Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Y Celfyddydau Mynegiannol

Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol

Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol

Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg

Iechyd a Lles

Mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes

Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol

Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill

Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydyn ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles

Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein lles

Y Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol

Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd

Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol

Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd

Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o’n hamgylch

Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu

Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd

Mathemateg a Rhifedd

Defnyddir y system rif i gynrychioli a chymharu'r perthnasoedd rhwng rhifau a meintiau

Mae algebra yn defnyddio systemau symbolau i fynegi strwythur perthnasoedd mathemategol

Mae geometreg yn canolbwyntio ar berthnasoedd sy'n ymwneud â siâp, gofod a safle, ac mae mesur yn canolbwyntio ar feintioli ffenomena yn y byd ffisegol

Mae ystadegau yn cynrychioli data, mae tebygolrwydd yn modelu siawns, ac mae’r ddau yn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau

Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas

Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi

Mae mater a’r ffordd y mae’n ymddwyn, yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau

Mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd

Mae cyfrifiaduraeth yn gosod sail i’n byd digidol