Nod y dogfennau strategaeth a chanllawiau hyn yw cefnogi’r gwaith o ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein. Mae gwybodaeth a chyngor cyffredinol am ddiogelwch ar-lein ar gael yn ogystal â chymorth i ddelio â materion penodol.
Yr hyn rydym wedi'i wneud i roi gwybodaeth, sgiliau a strategaethau rhagorol i'n plant a'n pobl ifanc yn ein 3 maes ffocws allweddol ar gyfer cadernid digidol (diogelwch ar-lein, cadernid seiber a diogelu data).
Canllawiau i gyrff llywodraethu a phwyllgorau rheoli i helpu i wella dealltwriaeth ysgolion o'u risgiau seiberddiogelwch.
Gwybodaeth am sut i baratoi ac ymateb i ddigwyddiadau seiber.
Canllawiau ar gyfer deall ac ymateb yn ofalus i heriau a thwyll feirol ar-lein i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cadw'n ddiogel ar-lein.
Canllawiau wedi'u hanelu at holl staff yr ysgol i helpu gyda deall, cydnabod ac ymateb i iaith ac ymddygiad sy’n beio’r dioddefwr o fewn eu lleoliadau.
Canllawiau sy’n trafod sut i ymateb i faterion sy’n ymwneud ag enw da ar-lein gan gynnwys trafodaeth negyddol am yr ysgol neu staff yr ysgol ar-lein.
Camau ymarferol y gall ymarferwyr addysg a staff cynorthwyol eu cymryd i reoli eu henw da ar-lein.
Canllawiau a pholisïau a thempledi enghreifftiol y gellir eu diwygio i ateb anghenion y ddarpariaeth.
Gwybodaeth am sut i ddiogelu gwybodaeth sensitif am eich lleoliad a'r plant yn eich gofal.
Canllawiau ar llyw.cymru ar gyfer diogelu statudol mewn addysg sy’n rhoi gwybodaeth i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu am eu dyletswyddau. Mae hefyd yn cynnwys cyngor am y trefniadau a ddylai fod ar waith i ddiogelu plant. Mae Adran 7 yn ymwneud yn benodol â chadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein.
Gweithdrefnau sy’n rhoi arweiniad am arferion diogelu i'w defnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.