrhyw ganllawiau ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ysgolion, awdurdodau lleol neu ddarparwyr perthnasol. Ni ddylech fewnbynnu gwybodaeth gyfrinachol, data personol diangen neu ddata categori arbennig mewn i offer deallusrwydd artiffisial oni bai bod gennych ganiatâd i wneud hynny. Rhaid i chi beidio â defnyddio offer deallusrwydd artiffisial i gynhyrchu cynnwys niweidiol, camarweiniol, gwahaniaethol, bwlio, tramgwyddus neu amhriodol. Ni ddylid trin allbwn deallusrwydd artiffisial fel gwybodaeth gywir yn awtomatig, a dylid ei wirio cyn ei ddefnyddio wrth ddysgu, addysgu, asesu neu weinyddu.
Rydym yn diweddaru deunydd canllawiau Amgylchedd Cwmwl Hwb yn rheolaidd i'w wella ac i adlewyrchu newidiadau i'n gwasanaethau.
Efallai y byddwn yn diweddaru'r Telerau hyn. Mae hyn yn cynnwys i adlewyrchu newidiadau i Amgylchedd Cwmwl Hwb, newidiadau i’r gwasanaethau neu newidiadau yn y gyfraith neu arfer da. Bydd y fersiwn ddiweddaraf yn cael ei chyhoeddi yng Nghanolfan Gymeradwyo Cwmwl Hwb. Pan fydd newid yn effeithio'n sylweddol ar y telerau, byddwn yn anfon e-bost at ddefnyddwyr i’w hysbysu.
Mae Amgylchedd Cwmwl Hwb yn caniatáu i ddefnyddwyr gael mynediad at offer a gwasanaethau a ddarperir yn genedlaethol ar gyfer pob defnyddiwr neu ar gais gan awdurdod lleol. Gall defnyddio offer a chynhyrchion o'r fath ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr dderbyn telerau ac amodau'r trydydd parti.
Mae gwasanaethau cenedlaethol yn cynnwys y gwasanaethau canlynol. Eich defnydd o’r canlynol:
Microsoft365, sy’n cael ei lywodraethu gan y telerau cynnyrch a'r hawliau defnydd (fel y'u diffinnir yn y Cytundeb Campws ac Ysgol). Mae'r telerau ac amodau hyn yn cynnwys darpariaethau gan gynnwys cyfyngiadau ar atebolrwydd, ymwadiad gwarantau ac eithrio rhwymedïau. Mae hefyd yn cadarnhau mai dim ond yn ystod y cyfnod trwyddedig y caniateir i chi ddefnyddio Microsoft 365 a bod rhaid i chi ei ddileu unwaith bydd y cyfnod hwn yn dod i’r ben neu pan fydd y Cytundeb Campws ac Ysgolion yn cael ei derfynu, pa un bynnag sy’n dod gyntaf.
Google Workspace for Education, sy’n cael ei lywodraethu gan Delerau gwasanaeth, diwygiad prosesu data a hysbysiad preifatrwydd addysg Google Workspace for Education.
Adobe Express a Creative Cloud, sy’n cael eu llywodraethu gan Delerau Defnydd Cyffredinol Adobe a’r cytundeb trwyddedu addysg perthnasol, efallai bydd telerau trwyddedu cynnyrch penodol o fewn cynhyrchion Creative Cloud.
Apple Classrooms, sy’n cael ei lywodraethu gan delerau Apple Education ac Apple Media Services, lle bo'n berthnasol a Chytundeb Trwydded Meddalwedd Apple Classroom
Just2easy, sy’n cael ei lywodraethu gan Delerau ac Amodau / telerau trwydded a defnyddio Just2easy.
Gall awdurdodau lleol, ysgolion a rhanddeiliaid addysg awdurdodedig ofyn am fynediad at wasanaethau trydydd parti i gynorthwyo gydag addysgu a dysgu neu weithrediadau a gweinyddiaeth mewn ysgolion. Pan fo gwasanaethau’r trydydd parti’n bodloni’r safonau perthnasol a bod arweinydd Technoleg Addysg yr awdurdod lleol yn cymeradwyo rhannu nodweddion a chaniatâd penodol, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael drwy Amgylchedd Cwmwl Hwb i alluogi mynediad gan ddefnyddio cyfrif Hwb defnyddiwr.
