Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Ynglŷn â'r hysbysiad hwn

Mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ac yn goruchwylio datblygiad Amgylchedd Cwmwl Hwb ac mae'n gyfrifol am greu a rheoli hunaniaethau a chyfrifon defnyddwyr, yn ogystal â sicrhau bod y seilwaith a'r cyfluniad yn cyd-fynd â safonau'r diwydiant i helpu i sicrhau bod ysgolion a'n defnyddwyr yn cadw'n ddiogel ar-lein.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol lle mae'n gweithredu fel y rheolydd data. Mae hyn yn cynnwys:

  • creu, cynnal, atal, ail-alluogi a dileu cyfrifon Hwb ac aseinio caniatâd cysylltiedig

  • rheoli defnyddwyr a darparu mynediad diogel i wasanaethau a gynigir drwy Amgylchedd Cwmwl Hwb

  • monitro a gwarchod diogelwch ac uniondeb Amgylchedd Cwmwl Hwb

  • gweinyddu Amgylchedd Cwmwl Hwb a llwyfan Hwb ar y we (cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd penodol ar gyfer y llwyfan ar y we)

  • ymateb i ymholiadau am gymorth

  • chadw cofnodion angenrheidiol ar gyfer archwilio, ymchwilio a rheoli gwasanaethau

Ystyr "gwybodaeth bersonol" yw gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn hysbys neu y gellir ei adnabod.

Am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau yn Amgylchedd Cwmwl Hwb, cyfeiriwch at y telerau ac amodau.

Ein sail gyfreithlon

Ein prif sail gyfreithlon yw bod prosesu’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd gan Lywodraeth Cymru.

Lle bo'n berthnasol, efallai y byddwn hefyd yn prosesu gwybodaeth bersonol oherwydd:

  • bod prosesu’n angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol, neu

  • fod prosesu’n angenrheidiol er budd cyfreithlon Llywodraeth Cymru, lle mae cyfraith diogelu data'r DU yn caniatáu i awdurdod cyhoeddus ddibynnu ar y sail honno ar gyfer y gweithgaredd perthnasol

Os ydych chi'n ddysgwr

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi i greu eich cyfrif Hwb, eich galluogi i fewngofnodi, darparu cymorth a chadw Hwb yn ddiogel.

Eich ysgol sy'n gyfrifol am wybodaeth a ddefnyddir mewn gweithgareddau ysgol, gwersi ac yn gyffredinol fel rhan o'ch gwaith ysgol.

Gallwch ofyn pa wybodaeth sy'n cael ei chadw amdanoch chi a gofyn am gywiro gwybodaeth anghywir. Siaradwch ag athro, rhiant, gofalwr neu oedolyn dibynadwy arall os oes gennych gwestiynau neu os ydych chi'n poeni am sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio.

Pan fo sefydliadau eraill yn gweithredu fel rheolydd

Mae ysgolion, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid addysg awdurdodedig eraill yn gyfrifol am y wybodaeth bersonol a’r data a’r wybodaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr y maent yn dewis eu creu, eu huwchlwytho, eu rhannu neu eu prosesu fel arall o fewn gwasanaethau Hwb at ddibenion addysgol (e.e. addysgu, dysgu, gweinyddu ysgolion neu lywodraethu) neu fel arall.

Yr ysgol, yr awdurdod lleol neu'r sefydliad perthnasol, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, yw'r rheolydd data a bydd eu hysbysiad preifatrwydd eu hunain yn esbonio sut a pham maent yn prosesu'r wybodaeth honno. Os nad ydych yn siŵr pwy sy'n gyfrifol am wybodaeth benodol, cysylltwch â'ch ysgol neu'ch awdurdod lleol yn y lle cyntaf.

