Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Gwe-grafu (neu 'grafu data') yw'r broses o echdynnu cynnwys a data o'r we yn awtomatig.

Mae awdurdodau'n nodi cynnydd yn nifer y digwyddiadau sy'n ymwneud â gwe-grafu. Mae'r digwyddiadau hyn yn deillio yn enwedig o'r cyfryngau cymdeithasol ac o wefannau eraill sy'n dal data a chynnwys sydd ar gael i'r cyhoedd.

Mae gwe-grafu yn hwyluso casglu cynnwys cyhoeddus ar raddfa.

Risgiau i ysgolion

Gall y delweddau gael eu casglu gan drydydd partïon na fydd ysgolion efallai’n gallu eu gweld, eu hadnabod na'u hatal. Mae gwe-grafu o’r cyfryngau cymdeithasol neu wefannau ysgolion yn creu risgiau preifatrwydd a niwed posibl i blant a phobl ifanc a staff ysgol. Gall y delweddau gael eu:

  • defnyddio

  • camddefnyddio

  • eu trin a'u defnyddio at ddibenion nad yw'r bobl ifanc wedi cydsynio iddyn nhw

Ystyriaethau cyn postio delweddau

Cyn postio unrhyw ddelwedd ar-lein, ystyriwch:

  • pwy fydd yn gallu gweld y ddelwedd a sut y gellid ei defnyddio

  • sut allwch chi gadw rheolaeth dros y ddelwedd

  • a oes ffordd fwy addas o rannu'r ddelwedd nag ar wefan gyhoeddus

  • a allai postio'r ddelwedd arwain at blentyn neu berson ifanc yn wynebu unrhyw risg neu ei wneud yn agored i niwed

Cofiwch y gall unrhyw un gopïo, lawrlwytho, tynnu sgrin-lun neu rannu unrhyw ddelwedd sy'n cael ei chyhoeddi'n gyhoeddus. Gall y delweddau hyn gael eu haddasu, eu trin a'u defnyddio'n amhriodol.

Risgiau sy’n gysylltiedig â rhannu delweddau

Mae postio delweddau ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol a gwefannau eraill yn gallu gwneud plentyn yn fwy agored i niwed. Mae hyn yn arbennig o wir os yw delwedd yn cael ei rannu ochr yn ochr â gwybodaeth fel manylion personol neu dagiau lleoliad.

Gall hefyd effeithio ar ôl troed digidol plentyn neu berson ifanc. Mae risgiau posibl amlygiad digidol yn gallu para am oes. Hyd yn oed os rhoddir caniatâd rhiant neu ofalwr efallai na fydd pobl ifanc bob amser yn gyfforddus â sut mae eu delweddau'n cael eu portreadu, nawr ac yn y dyfodol.

Mae cynnydd mewn technoleg ffugiad dwfn yn peri risg ddifrifol o ran creu a lledaenu delweddau amhriodol a niweidiol. Mae ffugiadau dwfn yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i gynhyrchu delweddau a fideos realistig iawn a all bortreadu unigolion yn ffug mewn senarios niweidiol neu gamdriniol.

Gall y delweddau hyn gael eu newid neu eu trin yn ddigidol mewn ffyrdd niweidiol, gan gynnwys creu cynnwys amhriodol neu gamarweiniol. Mewn rhai achosion, mae cynnwys o'r fath wedi'i ddefnyddio i dargedu unigolion neu ysgolion trwy fygythiadau gorfodol neu ariannol. Mae hyn nid yn unig yn achosi niwed seicolegol aruthrol i ddioddefwyr a'u teuluoedd ond mae hefyd yn cymhlethu ymdrechion cyfreithiol a diogelu, gan fod gwahaniaethu rhwng delweddau go iawn a delweddau ffug yn dod yn fwyfwy anodd. Dylai ysgolion fod yn ymwybodol o'r risgiau hyn a chymryd camau i leihau amlygiad.

I gael cymorth pellach ar ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, dylai ysgolion ddefnyddio'r canllawiau canlynol.


Cyhoeddwyd gyntaf
Dydd Mawrth, 23 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Gwener, 5 Rhagfyr 2025