Darperir gwasanaethau trydydd parti yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Pan fo data personol yn cael ei brosesu trwy wasanaeth trydydd parti, cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol neu'r ysgolion yw sicrhau bod prosesu o’r fath yn addas ac yn cydymffurfio â deddfau diogelu data.
Gall yr holl wasanaethau trydydd parti sydd ar gael drwy Amgylchedd Cwmwl Hwb fod yn ddarostyngedig i delerau ac amodau, hysbysiadau preifatrwydd, trwyddedau, cyfyngiadau oedran a gofynion defnydd derbyniol ar wahân. Mae awdurdodau lleol, ysgolion a rhanddeiliaid addysg awdurdodedig yn gyfrifol am adolygu a chydymffurfio ag unrhyw delerau ac amodau sy'n berthnasol cyn defnyddio'r gwasanaethau hynny.
Mae'n hanfodol bod awdurdodau lleol, ysgolion a rhanddeiliaid addysg awdurdodedig yn adolygu unrhyw ddiweddariadau, ac yn ystyried unrhyw welliannau swyddogaethol i wasanaethau trydydd parti gan y gall y telerau ac amodau newid yn aml.
Os ydych chi'n defnyddio eich cyfrif Hwb i gael mynediad at wasanaeth trydydd parti a gymeradwywyd gan eich ysgol, awdurdod lleol neu sefydliad, nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am weithrediad, cynnwys na’r defnydd a wneir o’r gwasanaeth hwnnw.
Gall Llywodraeth Cymru, awdurdod lleol neu'r darparwr gwasanaeth perthnasol alluogi, analluogi, diwygio neu dynnu mynediad at wasanaethau trydydd parti yn ôl. Dylai defnyddwyr ddefnyddio gwasanaethau trydydd parti at ddibenion addysgol awdurdodedig yn unig ac yn unol ag unrhyw ganllawiau ysgol, awdurdod lleol neu sefydliadol perthnasol.
Rhaid i chi ddefnyddio Amgylchedd Cwmwl Hwb mewn ffordd sy'n cefnogi prosesau diogelwch, diogelu dysgwyr, llesiant ac ymddygiad parchus.
Yn benodol, rhaid i chi beidio â defnyddio Amgylchedd Cwmwl Hwb i wneud y canlynol:
grŵmio, bwlio, brifo, sarhau, bychanu, aflonyddu, gorfodi ecsbloetio, codi ofn neu niweidio unrhyw ddysgwr neu unigolyn arall mewn unrhyw ffordd
cysylltu ag unigolion eraill yn amhriodol
rhannu gwybodaeth bersonol ddiangen am ddysgwyr neu unigolion eraill
uwchlwytho neu rannu delweddau, fideos neu glipiau sain o ddysgwyr neu unigolion eraill (oni bai eu bod wedi'u hawdurdodi gan bolisi perthnasol yr ysgol, yr awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru)
osgoi gweithdrefnau diogelu neu anwybyddu neu fethu â rhoi gwybod am bryderon diogelu
Rhaid i chi hefyd fod yn ymwybodol bob amser o’r risg y gallai defnyddwyr fod yn destun i unrhyw un o’r ymddygiadau uchod, neu ddefnyddwyr yn defnyddio Amgylchedd Cwmwl Hwb yn y modd a ddisgrifir uchod.
Gallwch ddefnyddio Amgylchedd Cwmwl Hwb at ddibenion addysg, ac mewn unrhyw achos, at ddibenion cyfreithlon yn unig.