Eich hawliau

Mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi. Dyma’r hawliau hynny:

  • yr hawl i wneud cwyn am unrhyw honiad o dor cyfraith diogelwch data

  • yr hawl i ofyn am fynediad i'r wybodaeth bersonol a gadwn amdanoch. Weithiau gelwir hyn yn 'gais mynediad gan y testun'

  • yr hawl i gywiro unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch (cywiro)

  • yr hawl i ddileu eich gwybodaeth (dileu)

  • yr hawl i ofyn am gyfyngu neu atal eich gwybodaeth bersonol1 (cyfyngu ar brosesu)

  • yr hawl i wrthwynebu defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion penodol (gwrthwynebiad)

  • yr hawl i gael eich gwybodaeth mewn fformat cludadwy

  • yr hawl i wrthwynebu’r defnydd o ddulliau cwbl awtomataidd i wneud penderfyniadau amdanoch

Mae llawer o'r hawliau a restrir uchod wedi'u cyfyngu i amgylchiadau diffiniedig penodol ac efallai na fyddwn yn gallu cydymffurfio â'ch cais yn llawn. Byddwn yn dweud wrthych os yw hyn yn wir. Gallwch ddarllen mwy am eich hawliau ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)

Fel arfer, byddwn yn ymateb i gais dilys o fewn mis. Gellir ymestyn y cyfnod ymateb pan fo'r cais yn gymhleth neu'n niferus. Ni fyddwn yn codi ffi am ymdrin â'ch cais.

Pan fo'r cais yn ymwneud â gwybodaeth a reolir gan ysgol, awdurdod lleol neu randdeiliad addysgol arall, bydd angen i chi gyflwyno'r cais yn uniongyrchol i'r sefydliad hwnnw.

Cysylltu â ni

I ofyn am yr hysbysiad hwn, arfer hawl diogelu data neu godi pryder, cysylltwch â’r:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@gov.wales

Mae gennych hefyd yr hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, rheoleiddiwr annibynnol y DU ar gyfer diogelu data.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am Amgylchedd Cwmwl Hwb, cysylltwch ag:

Is-adran Gwasanaethau Digidol Ysgolion (Hwb)
Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

E-bost: cymorth@hwbcymru.net

Wrth ddelio â'ch ymholiad, efallai y byddwn yn cyfeirio at ein cyflenwyr technoleg, neu gysylltu ag adrannau eraill y llywodraeth lle mae hyn yn angenrheidiol i ymchwilio ac ymateb. Pan fyddwn yn gwneud hynny, byddwn yn rhannu'r wybodaeth sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw yn unig. Ar ôl i ni ymateb i chi, rydym yn cadw cofnod o'ch neges at ddibenion archwilio.

Gwybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu

Mae'r wybodaeth a ddefnyddir i greu a chynnal cyfrif Hwb yn dibynnu ar y math o gyfrif a rôl y defnyddiwr. Mae gwybodaeth ar gyfer y cyfrif yn cael ei darparu gan ysgolion, awdurdodau lleol, neu randdeiliaid addysg eraill.

Rydym yn prosesu gwybodaeth bersonol am wahanol fathau o unigolion i greu'r canlynol:

  • Enw defnyddiwr, cyfeiriad e-bost a dynodwr system Hwb, a

  • Rhif Disgybl Unigryw (UPN) wedi'i amgryptio ar gyfer dysgwyr yn unig

Byddwn yn derbyn ac yn defnyddio'r wybodaeth a nodir ar gyfer y mathau canlynol o gyfrifon:

Cyfrifon dysgwyr

  • enw cyntaf, canol a chyfenw

  • dyddiad geni

  • rhyw

  • enw'r ysgol a rhif yr ysgol

  • gwybodaeth am y grŵp blwyddyn, blwyddyn cwricwlwm cenedlaethol, cofrestru, dosbarth a phwnc

  • rhif derbyn i’r ysgol

  • statws cofrestru, h.y. a ydych ar y gofrestr ar hyn o bryd (cyfrif gweithredol) neu a ydych wedi gadael yr ysgol (cyfrif wedi'i analluogi)

  • statws cofrestru h.y. os ydych chi'n mynychu un ysgol neu fwy

  • statws fel dysgwr

Cyfrifon staff ysgol

  • teitl, enw cyntaf, enw canol a chyfenw

  • cod staff ysgol neu ddynodwr staff

  • enw'r ysgol a rhif yr ysgol

  • gwybodaeth am y flwyddyn berthnasol, cofrestru, dosbarth neu grŵp pwnc

  • statws fel aelod o staff

  • rôl neu swyddogaeth staff

Llywodraethwyr a rhanddeiliaid addysg eraill

  • enw cyntaf a chyfenw

  • enw a rhif yr ysgol

  • statws fel llywodraethwr

Pan fyddwch chi'n defnyddio eich cyfrif Hwb, efallai y byddwn yn casglu’r canlynol:

