Rwy’n gallu dangos chwilfrydedd a chwestiynu sut mae pethau’n gweithio.
Rwy’n gallu archwilio’r amgylchedd, gwneud arsylwadau a mynegi fy syniadau.
Rwy’n gallu gofyn cwestiynau a defnyddio fy mhrofiad i awgrymu dulliau ymholi syml.
Rwy’n gallu adnabod patrymau ar sail fy arsylwadau a’m hymchwiliadau, ac rwy’n gallu mynegi fy nghanfyddiadau.
Rwy’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth i ragfynegi effeithiau fel rhan o’m hymchwiliadau gwyddonol.
Rwy’n gallu adnabod y gall yr hyn a wnaf, a’r pethau a ddefnyddiaf, gael effaith ar fy amgylchedd ac ar bethau byw.
Rwy’n gallu archwilio’r berthynas rhwng pethau byw, eu cynefinoedd a’u cylchoedd bywyd.
Rwy’n gallu arsylwi ar a disgrifio’r ffyrdd y mae defnyddiau yn newid wrth eu cymysgu gyda’i gilydd.
Rwy’n gallu archwilio gwahanol ffurfiau o egni, a sut y mae’n gallu cael ei drosglwyddo.
Rwy’n gallu archwilio a mynegi priodweddau sylfaenol golau, sain, trydan a magnetau.
Rwy’n gallu nodi pethau yn yr amgylchedd a all fod yn niweidiol, a gallu gweithredu er mwyn lleihau risg i mi fy hun ac i eraill.
Rwy’n gallu nodi cwestiynau y mae modd eu hymchwilio’n wyddonol, a gallu awgrymu dulliau ymholi addas.
Rwy’n gallu awgrymu canlyniadau ar sail fy ngwaith ymchwil.
Rwy’n gallu gwerthuso dulliau er mwyn awgrymu gwelliannau.
Rwy’n gallu ymchwilio, dyfeisio a defnyddio dulliau ymholi addas er mwyn ymchwilio i’m cwestiynau gwyddonol.
Rwy’n gallu ddefnyddio fy nghanfyddiadau er mwyn dod i gasgliadau dilys.
Rwy’n gallu gwerthuso a nodi ffyrdd o wella dibynadwyedd data, gan ystyried anomaleddau.
Rwy’n gallu dyfeisio, cyfiawnhau a defnyddio dulliau ymholi systematig er mwyn ymchwilio’n drylwyr i gwestiynau gwyddonol, a gallu adnabod cyfyngiadau.
Rwy’n gallu cysylltu canfyddiadau arbrofol a gwybodaeth ddamcaniaethol er mwyn dod i gasgliadau dilys.
Rwy’n gallu gwerthuso ansawdd data yn feirniadol, a chyfiawnhau gwelliannau.