Rhaid i chi beidio â defnyddio Amgylchedd Cwmwl Hwb:
mewn unrhyw ffordd sy'n torri unrhyw gyfraith neu reoliad perthnasol (boed yn lleol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol)
mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon neu’n dwyllodrus
at ddibenion masnachol (oni bai eich bod wedi cael caniatâd ymlaen llaw gennym ni i wneud hynny (neu gan ein trwyddedwyr, fel y bo'n berthnasol)
i drosglwyddo, caffael neu anfon unrhyw hysbysebion neu ddeunydd hyrwyddo arall anawdurdodedig neu unrhyw fath arall o gyswllt tebyg (sbam)
i drosglwyddo unrhyw ddata, anfon neu uwchlwytho unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys firysau, ceffyl pren Troeaidd, mwydod, bomiau amser, cofnodwyr trawiadau bysell, ysbïwedd, meddalwedd hysbysebu neu raglenni niweidiol eraill neu god cyfrifiadurol tebyg sydd wedi'i gynllunio i gael effaith andwyol ar weithrediad meddalwedd neu galedwedd cyfrifiadurol
i adeiladu cronfa ddata o unrhyw fath, neu i storio Amgylchedd Cwmwl Hwb (yn ei gyfanrwydd neu’n rhannol) o fewn cronfeydd data, er mwyn i chi neu drydydd parti gael mynediad ato, neu i ddosbarthu unrhyw wefannau cronfeydd data sy'n cynnwys Amgylchedd Cwmwl Hwb yn ei gyfanrwydd neu’n rhannol
mewn unrhyw ffordd sy'n cynnwys:
gamblo
troseddau terfysgaeth
troseddau camfanteisio neu gam-drin plant yn rhywiol gan gynnwys grŵmio a deunydd cam-drin plant yn rhywiol
annog neu gynorthwyo hunanladdiad (neu annog rhywun i geisio hunanladdiad) neu hunan-niweidio difrifol
aflonyddu, stelcio, gwneud bygythiadau neu gam-drin
troseddau casineb
ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol
cyffuriau neu sylweddau seicoweithredol
arfau tanio neu arfau eraill
mewnfudo anghyfreithlon neu fasnachu pobl
troseddau camfanteisio’n rhywiol ar oedolion
pornograffi neu ddelweddau personol
enillion troseddol
twyll a gwasanaethau ariannol
ymyrraeth dramor
Rydych hefyd yn cytuno i’r canlynol:
peidio ag atgynhyrchu, dyblygu, copïo nac ailwerthu unrhyw ran o Amgylchedd Cwmwl Hwb
peidio â chael mynediad heb awdurdod, ymyrryd, difrodi neu darfu ar:
unrhyw ran o Amgylchedd Cwmwl Hwb
unrhyw offer neu rwydwaith y mae Amgylchedd Cwmwl Hwb wedi'i storio arno
unrhyw feddalwedd a ddefnyddir wrth ddarparu Amgylchedd Cwmwl Hwb
unrhyw offer neu rwydwaith neu feddalwedd sy'n eiddo i drydydd parti neu a ddefnyddir gan drydydd parti
Trwy dorri darpariaethau'r adran hon, efallai y byddwch yn cyflawni troseddau o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn hysbysu’r awdurdodau perthnasol sy’n gorfodi'r gyfraith am doriad o'r fath, a byddwn yn cydweithredu â'r awdurdodau hynny trwy ddatgelu pwy ydych chi. Os bydd tor rheol o'r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio Amgylchedd Cwmwl Hwb yn dod i ben ar unwaith.
Os byddwch yn ymwybodol o bryder diogelu, cynnwys niweidiol, cyswllt amhriodol, ymddygiad anghyfreithlon, camddefnyddio Amgylchedd Cwmwl Hwb neu unrhyw risg i ddysgwr neu berson arall, rhaid i chi roi gwybod yn brydlon drwy'r llwybr diogelu priodol. Gall hyn gynnwys dweud wrth athro, person diogelu dynodedig, ysgol, awdurdod lleol, sefydliad, pwynt cyswllt Llywodraeth Cymru, darparwr gwasanaeth neu awdurdod gorfodi'r gyfraith, gan ddibynnu ar natur a brys y pryder.
Gall Llywodraeth Cymru, ysgolion, awdurdodau lleol a sefydliadau perthnasol eraill adolygu, cyfyngu, tynnu, uwchgyfeirio neu ddatgelu cynnwys neu wybodaeth am gyfrifon lle bo hynny'n angenrheidiol yn rhesymol ar gyfer diogelu, sicrhau diogelwch, cydymffurfiaeth gyfreithiol neu amddiffyn defnyddwyr.