  • cofnodion mewngofnodi a dilysu

  • gweithgarwch cyfrifon a chofnodion archwilio

  • gwybodaeth am ddyfais, porwr, rhwydwaith a sesiwn

  • rhybuddion diogelwch a gwybodaeth am amheuaeth o gamddefnyddio

  • newidiadau cyfrif a chamau gweithredu gweinyddol a

  • gwybodaeth sydd ei hangen i ymchwilio neu ddatrys digwyddiad technegol neu ddiogelwch

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu gwybodaeth bersonol

Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol berthnasol gyda’r canlynol:

  • ein darparwyr gwasanaeth sy'n prosesu data personol ar ein rhan ac sy’n dilyn ein cyfarwyddiadau. Mae'r rhain yn cynnwys darparwyr cynnal a seilwaith, cymorth a chynnal a chadw TG, monitro diogelwch a darparwyr ymateb i ddigwyddiadau. Y darparwyr hyn yw ein proseswyr data ac maent yn rhwym gan gontractau sy'n gofyn am fesurau diogelwch priodol. Rhaid iddynt weithredu ar ein cyfarwyddiadau dogfennol, diogelu'r wybodaeth ac ni fyddant yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain ac eithrio lle caniateir hynny gan y gyfraith.

  • ysgolion, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid addysg lle mae hyn yn angenrheidiol i weinyddu neu gefnogi ymholiad ynghylch cyfrif

  • cyrff gorfodi'r gyfraith, rheoleiddwyr, llysoedd neu awdurdodau cyhoeddus eraill lle mae datgelu yn ofynnol neu'n cael ei ganiatáu gan y gyfraith, a

  • phartïon sy'n ymwneud ag ymchwilio i faterion diogelwch, diogelu neu gyfreithiol lle mae datgelu yn angenrheidiol ac yn gyfreithlon.

Dim ond y wybodaeth sy'n rhesymol angenrheidiol at y diben perthnasol yr ydym yn ei datgelu.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu gwybodaeth bersonol â darparwyr technoleg addysgol gwasanaethau Hwb. Mae manylion ein darparwyr technoleg addysgol, dolenni i'w hysbysiad preifatrwydd a'r data y maent yn eu prosesu fel a ganlyn:

Darparwr gwasanaeth

Gwasanaeth Hwb

Dysgwyr

Staff yr ysgol

Llywodraethwyr a defnyddwyr eraill

Gwybodaeth a rennir

Just2easy

Cyfres Offer J2e

Ie

Ie

Na

Enw cyntaf a chyfenw, enw defnyddiwr Hwb, rôl, ID Gwrthrych, enw a rhif yr ysgol

Microsoft Corporation

Microsoft 365 / Office 365

Ie

Ie

Ie

Enw cyntaf, canol a chyfenw, enw arddangos, enw defnyddiwr Hwb, cyfeiriad e-bost Hwb, rôl, ardal awdurdod lleol, enw a rhif ysgol

Google Inc

Google Workspace for Education, gan gynnwys YouTube ar gyfer staff

Ie

Ie

Ie

Enw cyntaf a chyfenw, enw defnyddiwr Hwb, cyfeiriad e-bost Hwb, rôl, ardal awdurdod lleol, enw a rhif ysgol, grwpiau dosbarth

Adobe Systems Software Ireland Limited

Adobe Express ac Adobe Creative Cloud, lle bo hynny'n cael ei drwyddedu

Ie

Ie

Na

Enw cyntaf a chyfenw, enw arddangos, enw defnyddiwr Hwb, cyfeiriad e-bost Hwb

Apple Inc

Gwasanaethau Apple, lle mae'r ysgol wedi optio i mewn

Ie

Ie

Na

Enw cyntaf a chyfenw, enw arddangos, enw defnyddiwr Hwb, cyfeiriad e-bost Hwb, enw a rhif ysgol, a grwpiau dosbarth

South West Grid for Learning Trust Ltd (SWGfL)

360 safe Cymru

Na

Ie

Na

Enw cyntaf a chyfenw, enw defnyddiwr Hwb, cyfeiriad e-bost Hwb, enw a rhif ysgol, rôl staff awdurdod lleol

Freshworks Ltd

Freshservice

Na

Ie

Ie

Enw cyntaf a chyfenw, enw defnyddiwr Hwb, cyfeiriad e-bost Hwb, enw a rhif ysgol, rôl gyffredinol, statws gweinyddwr Hwb, awdurdod lleol

Mae'r hysbysiadau preifatrwydd ar gyfer ein darparwyr gwasanaeth i'w gweld yn y dolenni isod.

Just2easy

Microsoft Corporation

Google Inc, sydd hefyd yn cynnwys YouTube (mae’r Cleient API yn defnyddio Gwasanaethau YouTube API)

Adobe Systems Software Ireland Limited

Apple Inc

South West Grid for Learning Trust Ltd (SWGfL)

Freshworks Ltd

Yn ogystal â'n darparwyr gwasanaeth, rydym yn rhannu gwybodaeth â rhannau eraill o Lywodraeth Cymru lle bo angen ar gyfer casglu data presenoldeb disgyblion a darparu asesiadau personol.

Data presenoldeb

Ers mis Medi 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi casglu data presenoldeb ar lefel disgyblion yn wythnosol. Rydym yn gwneud hyn er mwyn helpu i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r heriau o wella presenoldeb a lleihau anghydraddoldebau o ran presenoldeb. Mae data presenoldeb wythnosol yn ein helpu i ymateb i amgylchiadau sy'n newid mewn modd mwy amserol. Bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion ystadegol neu ymchwil yn unig.

Am ragor o fanylion ynglŷn â phrosesau casglu data Llywodraeth Cymru, cyfeiriwch at yr Hysbysiad Preifatrwydd Casglu Data Presenoldeb a Nodweddion Personol oddi wrth Ysgolion.

Asesiadau personol

Fel rhan o'n hymrwymiad i wella safonau addysgol yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno asesiadau personol ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu trefniadau asesu ar gyfer darllen a rhifedd i ddysgwyr.

Mae'r asesiadau personol yn cael eu datblygu gan gonsortiwm o bartneriaid, dan arweiniad AlphaPlus Consultancy Ltd, ar ran Llywodraeth Cymru.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am asesiadau personol ar Hwb.

Dysgwyr

Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu eich adborth asesu a'i rannu â'ch ysgol. Mae Asesiadau Personol yn casglu, prosesu a chadw eich data nes i chi gwblhau Blwyddyn Cwricwlwm 13 (18 oed), ac ar ôl hynny bydd yn cael ei gadw’n ddienw.

Mae manylion y data sy’n cael ei brosesu gan ein cyflenwr ar ein rhan fel a ganlyn:

  • enw cyntaf a chyfenw

  • dyddiad geni

  • rhyw

  • enw defnyddiwr Hwb, cyfeiriad e-bost a dynodwr system, ac

  • enw a rhif yr ysgol

  • gwybodaeth am y grŵp blwyddyn, blwyddyn cwricwlwm cenedlaethol, cofrestru, dosbarth a phwnc

  • rhif derbyn i'r ysgol

  • statws cofrestru h.y. a ydych ar y gofrestr ar hyn o bryd (cyfrif gweithredol) neu a ydych wedi gadael yr ysgol (cyfrif wedi'i analluogi)

  • statws cofrestru h.y. os ydych chi'n mynychu un ysgol neu fwy

  • rhif Disgybl Unigryw (UPN) wedi'i amgryptio

  • statws fel dysgwr

  • chanlyniadau asesiadau a gwblhawyd

Gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio gwybodaeth a all eich adnabod er mwyn:

  • datrys materion a godwyd gyda desg wasanaeth PA

  • rhannu gwybodaeth gyda chi a'ch ysgol mewn fformat adrodd

  • paru a/neu gysylltu setiau data o ddata statudol

  • galluogi dadansoddiad ystadegol i lywio polisïau addysg a chymdeithasol ehangach

Bydd y wybodaeth a ddefnyddir at ddibenion dadansoddi ystadegol ac ymchwil (a gynhelir mewn modd sy’n sicrhau nad yw’n bosibl adnabod plant a phobl ifanc unigol), yn cael eu defnyddio:

  • i fonitro perfformiad ac asesu ansawdd ein polisïau a'n gwasanaethau addysg fel y gellir eu gwella

  • i helpu i lywio, dylanwadu a gwella polisi addysg i bobl yng Nghymru

  • i gysylltu â setiau data eraill, gan gynnwys setiau data nad ydynt yn addysgol, i lywio polisïau addysg a chymdeithasol ehangach

  • at ddibenion cyhoeddi, sy'n cynnwys ystod o allbynnau ystadegol ar wefan Llywodraeth Cymru

Staff

Gall aelodau staff sydd wedi derbyn mynediad perthnasol weld gwybodaeth yn deillio o asesiadau dysgwyr unigol, a’r wybodaeth sydd ar gael i’w choladu ar lefel dosbarth, blwyddyn ac ysgol. Pennir lefel mynediad staff gan bennaeth yr ysgol.