Nid oes unrhyw beth yn y telerau hyn yn atal nac yn cyfyngu Llywodraeth Cymru, ysgolion, awdurdodau lleol, sefydliadau neu ddarparwyr gwasanaethau rhag cymryd camau brys pan fyddant o'r farn bod hyn yn angenrheidiol i ddiogelu dysgwyr neu ddefnyddwyr eraill.
Byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol yn unol â’n polisi preifatrwydd.
Mae Amgylchedd Cwmwl Hwb a’r gwasanaethau sydd ar gael drwyddo wedi'u gwarchod gan hawliau diogelwch dealluson (gan gynnwys hawlfraint, cronfeydd data, hawliau mewn dyluniadau, nodau masnach a/neu hawliau eiddo deallusol eraill).
Mae'r holl Ddata a gwybodaeth hefyd wedi'u diogelu gan hawliau eiddo deallusol. Mae hyn yn cynnwys data a gwybodaeth sy'n eiddo i'ch sefydliad neu sy'n cael ei reoli gan eich sefydliad a data a gwybodaeth sy'n eiddo i drydydd parti neu a reolir ganddynt ac sydd wedi'u trwyddedu i Lywodraeth Cymru, awdurdod lleol neu randdeiliad addysg awdurdodedig (er enghraifft, Microsoft, Google, Apple, Adobe neu drydydd parti). Gall data a gwybodaeth hefyd gynnwys data a gynhyrchir gan ddefnyddwyr a gwybodaeth a grëwyd gan ddefnyddwyr, sy'n cael ei reoli gan eich sefydliad.
Rydych yn cytuno bod yr holl hawliau eiddo deallusol yn Amgylchedd Cwmwl Hwb , gwasanaethau sydd ar gael drwyddo, data a gwybodaeth yn eiddo i'ch sefydliad, Llywodraeth Cymru neu'r trydydd parti perthnasol (fel sy’n berthnasol) ac rydych yn cydnabod nad oes gennych unrhyw hawliau perchnogaeth dros hawliau eiddo deallusol o’r fath. Dim ond fel y caniateir yn benodol gan y telerau hyn y byddwch yn defnyddio eiddo deallusol o'r fath (neu delerau perthnasol eraill ar gyfer eich defnydd o wasanaethau sy'n prosesu'r wybodaeth hon).
Oni rown ganiatâd fel arall, ni chewch ddefnyddio’r un o'n nodau masnach neu’n enwau masnach ni (neu ein darparwyr gwasanaethau) heb ein caniatâd, ac rydych yn cydnabod nad oes gennych hawliau perchnogaeth ar yr enwau na'r marciau hynny.
Mae eiddo deallusol y data a'r wybodaeth a grëir yn parhau gyda'i greawdwr oni bai bod hawliau'n cael eu trosglwyddo gan gontract, telerau cyflogaeth neu gytundebau eraill. Mae hyn yn golygu y bydd gwaith a grëir gan Ddysgwyr fel arfer yn parhau i fod yn eiddo deallusol iddynt, fodd bynnag, bydd yn cael ei gadw yn y denantiaeth ac felly'n cael ei ddileu o'r cyfrif sy'n ei gynnwys yn unol â'r polisi cadw. Gellir ei allforio neu ganiatáu mynediad iddo neu ei atal yn unol â pholisïau'r awdurdod lleol, yr ysgol neu'r denantiaeth. Mae data a gwybodaeth a grëir gan athrawon yn parhau i fod yn ddarostyngedig i bolisi eu hawdurdod lleol a'u hysgol ar Eiddo Deallusol. Rhaid i chi nodi y gall dogfennau personol sy'n cael eu storio mewn cyfrif Hwb barhau i fod yn eiddo deallusol yr awdur ond eu bod yn ddarostyngedig i delerau'r tenant.
Rydych yn cytuno i roi hysbysiad ysgrifenedig a phrydlon i ni os byddwch yn canfod bod parti wedi defnyddio Amgylchedd Cwmwl Hwb neu wedi cael mynediad ato heb awdurdod, neu os bydd honiad bod Amgylchedd Cwmwl Hwb neu ddata a gwybodaeth gysylltiedig yn torri hawlfraint, nod masnach, neu hawliau cytundebol, statudol neu gyfraith gyffredin parti arall.
Yn unol â safonau'r diwydiant a Safonau Digidol Addysg Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau rhesymol i gynnal diogelwch Amgylchedd Cwmwl Hwb. Fodd bynnag, nid ydym yn gwarantu y bydd Amgylchedd Cwmwl Hwb yn ddi-dor, yn rhydd o wallau, neu'n rhydd o fygiau, firysau neu gydrannau niweidiol eraill.
Rydych chi'n gyfrifol am sicrhau bod y dyfeisiau, y rhwydweithiau a'r systemau a ddefnyddir i gael mynediad at Amgylchedd Cwmwl Hwb yn cael eu ffurfweddu, eu cynnal a'u diogelu'n briodol, gan gynnwys defnyddio rheolaethau diogelwch addas a meddalwedd gwrthfeirws.
Rhaid i chi beidio â chyflwyno firysau, maleiswedd neu ddeunydd niweidiol arall yn fwriadol i Amgylchedd Cwmwl Hwb, na chymryd unrhyw gamau a allai beryglu ei ddiogelwch, ei argaeledd neu ei uniondeb.
I gysylltu â ni, anfonwch e-bost at cymorth@hwbcymru.net neu ysgrifennwch atom yn:
Is-adran Gwasanaethau Digidol Ysgolion, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful CF48 1UZ.
Gallwch roi gwybod am bryderon am ddata a gwybodaeth, ymddygiad, diogelwch, hygyrchedd, preifatrwydd, hawlfraint neu gamddefnyddio sy'n gysylltiedig ag Amgylchedd Cwmwl Hwb.
Gallai adroddiadau ymwneud a’r canlynol, er enghraifft:
pryderon ynghylch diogelu neu ddiogelwch dysgwyr
bwlio, aflonyddu neu ymddygiad gwahaniaethol
cynnwys amhriodol neu niweidiol
cynnwys anghyfreithlon
pryderon ynghylch hawlfraint neu eiddo deallusol
pryderon ynghylch data personol neu breifatrwydd
materion hygyrchedd
amheuaeth o ddigwyddiadau diogelwch
mynediad anawdurdodedig neu gamddefnyddio cyfrif
Pan fo pryder yn ymwneud â dysgwr neu fater diogelu, dylech ddefnyddio'r llwybr adrodd diogelu sy'n ofynnol gan eich ysgol, awdurdod lleol neu sefydliad. Os oes risg uniongyrchol o niwed, dylech gysylltu â'r gwasanaeth argyfwng, diogelu neu wasanaeth gorfodi'r gyfraith priodol.
Ar gyfer pryderon eraill, gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru drwy e-bostio cymorth@hwbcymru.net neu i wneud cwyn, dilynwch weithdrefn gwyno Llywodraeth Cymru.
Mae mynediad at Amgylchedd Cwmwl Hwb yn cael ei ddarparu dros dro, “fel y mae” ac rydych yn cydnabod nad ydych yn cael unrhyw hawliau sy’n ymwneud ag Amgylchedd Cwmwl Hwb a/neu'r cynnwys, ac eithrio'r hawl gyfyngedig i ddefnyddio Amgylchedd Cwmwl Hwb yn unol â'r Telerau hyn ac i lawrlwytho yn ôl y Telerau’r adran hon.
Nid ydym yn cyflwyno achos na gwarant o unrhyw fath, boed benodol neu ymhlyg, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, o addasrwydd at bwrpas penodol, o beidio â thorri rheolau, o gydnawsedd, o ddiogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn gwarantu y bydd Amgylchedd Cwmwl Hwb ar gael yn ddi-dor a heb wall, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu nad yw Amgylchedd Cwmwl Hwb yn cynnwys firysau neu’n cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau.
Gall defnyddwyr optio allan o'r holl wasanaethau, ac eithrio asesiadau personol, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar unrhyw adeg. Os hoffech wneud hynny, cysylltwch â ni drwy e-bostio cymorth@hwbcymru.net.
Ni fyddwn yn cyfyngu ar ein cyfrifoldebau cyfreithiol os yw’r gyfraith yn ein hatal rhag gwneud hynny.