Mae manylion y data sy’n cael ei brosesu gan ein cyflenwr ar ein rhan fel a ganlyn:

  • enw cyntaf a chyfenw

  • enw defnyddiwr Hwb, cyfeiriad e-bost a dynodwr system,

  • enw a rhif yr ysgol

  • grwpiau blwyddyn, cofrestru a dosbarth

  • statws fel aelod o staff

  • rôl staff e.e. pennaeth, dirprwy bennaeth, athro, cynorthwyydd addysgu, technegydd TG, gweinyddwr ac ati

Gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio gwybodaeth a all eich adnabod er mwyn:

  • datrys materion a godwyd gyda desg wasanaeth PA

  • rhannu gwybodaeth gyda chi a'ch ysgol mewn fformat adrodd

Treialon asesiadau personol

O bryd i'w gilydd, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal treialon ar raddfa fawr o ddeunydd asesu newydd y gofynnir i ysgolion gymryd rhan ynddynt. Gofynnir i ysgolion sy'n dymuno cymryd rhan gofrestru ymlaen llaw. Pwrpas y treialon hyn yw cefnogi datblygiad yr asesiadau personol, gwirio bod cwestiynau newydd yn gweithio fel y bwriadwyd, a chael adborth gan ddysgwyr ac athrawon.

Os yw eich ysgol yn cymryd rhan mewn treialon o’r fath, efallai y bydd gofyn i chi gymryd rhan, gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi i Amgylchedd Cwmwl Hwb yn yr ysgol. Dylai ysgolion esbonio i ddysgwyr sut i gael mynediad at yr asesiadau a darparu cyfarwyddiadau penodol yn unol â chanllawiau'r darparwr.

Bydd ymatebion dysgwyr yn cael eu cadw'n gyfrinachol a byddant yn cael eu defnyddio i'n helpu i ddeall sut mae'r asesiadau'n gweithio. Bydd yr ymatebion yn cael eu cadw gan Lywodraeth Cymru am 18 mis ar ôl diwedd pob treial, ac ar ôl hynny bydd y wybodaeth yn cael ei dinistrio. Ni fydd yr atebion i unrhyw gwestiynau yn cyfrannu at ganlyniadau asesu dysgwyr nac yn cael eu cynnwys mewn unrhyw adroddiad.

Treialu cwestiynau unigol yn fyw

O bryd i'w gilydd gall asesiad dysgwr gynnwys un cwestiwn 'prawf' ychwanegol ar y diwedd. Ni fydd ateb y dysgwr i'r cwestiwn yn rhan o ganlyniad yr asesiad nac yn cael ei gynnwys mewn unrhyw adroddiad.

Mae ychwanegu cwestiwn prawf at asesiad yn ffordd o gasglu data ynghylch sut mae dysgwyr yn ateb y cwestiynau newydd cyn iddynt gael eu hychwanegu at fanc cwestiynau asesu. Os cewch gwestiwn prawf, bydd yn cyfateb â'ch blwyddyn cwricwlwm a bydd bob amser yn cael ei gynnwys fel cwestiwn olaf mewn asesiad. Bydd ymateb i'r cwestiwn prawf yn cael ei gadw yn unol â data asesu arall.

Cymorth a gwybodaeth am ohebiaeth

Os byddwch yn cysylltu â chymorth Hwb neu'n llenwi ffurflen Llywodraeth Cymru, efallai y byddwn yn casglu’r canlynol:

  • eich enw a'ch manylion cyswllt

  • eich ysgol, eich sefydliad a'ch rôl

  • gwybodaeth am eich cyfrif a gwybodaeth dechnegol

  • manylion eich ymholiad neu gais am gymorth

  • gohebiaeth a gwybodaeth ategol a ddarperir gennych a

  • chofnodion o'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'ch cais

Peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol neu sensitif ddiangen mewn ceisiadau cymorth at sylw hwb@gov.wales.