Yn amodol ar hynny, darperir Amgylchedd Cwmwl Hwb at ddibenion addysgol awdurdodedig yn unig. I'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am golledion sy'n deillio o neu’n gysylltiedig â defnyddio Amgylchedd Cwmwl Hwb neu'r gwasanaethau, offer a chynhyrchion sydd ar gael drwy Amgylchedd Cwmwl Hwb (gan gynnwys o ganlyniad i gamddefnydd, data a gwybodaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, gwasanaethau trydydd parti, diffyg argaeledd neu ddibyniaeth ar wasanaethau, offer a chynhyrchion sydd ar gael drwy Amgylchedd Cwmwl Hwb).
Os byddwch yn dioddef niwed, colled neu ddifrod oherwydd Amgylchedd Cwmwl Hwb, ni fyddwn yn atebol (yn gyfrifol) mewn unrhyw ffordd.
Sylwch mai dim ond at ddibenion addysgol yr ydym yn darparu Amgylchedd Cwmwl Hwb. Ni chaniateir i chi ddefnyddio Amgylchedd Cwmwl Hwb at ddibenion masnachol neu fusnes, ac, os gwnewch hynny, ni fyddwn yn atebol am golli elw, colli busnes, tarfu ar fusnes, na cholli cyfle busnes.
Os nad ydych yn hapus ag Amgylchedd Cwmwl Hwb, y telerau hyn, neu unrhyw ran o’r cynnwys, rhaid i chi roi'r gorau i ddefnyddio Amgylchedd Cwmwl Hwb. Dyma'r unig ddatrysiad cyfreithiol sydd ar gael i chi.
Pan fyddwn o'r farn bod y Telerau hyn wedi’u torri neu fod angen gweithredu am resymau diogelu, diogelwch, cyfreithiol, gweithredol neu bolisi, gellir cymryd camau. Gallwn gymryd y camau hynny ag yr ydym yn eu hystyried yn briodol. Gallai hyn arwain at atal neu ddiddymu mynediad at Amgylchedd Cwmwl Hwb (naill ai dros dro neu'n barhaol).
Pan fo tor amod yn cynnwys mater diogelu, diogelwch, ymddygiad anghyfreithlon, mynediad anawdurdodedig, cynnwys niweidiol neu risg i ddefnyddwyr, gellir cymryd camau brys heb rybudd ymlaen llaw.
Gall Llywodraeth Cymru gydweithredu ag ysgolion, awdurdodau lleol, sefydliadau, darparwyr gwasanaethau, rheoleiddwyr ac awdurdodau gorfodi'r gyfraith mewn perthynas â thor amod gwirioneddol neu os bydd amheuaeth o dor amod.
Rydym yn eithrio ein hatebolrwydd am bob cam y gallwn ddewis eu cymryd mewn ymateb i dorri'r telerau hyn. Nid yw'r camau y gallwn eu cymryd wedi'u cyfyngu i'r rhai a ddisgrifir uchod, ac efallai y byddwn yn cymryd camau eraill os byddwn yn ystyried eu bod yn briodol.
Caiff y Telerau Defnydd, eu cynnwys a'u ffurf, eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr fel y'u cymhwysir yng Nghymru.
Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr yng Nghymru awdurdodaeth unigryw i setlo anghydfodau neu hawliadau sy'n deillio o'r telerau hyn neu sy’n gysylltiedig â hwy.
Rydym yn diweddaru deunydd canllawiau Amgylchedd Cwmwl Hwb yn rheolaidd er mwyn ei wella ac i adlewyrchu newidiadau i'n gwasanaethau.
Gallwn ddiweddaru'r Telerau hyn. Mae hyn yn cynnwys er mwyn adlewyrchu newidiadau i Amgylchedd Cwmwl Hwb, newidiadau i'r gwasanaethau, neu newidiadau yn y gyfraith neu arfer da. Bydd y fersiwn ddiweddaraf yn cael ei chyhoeddi yng Nghanolfan Gymeradwyo Cwmwl Hwb. Os bydd newid yn cael effaith sylweddol ar y Telerau, byddwn yn anfon e-bost at ddefnyddwyr i dynnu eu sylw ato.