Trosglwyddiadau rhyngwladol

Efallai y bydd rhai cyflenwyr yn prosesu neu’n darparu mynediad at wybodaeth bersonol o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig. Pan fydd hyn yn digwydd, mae mecanwaith trosglwyddo priodol a mesurau diogelu ar waith fel sy'n ofynnol gan gyfraith diogelu data'r DU.

Am ba hyd y byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol

Mae gwybodaeth cyfrif Hwb yn cael ei chadw tra bod y cyfrif yn parhau i fod yn weithredol ac am hyd at 12 mis ar ôl ei analluogi, ac ar ôl hynny bydd y cyfrif a'r wybodaeth hunaniaeth gysylltiedig a reolir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu dileu, oni bai:

  • bod y cyfrif yn cael ei ail-alluogi yn ystod y cyfnod analluogi

  • bod amgylchiadau eithriadol a bod angen cadw gwybodaeth oherwydd ymchwiliad, pryder diogelu, hawliad cyfreithiol neu ddaliad ymgyfreitha

Mae cyfrifon dysgwyr yn parhau i fod yn weithredol trwy gydol eu bywyd ysgol, ac mae cyfrifon i’r rhai nad ydynt yn ddysgwyr yn parhau i fod yn weithredol drwy gydol eu cyfnod neu gysylltiad â'r ysgol neu'r sefydliad.

Dylai'r rheolwr sy'n gyfrifol am y wybodaeth honno bennu'r cyfnod cadw ar gyfer data a gynhyrchir gan ddefnyddwyr o fewn gwasanaeth Hwb. Lle nad oes polisïau cadw lleol yn berthnasol, bydd yr holl ddata a gwybodaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr yn cael eu dileu wrth ddileu’r cyfrif.

Diogelwch

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio mesurau sefydliadol a thechnegol sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu gwybodaeth bersonol rhag mynediad anawdurdodedig, colli damweiniol, newid, datgelu neu ddinistrio. Mae mynediad wedi'i gyfyngu i unigolion a chyflenwyr awdurdodedig sydd ei angen ar gyfer eu rôl. Gellir monitro ac ymchwilio i ddigwyddiadau diogelwch i ddiogelu defnyddwyr ac Amgylchedd Cwmwl Hwb.

Rhaid i ddefnyddwyr ddilyn y gofynion diogelwch cyfrif a defnydd derbyniol a nodir yn Nhelerau ac Amodau Hwb.

Cwcis

Mae'r gwasanaeth a ddarperir drwy Amgylchedd Cwmwl Hwb yn defnyddio cwcis hanfodol a thechnolegau tebyg sydd eu hangen i ddilysu defnyddwyr, cynnal sesiynau, diogelu cyfrifon a darparu swyddogaethau craidd. Pan ddefnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol, bydd defnyddwyr yn derbyn gwybodaeth a dewisiadau priodol. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau a reolir gan Lywodraeth Cymru ar gael isod:

Mae Microsoft yn darparu'r adnoddau canlynol trwy eu dogfennau preifatrwydd canolog:

Mae Google yn darparu manylion am eu mathau o gwcis a throsolwg o’u technolegau ar gyfer eu gwasanaethau, sydd i'w gweld ar y dudalen we hon Google Cookie Types & Technologies Overview. Mae hyn yn darparu manylion ar gyfer:

  • Gwasanaethau "Craidd" Google (e.e. Classroom, Drive, Docs, Sheets, Meet)

  • Cwcis Hanfodol yn Unig

  • Cwcis Dim Hysbysebu

  • Gwasanaethau Ychwanegol (e.e. YouTube, Google Maps, Earth)

Mae Adobe yn darparu manylion eu polisïau cwcis.

Newidiadau i'r hysbysiad hwn

Efallai y byddwn yn diweddaru'r hysbysiad hwn i adlewyrchu newidiadau i Amgylchedd Cwmwl Hwb neu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn prosesu gwybodaeth bersonol.

Bydd y fersiwn ddiweddaraf yn cael ei chyhoeddi yng Nghanolfan Gymeradwyo Cwmwl Hwb. Pan fydd newid yn effeithio'n sylweddol ar sut mae gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio, byddwn yn anfon e-bost at ddefnyddwyr i'w hysbysu.


Cyhoeddwyd gyntaf
Dydd Mawrth, 27 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Mawrth, 27 Hydref 2026